Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:57, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ffordd arall y cafodd y gronfa yswiriant gwladol ei disgrifio, wrth gwrs, yw fel 'cynllun Ponzi mwyaf y byd', fel y mae wedi datblygu. Gobeithiaf na fyddwn yn ail-greu rhywbeth felly yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod gennym gyfle yma i wneud rhywbeth tebyg i'r hyn a wnaed yn Norwy, er enghraifft, mewn perthynas â'r arian annisgwyl a ddaeth i'w rhan pan ddechreuodd olew Môr y Gogledd lifo ac aethant ati i greu cronfa gyfoeth sofran, sydd bellach yn cynhyrchu difidendau helaeth i bobl Norwy, ac ar y sail honno y mae eu safon byw uchel iawn a'u hyswiriant cymdeithasol a'u darpariaeth iechyd ac ati yn cael ei gyllido i raddau helaeth. Nid oes gennym gyfoeth o olew, ond mae gennym gyfoeth yng ngallu creadigol ein pobl. Os gallwn neilltuo cyfran fach o incwm cenedlaethol ar gyfer cronfa gyfoeth sofran o'r math hwn, yna efallai y gallem helpu i gau cylch ariannu anghenion cynyddol poblogaeth sy'n heneiddio a system iechyd a fydd yn gallu gwella cymaint yn fwy o gyflyrau sydd, yn y gorffennol, wedi arwain at farwolaethau cynnar. Felly, y naill ffordd neu'r llall, rhan o ffyniant cynyddol cenedl yw iechyd a lles ei phobl ac mae hyn yn cyd-fynd yn daclus â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried trethi gyda'r Ddeddf honno, rwy'n credu, os ydym eisiau sicrhau bod datganoli yn y maes penodol hwn yn llwyddiant.