Hygyrchedd ar Ystâd y Cynulliad

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 3:20, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i bawb ac rydym yn adolygu hygyrchedd pob adeilad yn rheolaidd. Cynhelir asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn unrhyw waith ailwampio neu welliannau, ac rydym bob amser yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn ymdrechu i gynnal arferion gorau.