Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:43, 24 Ionawr 2018

Wel, rydw i'n gyfarwydd, Llywydd, gyda'r pwynt mae'r Aelod yn ei wneud, ac yn y broses yr ydym ni wedi'i defnyddio i greu'r gyllideb y flwyddyn yma, rydym ni wedi rhoi mwy o fanylion ar lefel is na'r lefel yr ŷm ni wedi'i roi o'r blaen yn yr ail gam yn y broses newydd. Ble rŷm ni yn gallu gwneud mwy i roi mwy o fanylion i helpu'r Aelodau i graffu ar beth rŷm ni'n ei wneud fel Llywodraeth, rŷm ni'n agored i weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid a phobl arall i weld sut ŷm ni'n gallu ei wneud. Rydw i'n meddwl yr ŷm ni wedi mynd cam ymlaen yn y broses yna, yn y broses newydd yr ŷm ni wedi'i defnyddio dros yr hydref.