Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:42, 24 Ionawr 2018

Diolch yn fawr iawn. Rydw i yn gweld yr ateb yna yn ddefnyddiol. Mae hi yn nod, er enghraifft, gan y Llywodraeth i gynyddu gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned, ond mae hi'n anodd gwirio a ydy hynny'n digwydd o ran lle mae'r arian yn mynd oherwydd mai un llinell gyllid yr ydym ni'n ei chael gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet. Onid ydych chi'n credu bod yna le i roi rhagor o is-linellau cyllid, os liciwch chi, er mwyn i chi fel Llywodraeth allu gwirio a ydy'r gwasanaeth iechyd yn gwneud yr hyn yr ydych chi yn dymuno iddyn nhw ei wneud, ond hefyd er mwyn ei wneud yn haws i ni fel Aelodau Cynulliad eich dal chi i gyfrif fel Llywodraeth?