Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch, Gomisiynydd. Gomisiynydd, cefais fy nyfynnu yn y wasg pan ddychwelais fel Aelod Cynulliad yn dweud bod pobl yng ngogledd Cymru yn credu'n gyffredinol na ddylai Cynulliad Cymru fodoli. [Torri ar draws.] Peidiwch â chynhyrfu. Mynegir y farn hon gan lawer o etholwyr ar sawl llwybr ymgyrchu. A minnau yma bellach, gallaf weld effaith y Cynulliad ar fywydau pobl sy'n byw yn fy rhanbarth drosof fy hun. Gomisiynydd, pa gamau ychwanegol y bydd Comisiwn y Cynulliad yn eu cymryd i ddangos i bobl gogledd Cymru beth y mae'r Cynulliad yn ei wneud, y gwahaniaeth y mae'n ei wneud, sut y gallant gymryd rhan, ac annog canran fwy na 43.5 y cant i bleidleisio yn etholiadau nesaf y Cynulliad?