Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n gyfarwydd iawn â phresenoldeb Prifysgol De Cymru ar lannau'r afon ar y campws yng nghanol dinas Casnewydd, sy'n hynod lwyddiannus, ac rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau eraill y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o fuddsoddi mewn addysg yng Nghasnewydd, ochr yn ochr â chyngor y ddinas. Rydym yn buddsoddi dros £50 miliwn yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ardal Casnewydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu £25.5 miliwn o hwnnw. A hynny i gyd, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, yn erbyn cefndir lle mae ein cyllidebau cyfalaf £400 miliwn yn llai yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag yr oeddent yn 2009-10, gyda'r holl effaith y mae hynny'n ei gael ar ein gallu i ariannu cynlluniau pwysig. Rydym yn bwrw ymlaen â'r model buddsoddi cydfuddiannol Cymru. Bydd hynny'n gwneud cyfraniad at fand B rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac nid oes gennyf amheuaeth, wrth i'r cynllun y mae'r Aelod yn cyfeirio ato symud ymlaen, y byddwn yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud, drwy gyfalaf confensiynol neu drwy ffyrdd arloesol o ariannu, pe bai'r cynllun hwnnw'n dod i'n sylw.