Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, yn hollol, Lywydd. Mae'n rhaid cadw'r addewidion hynny. Byddai'n eironi rhyfedd iawn yn wir pe bai'r bobl a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn gweld bod Cymru yn waeth ei byd o fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig nag o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna pam fod yn rhaid i'r arian sydd wedi dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd—arian a gawn, fe gofiwch, oherwydd ein bod yn gymwys i'w gael yn ôl y rheolau—lifo yma wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwyf wedi cyflwyno achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn perthynas â sut y gellid gwneud hynny. Byddaf yn ailddatgan yr achos hwnnw pan fyddaf yn ei chyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon. Rydym yn credu'n gryf iawn fod datblygu rhanbarthol yn gyfrifoldeb datganoledig i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac mai ni sydd yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i wneud hynny'n llwyddiannus yn y dyfodol, ond rydym angen i'r arian sydd wedi dod i Gymru at y diben hwnnw tra buom yn aelod o'r UE barhau y tu hwnt i hynny, ac rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU sicrhau bod hynny'n digwydd.