2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili? OAQ51610
Gwnaf. O dan brosiect Cyflymu Cymru rydym wedi darparu mynediad at fand eang ffeibr cyflym i 27,206 o safleoedd yng Nghaerffili. Y tro diwethaf i'r data gael ei wirio, roedd y cyflymder lawrlwytho cyfartalog ar gyfer y safleoedd lle y rhoddwyd Cyflymu Cymru ar waith yn 64.4 Mbps yng Nghaerffili.
Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei hymdrechion arwrol yn sicrhau bod y problemau gyda band eang ar ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili wedi cael eu datrys. Mae wedi gweithio'n hynod o galed, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi digwydd. Ond roeddwn yn awyddus i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, yn groes i'r hyn a ddywedodd Russell George yn gynharach. Roeddwn yn awyddus i godi mater y cynllun cyflawni ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a'r ffaith nad yw band eang yn cael ei grybwyll yn y cynllun cyflawni, ond bydd yn hanfodol o ran cysylltu busnesau ledled etholaeth Caerffili. Rwy'n pryderu nad oes cyfeiriad penodol at hynny, felly a wnaiff arweinydd y tŷ roi sicrwydd y bydd yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i gyflawni'r cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' a sicrhau'n benodol fod y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ac o amgylch ystadau diwydiannol yn ardaloedd gogleddol cymunedau'r Cymoedd yn elwa o ddarpariaeth band eang?
Yn sicr. Nid oes sôn am hynny am ei fod yn rhan sylfaenol o'r seilwaith. Rwy'n aelod o fwrdd tasglu'r Cymoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd. Mae rhan fawr o'r cynllun economaidd ar gyfer 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn seiliedig ar y math hwnnw o ddatblygu seilwaith, a chredaf ei fod yn rhan o ble rydym yn mynd gyda hyn, ac mae'n dod yn rhan o'r cefndir. Felly, mae rhannau helaeth o gymunedau'r Cymoedd yn cael eu gwasanaethu'n dda eisoes gan y seilwaith. Y mater pwysig bellach yw sicrhau bod y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y seilwaith yn cael eu rhoi ar waith. Felly, ni wnelo hyn â'r teclynnau; mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth gynyddol o wasanaethau y gallwn ddefnyddio'r teclynnau ar eu cyfer . Felly, mae'r Cymoedd yn rhan fawr o ddefnyddio'r seilwaith yn briodol gan ei fod bellach ar waith. Felly, lle nad yw'r seilwaith ar waith, ac nid yw hynny'n cynnwys llawer o ardaloedd y Cymoedd, byddwn yn disgwyl i'r prosiectau olynol lenwi'r bwlch hwnnw wrth gwrs. Felly, o ran yr ystadau a grybwyllodd yr Aelod, byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn cyrraedd ystadau diwydiannol a datblygiadau eraill o'r fath yn y prosiectau olynol y soniais amdanynt yn gynharach, a bydd hynny'n rhan bwysig o gynllun y Cymoedd lle maent yn y Cymoedd, ac wrth gwrs, yn rhan o'r broses gyflwyno ehangach lle nad ydynt.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.