Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma? Pan gyhoeddasom ein rhestr fer o drethi posibl o dan Ddeddf Cymru 2014, yr union reswm dros wneud hynny oedd er mwyn ysgogi trafodaeth am y modd y gellid defnyddio'r pwerau newydd hyn i Gymru at ddibenion a fydd o bwys i bobl yng Nghymru yn y dyfodol. Credaf fod rhai o'r materion a godwyd gan yr Aelod y prynhawn yma yn helpu i greu trafodaeth o'r fath ac maent wedi gwneud hynny mewn maes, fel y mae pawb ohonom yn gwybod, o ystyried strwythur oedran ein poblogaeth a beth y mae hynny'n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol, lle mae dadl o'r fath yn anochel os ydym am baratoi'n briodol ar gyfer y dyfodol hwnnw.