Ffyniant yn y Cymoedd Gogleddol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:18, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r Gynghrair Cymunedau Diwydiannol wedi awgrymu y dylai cronfa datblygu rhanbarthol newydd ar gyfer y DU fod yn ganolog i unrhyw bolisi rhanbarthol yn dilyn Brexit. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi bod angen i hwn gael ei reoli ar sail ddatganoledig, ac y dylai unrhyw arian a ddyrennir fod y tu hwnt i'r hyn sy'n ddyledus drwy fformiwla Barnett. Mae cael hyn yn iawn yn allweddol i ffyniant y Cymoedd gogleddol, felly a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod angen cadw'r addewidion a gafodd eu gwneud yn ystod ymgyrch refferendwm yr EU, na fydd Cymru yn colli yr un geiniog?