Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 24 Ionawr 2018.
Mater y trethi tai haf a thai gwyliau sydd gennyf i dan sylw. Mi anfonodd Steffan Lewis a minnau lythyr atoch chi cyn y Nadolig er mwyn nodi ein pryderon ynglŷn â'r mater o dai haf yn trosglwyddo i gategori tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth cyngor. Mae yna dros 500 o eiddo wedi trosglwyddo o'r dreth cyngor i drethi busnes yng Ngwynedd, gan arwain at golled o dros £1.7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Mi wnaethoch chi ymateb drwy egluro bod yna beth gweithredu wedi digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ond pa mor hyderus ydych chi fod y rheolau yr ydych chi wedi eu cyflwyno i'r system am daclo'r broblem yn llawn? Onid oes gwneud llawer mwy, mewn gwirionedd?