Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 24 Ionawr 2018.
A gaf i gytuno fod cyfathrebu yn gwbl allweddol? Ond nid oes curo mynd mas ac ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl. Rwy'n canmol y fenter Senedd Casnewydd fel roedd hi yn 2016, a Senedd Delyn, a gafodd ei ohirio oherwydd amgylchiadau trist. Mae'r model yna o gyfnod dwys o ymgysylltu'n uniongyrchol mewn gwahanol rannau o Gymru yn un rwy'n meddwl y dylem ni fod yn edrych i wneud mwy ohono fe. Felly, a gaf i ofyn a fyddai'r Comisiwn yn barod i ystyried dim jest cynnal un bob blwyddyn, ond mynd ati yn fwy bwriadol i gael yr ymgysylltiad dwys yna yn gyson, o fis i fis, gan dargedu ardaloedd penodol? Oherwydd dyna'r ffordd orau, yn fy marn i, i addysgu pobl am yr hyn rŷm ni'n ei wneud.