Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Ionawr 2018.
Fe sonioch eich bod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n meddwl tybed pa Weinidogion eraill rydych yn ymgysylltu â hwy. Rwy'n meddwl yn benodol ynglŷn â chanfod cynnar, ac arwyddion o ymddygiad yn rhywun a fyddai'n cam-drin anifail, er enghraifft. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, oherwydd mae ymchwil yn dangos, os ydynt yn cam-drin anifail, y gallant fynd ymlaen i gam-drin oedolion a phobl yn y dyfodol. Felly, a fyddwch yn rhoi tystiolaeth i'r grŵp gorchwyl a gorffen y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i gyflwyno drwy'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid i geisio gweithio gyda'r sector hwnnw i leddfu'r problemau y maent yn dod ar eu traws gydag anifeiliaid sydd wedi'u cam-drin, a gallai hynny wedyn helpu pobl fel yr heddlu a sefydliadau sy'n helpu menywod ac eraill sy'n dioddef cam-drin domestig i fynd i'r afael go iawn â'r digwyddiadau hyn i'w hatal rhag digwydd, cyn iddo droi'n ymosodiad difrifol iawn neu'n achos difrifol o gam-drin domestig?