1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system dreth yng Nghymru? OAQ51625
Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i edrych ar ffyrdd newydd o atal osgoi trethi, osgoi artiffisial a gwella lefelau cydymffurfio ar gyfer yr holl drethi Cymreig. Mae hynny’n cynnwys trethi lleol a’r trethi cenedlaethol fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2018.
Mater y trethi tai haf a thai gwyliau sydd gennyf i dan sylw. Mi anfonodd Steffan Lewis a minnau lythyr atoch chi cyn y Nadolig er mwyn nodi ein pryderon ynglŷn â'r mater o dai haf yn trosglwyddo i gategori tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth cyngor. Mae yna dros 500 o eiddo wedi trosglwyddo o'r dreth cyngor i drethi busnes yng Ngwynedd, gan arwain at golled o dros £1.7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus. Mi wnaethoch chi ymateb drwy egluro bod yna beth gweithredu wedi digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, ond pa mor hyderus ydych chi fod y rheolau yr ydych chi wedi eu cyflwyno i'r system am daclo'r broblem yn llawn? Onid oes gwneud llawer mwy, mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, a gaf i ddweud gair o ddiolch i Siân Gwenllian am y wybodaeth y mae hi wedi ei rhoi i mi a'r llythyron rydym wedi eu derbyn oddi wrth Steffan Lewis a hithau? Rydw i wedi derbyn cyngor oddi wrth fy swyddogion i. Ar hyn o bryd, rydw i'n meddwl bod rheolau yno i ddelio â'r sefyllfa mae Siân Gwenllian wedi tynnu sylw ati. Nid ydym ni eto mewn sefyllfa lle rydym yn gallu bod yn hyderus ynghylch sut bydd pethau yn troi mas ar y tir ledled Cymru. Rydw i wedi ysgrifennu yn ôl, heddiw, i'r Aelod, ar ôl yr ail lythyr rwyf wedi ei dderbyn, i ddweud, ar ôl ystyried beth mae hi wedi ei ddweud, fy mod i wedi newid cynllun gwaith y polisi trethi newydd rwyf yn mynd i'w gyhoeddi, gobeithio, ym mis Chwefror, i roi'r mater hwn ar y cynllun gwaith ac i wneud mwy dros y flwyddyn sydd i ddod i gasglu gwybodaeth, i weithio gyda'r Valuation Office Agency a gyda'r awdurdodau lleol. Felly, cawn ni weld. Os, ar ddiwedd y dydd, gallwn ni weld drwy'r dystiolaeth fod problem fawr yno, bydd rhaid i ni wneud pethau. Os yw'r pethau sydd gennym ar hyn o bryd yn ddigon cryf i ddelio â'r broblem, wel, bydd y wybodaeth y byddwn ni'n gallu ei chasglu dros y flwyddyn i ddod yn gallu dangos hynny hefyd.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod holl dalwyr y dreth incwm yng Nghymru yn cael eu nodi cyn bod treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol, ac nad ydym eisiau wynebu'r un anawsterau a gododd wrth ddatganoli treth incwm yn yr Alban, pan gafodd nifer o bobl eu camddosbarthu?
Wel, mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn a diolch i Mike Hedges am ei godi. Mae'n gywir yn dweud, pan ddatganolwyd cyfrifoldebau treth incwm i'r Alban, fod yna rai problemau cychwynnol wedi'u profi gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi o ran nodi'n gywir pa unigolion a oedd bellach yn ddarostyngedig i gyfraddau treth incwm yr Alban. Mae CThEM yn dweud wrthym eu bod wedi dysgu o'r profiad hwnnw a'u bod mewn sefyllfa well i sicrhau, pan fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn dod yn realiti o fis Ebrill eleni ymlaen, y bydd modd iddynt osgoi rhai o'r anawsterau a gawsant y tro cyntaf. Mae yna fanteision, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, mewn dod yn ail gyda rhai o'r pethau hyn. Fodd bynnag, mae'r swyddog gweithredol sydd â'r cyfrifoldeb pennaf am y materion hyn yn CThEM yn dod i'r Pwyllgor Cyllid ddydd Mercher yr wythnos nesaf fel y gallwn graffu arno mewn perthynas â'r materion hyn. Byddaf yn ei gyfarfod ar yr un diwrnod, a byddaf yn sicr yn edrych am sicrwydd pellach ganddo, wrth i gyfrifoldebau treth incwm Cymru ddod yn realiti, y bydd CThEM yn gallu cyflawni eu hochr hwy o'r fargen honno.