Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:40, 24 Ionawr 2018

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn absenoldeb y llefarydd ar gyllid, rydw i'n gobeithio y gwnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet faddau i fi am grybwyll iechyd. Ond peidiwch â phoeni—yng nghyd-destun dyraniad cyllidebau mae fy nghwestiynau i.

Ysgrifennydd Cabinet, sut mae Llywodraeth Cymru, wrth ddyrannu arian i gyrff cyhoeddus mawr fel y gwasanaeth iechyd, yn sicrhau bod yr arian yna yn cael ei wario mewn modd sydd yn gyson efo'r egwyddorion sydd wedi cael eu nodi gan y Llywodraeth?