Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, Lywydd, mae hwnnw, yn y bôn, yn fater i'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth iechyd, ond rwy'n ddigon cyfarwydd â'r maes hwnnw i wybod y bydd ganddo ffyrdd uniongyrchol iawn o olrhain, drwy ei gysylltiadau â chadeiryddion, ac yna gyda phrif weithredwyr, y ffordd y mae'r arian y gallwn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio'n briodol gan y cyrff mawr hynny, fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi'i ddweud—eu bod yn defnyddio'r arian y gallwn ei ddarparu ar eu cyfer yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwy'n cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bob mis fel fy mod, yn unol â fy nghyfrifoldeb dros reoli'r gyllideb gyffredinol, yn gallu cadw mewn cysylltiad â'r ffordd y mae'n rheoli'r darn sylweddol iawn hwnnw o Lywodraeth Cymru y mae'n gyfrifol amdano.