1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf? OAQ51620
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae dyraniad y gyllideb ar gyfer portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol y flwyddyn nesaf yn uwch nag erioed ar hyn o bryd, gyda gwerth £7.3 biliwn o refeniw a £294 miliwn mewn cyfalaf.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf mewn gwirionedd yn gofyn am eglurder ar y broses a ddefnyddiwch i bennu dyraniadau'r gyllideb. Gwrandewais ar eich ateb blaenorol i lefarydd Plaid Cymru. Nid oes gennyf gymaint o ddiddordeb mewn gwybod sut rydych yn mesur y canlyniadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdanynt, ond yn hytrach sut y byddwch chi eich hun yn mynd ati i bennu'r ganran o gyllideb gyffredinol y Llywodraeth. Pa ragdybiaethau rydych chi'n eu defnyddio? Er enghraifft, a ydych yn dweud yn syml, 'Y llynedd, roedd gennych x biliwn o bunnoedd; rwyf am ychwanegu canran chwyddiannol a dyna beth a gewch', neu a ydych yn edrych ar yr achos busnes a adeiladwyd yn ariannol o'r gwaelod i fyny ac yna'n asesu yn ôl y balans hwnnw? Ac os ydych, a yw'r rhagdybiaethau hynny'n gyhoeddus?
Lywydd, mae'r ffordd y pennir dyraniadau ar draws y Llywodraeth yn dechrau gyda chyfres o drafodaethau dwyochrog rhyngof fi a holl gyd-Aelodau eraill y Cabinet lle mae'r cyd-Aelodau'n gwneud cynigion i ddangos sut y gellir bodloni blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth a beth fyddai goblygiadau ariannol gwneud hynny. Fy swydd i drwy'r trafodaethau hynny yw ceisio gwneud i'r swm o arian sydd gennym—a bydd yr Aelod yn gwybod yn iawn ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn ystyried ei fod yn annigonol i ddiwallu anghenion poblogaeth Cymru—sut y gallwn wneud y gorau o'r arian sydd gennym. Yn benodol ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, rydym yn ceisio cyflawni'r ymrwymiadau rydym wedi eu gwneud fel Llywodraeth. Dyna pam fod gennym gronfa triniaethau newydd; gallodd Ysgrifennydd y Cabinet esbonio llwyddiant y gronfa honno yn gynharach yr wythnos hon. Dyna pam fod £7 miliwn yn y gyllideb y flwyddyn nesaf i fwrw ymlaen â'n penderfyniad i godi'r terfyn cyfalaf mewn perthynas â gofal preswyl i £50,000.
Ac yn y gyllideb iechyd yn gyffredinol, rydym yn ceisio cau'r hyn rydym yn ei alw yn fwlch Nuffield. Bydd yr Aelod yn gyfarwydd â'r adroddiad a gyhoeddwyd yn y Cynulliad diwethaf a oedd yn dangos, hyd yn oed pe bai'r gwasanaeth iechyd ei hun yn parhau i wneud yr enillion effeithlonrwydd y mae'n rhaid i ni ofyn iddo eu gwneud, byddai angen buddsoddiad ychwanegol o £200 miliwn gan Lywodraeth Cymru o hyd oherwydd pwysau demograffig a'r ffaith bod triniaethau newydd yn dod ar gael. Byddwn wedi cyflawni hynny ym mhob blwyddyn o dymor y Cynulliad hwn ac wedi mynd ymhell y tu hwnt iddo.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gadarnhau bod dyled mentrau cyllid preifat yng Nghymru tua un rhan o bump o gost y pen y DU yn ei chyfanrwydd? Ac a fyddech yn cytuno bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ein rhaglen cyfalaf cyhoeddus i fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol dros y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn ffordd egwyddorol a chyfrifol ymlaen ar gyfer adeiladu ysbytai newydd yng Nghymru, gan gynnwys Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cwm Cynon, Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Alltwen yn Nhremadog, ac a allwch chi, unwaith eto, nodi pa ffordd ymlaen fyddai orau gennych chi ar gyfer ariannu'r ystâd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae hi, wrth gwrs, yn hollol gywir fod gennym lawer llai o gysylltiad â chynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae cost flynyddol gyfartalog y pen y cynlluniau mentrau cyllid preifat yng Nghymru gryn dipyn yn is na £40 y pen, ac mae hynny oddeutu un rhan o bump o gost y pen ar gyfer y DU gyfan. Lle roedd gan weinyddiaethau safbwynt gwahanol, mae yna, yn anochel, ganlyniad sy'n rhaid iddynt ddarparu ar ei gyfer. Yng Nghymru, mae'r tâl blynyddol am ddyledion mentrau cyllid preifat yn is nag 1 y cant o'n cyllideb. Yn yr Alban, mae'n rhaid i fy nghyd-Aelod, y Gweinidog cyllid, ddod o hyd i 5 y cant o'i gyllideb bob blwyddyn i dalu dyledion mentrau cyllid preifat. Lywydd, yn nyddiau cynnar iawn y Cynulliad, rwy'n cofio'r penderfyniadau anodd y bu'n rhaid i fy nghyd-Aelod Jane Hutt eu gwneud ym maes mentrau cyllid preifat o ganlyniad i etifeddu cynlluniau pan gafodd y Cynulliad ei sefydlu gyntaf.
Rwyf wedi egluro i'r Pwyllgor Cyllid o'r blaen fod gennyf hierarchaeth mewn cof bob amser mewn perthynas â gwariant cyfalaf. Fy ymateb cyntaf, bob tro, yw defnyddio cyfalaf cyhoeddus, am mai dyna'r arian rhataf a fydd gennym byth, a byddaf bob amser yn defnyddio hwnnw yn gyntaf. Mae gennym ddulliau eraill y gallwn eu mabwysiadu wedyn—pwerau benthyca sydd gennym yn awr, ariannu awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fenthyca yn y ffordd a sefydlwyd gan Jane Hutt, ac yna, y tu hwnt i hynny, y model buddsoddi cydfuddiannol. Ond cyn belled ag y bo modd, rydym yn defnyddio cyfalaf cyhoeddus ym maes iechyd fel ein dewis cyntaf, a phan nad ydym yn gallu bodloni'r holl anghenion y gwyddom eu bod yn bodoli yng Nghymru, fel ein penderfyniad, er enghraifft, i greu canolfan ganser newydd yn Felindre, yna byddwn yn defnyddio dulliau eraill i sicrhau bod y Cymry'n cael y gwasanaethau y maent eu hangen.
Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ51629] yn ôl. Cwestiwn 6—David Melding.