3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
5. Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i'r holl ymwelwyr? OAQ51621
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn hygyrch i bawb ac rydym yn adolygu hygyrchedd pob adeilad yn rheolaidd. Cynhelir asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb cyn unrhyw waith ailwampio neu welliannau, ac rydym bob amser yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ac yn ymdrechu i gynnal arferion gorau.
Diolch, Gomisiynydd. Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Anfonodd yr ymrwymiad hwn neges gref at bobl â dementia a'u gofalwyr fod croeso cynnes iddynt ymweld â'r ystâd hon. Dywedai y byddai sesiynau Cyfeillion Dementia yn cael eu darparu i'r holl staff sy'n ymdrin â'r cyhoedd, i'w hymbaratoi i ymateb i ymwelwyr allanol sy'n byw gyda dementia. Yn ychwanegol at hyn, credaf fod 21 o Aelodau'r Cynulliad a'u staff wedi dod yn gyfeillion dementia. Ond credaf y dylem anelu at fod yn Senedd gyntaf y byd i ddeall dementia, pe bai'r 60 Aelod yn cwblhau'r hyfforddiant. A all y Comisiynydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynnydd tuag at sicrhau bod ystâd y Cynulliad a'r staff yn mynd ati'n weithredol i gyflawni eu rôl fel Senedd sy'n deall dementia?
Gallaf, ond ni allaf orfodi pobl i ymrwymo. Felly, fel Comisiynydd, ymunaf â chi i apelio ar Aelodau'r Cynulliad i ddeall dementia, oherwydd credaf y bydd hynny nid yn unig yn ein helpu yma, ond bydd yn ein helpu wrth i ni ymgysylltu â phobl, waeth lle bo hynny'n digwydd. Mae sgwrs wedi cychwyn gyda thîm amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Maent wedi ymgysylltu â phrosiect ymgysylltu a grymuso ar gyfer dementia er mwyn edrych ar ddatblygu canllaw i ymwelwyr â dementia. Mae'n ganllaw tebyg i'r rhai a gynhyrchwyd eisoes ar gyfer ymwelwyr ag awtistiaeth. Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol. Er enghraifft, gallai'r sganwyr sy'n bipian wneud i rai pobl nad ydynt yn eu deall deimlo'n anesmwyth. Felly, maent yn edrych ymlaen ac yn gweithio'n galed iawn i geisio edrych ar yr hyn y gallant ei wneud.
Wrth gwrs, cafwyd—mae'r tîm amrywiaeth a chynhwysiant wedi darparu sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia i nodi sut y mae byw gyda dementia yn teimlo, a'r ffyrdd bach y gall pobl helpu, a sut i droi'r ddealltwriaeth honno'n weithredu, gan mai dyna rydym yn awyddus i'w gefnogi mewn gwirionedd. Hysbysebir y sesiynau, fel y gwyddoch, i holl staff Comisiwn y Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad a staff cymorth Aelodau'r Cynulliad bob blwyddyn yn ystod wythnos amrywiaeth a chynhwysiant y Comisiwn. Felly, rydym yn symud ymlaen. Rwy'n sicr fod cynnydd y gallwn ei wneud, ac rwy'n sicr y byddwn yn derbyn unrhyw gyngor y gall pobl ei roi i'n cynorthwyo i gyflawni ein nod o ddod yn sefydliad sy'n deall dementia, gyda'r holl Aelodau, gobeithio, wedi ymrwymo i hynny.
Diolch. Bydd y cwestiwn nesaf yn cael ei ateb gan y Llywydd, Elin Jones, fel y Comisiynydd cyfathrebu ac ymgysylltu. Cwestiwn 6, Mandy Jones.