Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 24 Ionawr 2018.
Byddwch wedi fy nghlywed yn gofyn i'r Prif Weinidog ddoe am ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, yn ymchwiliad y pwyllgor yr wythnos diwethaf, roedd arwydd bod cynnydd sylweddol yng nghostau'r prosiect penodol hwn. Fel Ysgrifennydd Cyllid, sydd a chyfrifoldeb am gyllidebau cyfalaf, ymhle y credwch y mae'r pwynt tyngedfennol ar gyfer y cynllun hwn, gyda'r costau ychwanegol a ragwelir ar hyn o bryd? Oherwydd mae Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd wedi dynodi, pan gafodd ei holi gan yr Aelod dros Lanelli, fod yna bwynt tyngedfennol. Felly, pa asesiad a wnaethoch o'r cynllun hwn a'r gallu i fwrw ymlaen ag ef mewn gwirionedd?