Y Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:02, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod dyled mentrau cyllid preifat yng Nghymru tua un rhan o bump o gost y pen y DU yn ei chyfanrwydd? Ac a fyddech yn cytuno bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein rhaglen cyfalaf cyhoeddus i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn ffordd egwyddorol a chyfrifol ymlaen ar gyfer adeiladu ysbytai newydd yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, ac a allwch chi, unwaith eto, nodi pa ffordd ymlaen fyddai orau gennych chi ar gyfer ariannu'r ystâd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?