Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:08, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd yn derbyn ei fod yn waith sydd ar y gweill, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd, ac wrth wneud hynny, anfon neges at y sector cyhoeddus cyfan y gallai hwn fod yn gyfle arloesol i weld cydweithio a chyllidebau cyfun ar waith o'r diwedd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 ac mae wedi bod yn alwad gyson fod angen i ni wella ein hymdrechion drwy fabwysiadu'r dull cyffredinol hwn o ymdrin â gwariant cyhoeddus, ac mae'r meddylfryd seilo hwn yn niweidiol tu hwnt. Gallai'r byrddau gwasanaethau lleol, er enghraifft, ddefnyddio'r Ddeddf fel arf hynod ddeinamig i sicrhau bod y bunt Gymreig yn cael ei gwario'n effeithiol yn y ffordd hon.