Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 24 Ionawr 2018.
Ie, credaf fod Bethan Jenkins yn gwneud cyfres ragorol o bwyntiau. Fel y dywedais mewn ymateb i Mark Isherwood, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni edrych arno yw bod y tueddiadau ym mywyd rhywun—. Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda phob un o'n cyd-Ysgrifenyddion Cabinet, gan fod yr agenda hon yn ymestyn ar draws gwaith Llywodraeth Cymru, i wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r mathau hyn o ymddygiad yn y dull cyfannol hwnnw, ac felly, er enghraifft, ein bod yn dysgu pethau mewn ysgolion, yn dysgu pethau drwy'r fframwaith ymgysylltu ar gyfer diogelu pobl ifanc ac yn dysgu pethau gan nifer o asiantaethau sy'n rhannu gwybodaeth yn gywir er mwyn sicrhau bod yr agenda atal a'r agenda diogelu a goroesi yn gweithio'n well gyda'i gilydd. Felly, rwyf wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd dwyochrog. Nid wyf yn siŵr a wyf i fod i roi tystiolaeth yn y ffordd y mae hi'n awgrymu mewn gwirionedd, ond efallai y gallaf wneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny os ysgrifennwch ataf.