Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch am y cwestiwn atodol. Mae'r Comisiwn, ac rwy'n siŵr pob Aelod yn y Siambr yma, yn ymwybodol iawn fod yna her barhaol i sicrhau bod pobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn deall yn iawn yr hyn sydd wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad yma nawr a'r hyn sydd yn bwerau sydd yn gweithredu mewn mannau eraill. Felly, yn ymateb i'r her yna, fe wnaeth y Comisiwn benderfynu comisiynu darn o waith a gafodd ei arwain gan Leighton Andrews a phanel i edrych ar sut y gall y Comisiwn, ar ran y Cynulliad yma, fod yn cyfathrebu ein gwaith ni yn well gyda phob cymuned yng Nghymru. Mae yna gyfleon wrth gwrs i gyfathrebu yn ddigidol nawr i bob man o Gymru—gan obeithio bod y band llydan yn cyrraedd pob man yng Nghymru, wrth gwrs. Mae yna argymhellion diddorol, arloesol o bosib hefyd, yn yr adroddiad yna o'r comisiwn yna, ac fe fyddwn ni fel Comisiwn yn edrych i wireddu rhai o'r camau yna nawr wrth inni sicrhau ein bod ni'n cynyddu drwy'r amser y ddealltwriaeth sydd gan y bobl yng Nghymru—ac mae hyn yn wir am bob cymuned, nid dim ond y gogledd—y ddealltwriaeth hynny o'r gwaith dydd i ddydd rŷm ni'n ei wneud yn y Senedd yma ar ran pobl Cymru.