Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 24 Ionawr 2018.
Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn fath o flanced dân broffesiynol ar gyfer methiannau byrddau iechyd ledled Cymru ac nid yw Hywel Dda yn eithriad. Wrth gwrs, nid yw Llwynhelyg yn mynd i gau yn y dyfodol agos, ond y cwestiwn go iawn yw: a yw'n mynd i gau maes o law yn dilyn toriadau dinistriol diddiwedd? Yr hyn a welsom yn ddiweddar yw lleihad cynyddol y ddarpariaeth iechyd, yn enwedig yn Sir Benfro, ac nid oes unrhyw hyder, yn fy marn i, gan unrhyw un y siaradais â hwy fod Hywel Dda yn mynd i fod yn ymatebol go iawn i anghenion pobl leol.
Llwyddais i gael cyfarfod gyda phrif weithredwr a chadeirydd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, a chawsom drafodaeth gyffredinol, ac mae'n eithaf clir beth yw'r cyfeiriad teithio yma. Maent am gau ysbytai cyffredinol a chael canolfannau cymunedol llai nad ydynt yn mynd i allu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Wrth gwrs mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd newid gyda'r oes ac mae Hywel Dda yn gorfod ymdrin â phroblemau hanesyddol penodol—mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'u cyfyng-gyngor—ond sut y gall fod yn iawn i gau ysbytai llai neu gau ysbytai cyffredinol a cheisio sianelu popeth i un uned fwy canolog? Heb fod yn hir iawn yn ôl roedd yna ofnau fod Bronglais yn mynd i gau yn Aberystwyth. Bellach, rydym yn ofni bod Llwynhelyg yn mynd i gau. O ystyried daearyddiaeth bwrdd iechyd Hywel Dda, lle mae'r boblogaeth yn denau, ni allwch ganoli pethau mewn un lle; mae hynny'n amhosibl.
Y pwynt arall a ddeilliodd o fy nhrafodaethau gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr oedd nad ydynt yn gweld yr angen am gymaint o welyau mewn ysbytai. Fe'ch clywais funud yn ôl yn dweud bod y gwasanaeth iechyd wedi newid fel bod mwy o bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt erbyn hyn nag o'r blaen, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond mae cyfraddau defnyddio gwelyau yn uwch nag erioed—wyddoch chi, 88 y cant, ond 85 y cant yw'r lefel ddiogel. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, ni all fod yn iawn i ystyried lleihau'r ddarpariaeth o welyau mewn ysbytai ymhellach.
Rwy'n deall na allwch ddweud heddiw beth fydd canlyniad yr adolygiad a'r ymgynghoriad, a bod cyfyngiadau cyfreithiol ar eich gallu i ateb cwestiynau, ond gallaf ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Joyce Watson funud yn ôl: rhaid ystyried bod y cynnig i gau Llwynhelyg yn un hurt—hyd yn oed yn y tymor canolig, heb sôn am y tymor byr. Pan fo'n cynhyrchu'r rhestr o opsiynau i bobl eu trafod, dylai'r bwrdd iechyd osgoi achosi ofn a dryswch diangen drwy gynhyrchu cynigion eithafol nad ydynt yn mynd i gael eu gwireddu.
Ond yn y bôn, yr hyn a welwn yma yw diffyg camau democrataidd wrth wneud penderfyniadau yn y gwasanaeth iechyd. Ni chaiff aelodau byrddau iechyd eu hethol, ni chaiff aelodau cynghorau iechyd cymunedol eu hethol. Yn y pen draw, caiff popeth ei sianelu at yr Ysgrifennydd iechyd yn y Cynulliad, a gallwn, fe allwn geisio dwyn yr Ysgrifennydd iechyd i gyfrif yn y Siambr hon, ond cyfyngir ar ein gallu i wneud hynny, wrth gwrs, gan strwythur y Cynulliad a'r system pleidiau o'i fewn. Mae pobl ar lawr gwlad yn teimlo nad oes ganddynt lais go iawn o gwbl. Oes, mae gennym ni lais, ond a yw ein llais yn cael ei glywed, a hyd yn oed os caiff ei glywed, a oes rhywun yn mynd i wrando arno?