1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 24 Ionawr 2018.
6. Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51613
8. Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet? OAQ51612
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 6 ac 8 gael eu grwpio gyda'i gilydd.
Ymhlith y newidiadau a ddaeth yn sgil cyllideb 2018-19, mae'r buddsoddiad ychwanegol o £30 miliwn ar gyfer digartrefedd dros ddwy flynedd, gan gynnwys £10 miliwn yn benodol ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn 2019-20, yn dangos effaith y Ddeddf, a'r pum ffordd o weithio a nodir ynddi, gan gynnwys cyfranogiad ac atal, ar ein proses o gynllunio'r gyllideb.
Ysgrifennydd Cabinet, tybed a ydych yn sylweddoli bod teimlad cyffredinol, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Cynulliad, y dylem fod yn fwy heriol o ran sut y cyflwynir y wybodaeth hon ac felly, o'r modd y caiff ei chraffu a'i chysylltu â'r nodau llesiant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth y Pwyllgor Cyllid—a dyfynnaf:
Yn hytrach na theimlo bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael effaith ar y Gyllideb ddrafft, roedd yn agosach at fod yn debyg i gyllideb y llynedd, ond gydag ychydig eiriau ychwanegol.
Mae'n rhaid i ni fod yn llawer mwy deinamig, onid oes, o ran sut y defnyddiwn y Ddeddf hon, a nodi ble y mae wedi effeithio ar benderfyniadau a lle yr aethpwyd i mewn i'r gyllideb neu gynyddu'r gyllideb ac eitemau a dynnwyd o'r gyllideb. Dyna beth y mae'r Ddeddf hon yn ei fynnu mewn gwirionedd.
Yn sicr, rwy'n rhannu uchelgais yr Aelod ac rwyf wedi cael cyngor gan y Pwyllgor Cyllid ar ffyrdd y gallwn wneud mwy i ddangos effaith y Ddeddf ar ein gwaith o lunio cyllideb. Dyna pam, yn y cylch cyllidebol hwn, yn y trafodaethau dwyochrog hynny y soniais amdanynt ychydig funudau yn ôl wrth Angela Burns, fy mod wedi sicrhau bod yna aelod o staff â chyfrifoldeb am y Ddeddf yn y cyfarfod bob amser, fel bod rhywun yno gyda briff penodol i ofyn y cwestiynau hynny ac i herio Gweinidogion pan fo angen o ran sut y gallai eu cynigion gael eu gweld yn deillio o'r Ddeddf. Dyna pam y cytunwyd ar dri maes arbennig gyda'r comisiynydd, meysydd y byddwn yn mynd ar eu trywydd yn ystod y cylch cyllidebol hwn i'w galluogi i weld lle roedd y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth, neu lle roedd hi'n teimlo bod mwy y gallwn ei wneud. Lywydd, mae'n rhaid i mi ddweud bob amser fod y Ddeddf, yn anochel, yn rhywbeth a fydd yn esblygol yn y ffordd y gallwn wreiddio ei hegwyddorion yn ein proses o gynllunio cyllideb. Rwy'n derbyn bod mwy y gallwn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at chwarae unrhyw ran y gallaf er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Rwyf innau hefyd yn derbyn ei fod yn waith sydd ar y gweill, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd, ac wrth wneud hynny, anfon neges at y sector cyhoeddus cyfan y gallai hwn fod yn gyfle arloesol i weld cydweithio a chyllidebau cyfun ar waith o'r diwedd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 ac mae wedi bod yn alwad gyson fod angen i ni wella ein hymdrechion drwy fabwysiadu'r dull cyffredinol hwn o ymdrin â gwariant cyhoeddus, ac mae'r meddylfryd seilo hwn yn niweidiol tu hwnt. Gallai'r byrddau gwasanaethau lleol, er enghraifft, ddefnyddio'r Ddeddf fel arf hynod ddeinamig i sicrhau bod y bunt Gymreig yn cael ei gwario'n effeithiol yn y ffordd hon.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywed yr Aelod—fod yna rôl arweiniol i Lywodraeth Cymru o ran dangos bod y ffordd y defnyddiwn y Ddeddf yn gallu bod yn esiampl ar gyfer y ffyrdd y gall pobl eraill edrych ar y gwersi hynny yn ogystal. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn dod o hyd i ychydig o amser i edrych ar un neu ddau o'r asesiadau llesiant a gynhyrchwyd gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r cynlluniau ymarferol y maent yn eu llunio o'r asesiadau hynny bellach. Fel erioed, maent yn dangos rhychwant o ansawdd ar draws ystod o wahanol agweddau ar yr asesiadau hynny, ond mae'r rhai da, rwy'n credu, eisoes yn dangos y ffordd y mae'r nodau a'r pum ffordd o weithio yn cael effaith ar benderfyniadau gweithredwyr lleol, ac yn benodol, yn y ffordd a awgrymodd David Melding, yn eu galluogi i gyfuno adnoddau, cyfuno ymdrechion a gwneud gwahaniaeth yn y modd y byddai'r Ddeddf yn ei awgrymu.
Rydw i'n credu ei bod hi'n dal yn wir i ddweud bod y Ddeddf megis cysgod ar y gyllideb o ran y dylanwad mae wedi ei chael hyd yma. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn, eleni, wrth ateb cwestiynau fel hyn—nid wyf eisiau ei demtio fe i restru, er bod gyda fe restr yn y fanna, mae'n siŵr, o brojectau sy'n cwrdd â phob un o amcanion y Ddeddf. Nid wyf i eisiau ei demtio fe i wneud hynny. Rydw i eisiau gofyn yn benodol, felly, gan fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi bod ynghlwm ag agweddau ar y gyllideb eleni, gan weithio'n benodol ar un pwnc, sef datgarboneiddio, a gan fod hefyd fwriad i gyflwyno cyllidebau carbon o dan Ddeddf arall, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y flwyddyn nesaf, ym mha ffordd y gallwn ni ddisgwyl i gyllideb y flwyddyn nesaf adlewyrchu ffrwyth a phenderfyniad yn sgil y gwaith yna?
Wel, mae beth mae Simon Thomas yn ei ddweud yn wir: mae yna restr hir o bethau gyda fi fan hyn rwy'n gallu ei defnyddio i ddangos yr effaith mae'r Ddeddf wedi ei chael ar hyn o bryd. Ond ar y pwnc mae e wedi ei godi, rydw i wedi cwrdd dros y pythefnos diwethaf â Lesley Griffiths i ddechrau'r broses o gynllunio sut ydym ni'n gallu, dros y flwyddyn sydd i ddod, ddod â'r broses o greu'r cyllideb gyda'i gilydd â'r broses o carbon budgeting, fel rydym ni'n ei alw fe. So, rydym ni wedi dechrau ar y broses. Mae'r gweision sifil yn gweithio ar y manylion. Mae cyfarfod gyda fi â'r comisiynydd wythnos nesaf i drafod yr un pwnc. Rydym ni'n awyddus fel Llywodraeth, ac rydw i'n gwybod bod Lesley Griffiths yn awyddus, i wneud mwy i uno'r ddwy broses ac i gael cyfle i roi adborth yn ôl i Aelodau'r Cynulliad ar sut ydym ni'n gallu dod â'r ddau beth gyda'i gilydd a chael mwy o effaith drwy wneud hynny.