4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn Helyg yn y dyfodol? 108
Mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda wrthi'n cynnal profion ac yn mireinio opsiynau ar gyfer eu rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol. Bydd rhestr fer o opsiynau yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, wedi'i dilyn gan ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, a fydd yn sail i benderfyniadau terfynol y bwrdd iechyd.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwrandewais yn ofalus ar yr atebion a roddodd y Prif Weinidog i arweinydd Plaid Cymru ddoe, yn ogystal â'r sylwadau a wnaed gan fy nghyd-Aelod, Paul Davies, yn y datganiad busnes. A chyflwynais y cwestiwn heddiw gan fy mod wedi fy nychryn gan yr haerllugrwydd ffroenuchel a gafwyd mewn ymateb i'n pryderon.
A ydych yn derbyn bod gan y cyhoedd hawl i fynegi eu pryderon wrth eu cynrychiolwyr etholedig, oherwydd roedd eich Aelodau ar y meinciau cefn—ymddengys bod nifer ohonynt yn meddwl ei bod yn dra chwerthinllyd fod pobl yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn bryderus ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig? A ydych yn derbyn nad yw hwn, yr adolygiad seneddol, yn dweud 'cau ysbyty Llwynhelyg'? A ydych yn derbyn bod hanes blaenorol ysbyty Llwynhelyg o ymgynghoriadau wedi eu bwnglera ers 2006, wedi golygu bod pobl Sir Benfro yn sensitif tu hwnt ynglŷn â'r pwnc hwn? Ac a ydych yn cytuno ag argymhelliad 4 yr adolygiad seneddol, sy'n dweud, 'Rhoi’r rheolaeth yn nwylo'r bobl', ac yn sôn am fod yn agored, am onestrwydd, am dryloywder ac am ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â ffurf eu gwasanaethau yn y dyfodol? Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ofyn i chi annog Hywel Dda i sicrhau bod eu hymgynghoriad yn agored, yn onest ac yn dryloyw, gan nad yw sgrialu o gwmpas gorllewin Cymru yn cynnal cyfarfodydd mewn neuaddau pentref bychan iawn, a pheidio â gadael i bobl fynd â'r papurau allan, yn edrych yn onest, yn agored nac yn dryloyw i mi, ac nid yw cysylltu â chynrychiolwyr gwleidyddol pan fo'r diarhebol yn taro'r ffan, a phethau'n cael eu datgelu'n answyddogol, yn edrych yn agored, yn onest nac yn dryloyw i mi.
A allwch wneud sylwadau ar yr effaith y gall y gyfres ddiweddaraf hon o ddigwyddiadau ei chael ar 'Lle gwych i weithio ynddo'—argymhelliad 5—a pha niwed y gallai hynny ei wneud i'n problemau recriwtio yng ngorllewin Cymru? Byddai gennyf ddiddordeb yn eich sylwadau yn dilyn argymhelliad 3. A'r rheswm pam y cyfeiriaf at hyn yw fy mod yn arbennig o ddig ynghylch y ffordd y mae'r Prif Weinidog, yn fy marn i, wedi bradychu'r gwaith rwyf fi, fy nghyd-Aelodau o blith y Ceidwadwyr Cymreig, ac a bod yn deg, Aelodau eraill y gwrthbleidiau, wedi'i wneud wrth ymdrin yn onest ac yn aeddfed â'ch ymdrechion i gefnogi'r panel gyda'u hadolygiad o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ddoe, fe gollodd fy holl ewyllys da fwy neu lai, gan fod yr adolygiad yn ymwneud â sut rydym yn siarad â phobl, sut rydym yn ymgysylltu â phobl, sut yr awn â phobl gyda ni, sut rydym yn sicrhau dyfodol cynaliadwy, a sut rydym yn ceisio gostegu'r frwydr mewn perthynas â'r GIG. Nid yw'n amddiffyniad, cyn iddo sychu hyd yn oed, i ddweud yn sydyn 'Ha, ond wyddoch chi beth? Hen dro, gorllewin Cymru—unwaith eto, 15 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn mynd i ddechrau malu awyr am ysbyty Llwynhelyg.'
Felly, rwy'n gofyn i chi sicrhau, os gwelwch yn dda, fod Aelodau eraill eich plaid a'ch Llywodraeth, yn parchu pobl gorllewin Cymru. A wnewch chi sicrhau bod Hywel Dda yn siarad gyda ni mewn ffordd agored, onest a thryloyw? Mewn gwirionedd, mae fy nghyd-Aelod, Paul Davies, a minnau wedi llwyddo i drefnu cyfarfod gyda'r prif weithredwr a'r cadeirydd ddydd Iau. Mae hyn mor bwysig, ac mae wedi fy nghythruddo, y tu hwnt i bob disgrifiad, fod hwn, y bûm yn edrych ymlaen at ei weld fel eich gweledigaeth, wedi ei ddifenwi yn y fath fodd. Nid ydym yn disgwyl yr haerllugrwydd ffroenuchel hwnnw gan y Prif Weinidog. Rydym yma i gynrychioli'r bobl rydym yn eu cynrychioli ac mae gennym bob hawl i ofyn i chi graffu ar fwrdd iechyd Hywel Dda i sicrhau eu bod yn ymgymryd â hyn mewn ffordd wirioneddol deg, ac am unwaith, yn mynd â'r bobl gyda hwy yn hytrach na pharatoi pethau i fod yn faes brwydr.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn cytuno â'i disgrifiad o'r ffordd y bu'r Aelodau yn y Siambr hon yn ymddwyn ddoe. Yn sicr, ni chredaf fod unrhyw ymgais neu fwriad i ddangos haerllugrwydd ffroenuchel neu ddifenwi ymdrechion Aelodau o bob plaid i gael sgwrs aeddfed iawn ynglŷn â dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd yr adolygiad seneddol yn ymgais onest i geisio cael dadl aeddfed a deallus ynglŷn â'n dyfodol. Ac ym mhob rhan o Gymru, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, bydd dewisiadau anodd iawn i'w gwneud.
Ni allaf ac nid wyf am wneud sylwadau ar fanylion proses anghyflawn ym mwrdd iechyd Hywel Dda a'u rhaglen trawsnewid gwasanaethau clinigol, oherwydd fel y gwyddoch, ac rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn gwybod hyn, gallai fod angen i mi wneud penderfyniadau ar ddiwedd y broses hon. Felly, ni allaf wneud sylwadau ar argymhellion, ond mae proses yn mynd rhagddi ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi y bydd rhestr fer yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y gwanwyn. Ac mae'n bwysig iawn cael ymgynghoriad cyhoeddus priodol ar hyn. Mae'n bwysig fod staff yn cymryd rhan yn briodol yn y broses hefyd, oherwydd waeth beth rydych chi neu fi neu unrhyw un arall yn ei ddweud ynglŷn â dyfodol gwasanaethau iechyd, os oes brwydr yn mynd i fod rhwng gwleidyddion, bydd pobl yn dewis eu hochrau. Mewn gwirionedd, credaf y bydd llawer o bobl yn cerdded i ffwrdd a chredu nad yw'n ddim mwy na gwleidyddion yn dadlau ynglŷn â rhywbeth yn hytrach na, 'Beth am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?'
Fel y gŵyr pob un ohonom, o'r hyn a ddywedodd yr adolygiad, nid yw'r ffordd rydym wedi ein trefnu ar hyn o bryd yn addas ar gyfer ein dyfodol, felly bydd angen sicrhau ffordd o gyflawni newidiadau a diwygiadau yn ein system, ac mae hynny'n anodd yng nghyswllt gwneud penderfyniadau lleol. Nid yw'n fater ar gyfer un safle arbennig yng Nghymru; mae pob safle yn wynebu her ynghylch yr ymlyniad at wasanaethau fel y maent yn bodoli ar hyn o bryd, at frics a mortar, ac nid yng ngorllewin Cymru yn unig y ceir y farn honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn arw at ymgynghoriad sy'n ennyn diddordeb y cyhoedd, a gweld barn staff gofal iechyd eu hunain hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, yr ymddiriedaeth go iawn yw'r hyn sy'n bodoli rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny.
Mae'n rhaid ystyried yn ddifrifol a ydym yn credu bod y ffordd rydym yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau ar hyn o bryd ym mhob rhan o Gymru yn mynd i bara, ac os nad ydyw, sut y bydd y sgwrs honno'n digwydd fel y gall y cyhoedd gymryd rhan yn briodol a chael y wybodaeth cyn bod unrhyw ddewis yn cael ei wneud. Dyna rwy'n ei ddisgwyl, ac mae honno'n broses rwy'n disgwyl cymryd rhan ynddi yn y lle hwn, ac wrth gwrs, rwy'n disgwyl y bydd pobl yn gofyn cwestiynau i mi er mwyn ceisio fy hoelio at farn benodol yn ystod y broses. Gwn y bydd hynny'n rhan o'r hyn y bydd yr Aelodau yn ceisio'i wneud, ond fe fyddaf yn onest ac yn blaen a byddaf yn parhau i ddweud, 'ni allaf roi barn i chi'. Ac nid wyf am roi barn i chi ynglŷn â'r ymgynghoriad. Nid oes unrhyw gynigion eto, ond efallai y bydd gofyn i mi wneud penderfyniadau, felly mae'n rhaid i mi sicrhau fy mod yn gwneud y peth iawn.
Mae'r Aelodau yn y Siambr hon yn gwbl ymwybodol o fy marn ynglŷn â'r mater hwn. Mae'n gwbl annerbyniol fod unrhyw opsiynau a allai arwain at gau ysbyty Llwynhelyg hyd yn oed yn cael eu hystyried gan fwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda. Mae pobl Sir Benfro wedi gweld gwasanaethau yn crebachu'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r newyddion diweddaraf hwn yn anfon neges arall fod gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro o dan fygythiad unwaith eto.
Yn wir, byddai hyd yn oed yn anos recriwtio gweithwyr proffesiynol meddygol os nad oes unrhyw sefydlogrwydd ynghylch pa wasanaethau sy'n aros a pha rai a allai gael eu diddymu. Felly, yn dilyn cwestiynau Angela Burns, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn nad yw'r cyhoeddiad hwn yn gwneud unrhyw beth i helpu i ddenu meddygon a staff meddygol i'r ardal pan fyddant yn parhau i weld gwasanaethau'n cael eu diddymu o'r ysbyty? Yn sgil yr argymhellion niweidiol hyn, a all ddweud wrthym pa gamau uniongyrchol y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn?
Mae'r newid yr hoffem ei weld—[Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf, un funud—rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau. Dangoswch gwrteisi tuag at Ysgrifennydd y Cabinet a gwrando ar y ddadl i gyd os gwelwch yn dda. Ysgrifennydd y Cabinet.
Nodir y newid yr hoffem ei weld ym maes iechyd a gofal yn yr adolygiad. Bydd rhai gwasanaethau arbenigol yn cael eu crynhoi ar nifer lai o safleoedd er mwyn darparu gwell gofal. Bydd hynny'n golygu pellter teithio hirach at rai o'r gwasanaethau hynny. Y cyfaddawd pendant yn hynny o beth yw y bydd mwy o ofal yn cael ei ddarparu yn nes at y cartref—rydym yn gweld hynny eisoes. Mae nifer eang o wasanaethau yn cael eu darparu o fewn y gymuned, a gofal iechyd lleol a fyddai wedi cael ei ddarparu o dan amodau theatr o'r blaen. Felly, rydym yn gweld newid ledled y wlad i gyd o ran y ffordd y caiff gofal ei ddarparu.
Ein her yn y dyfodol o ran iechyd a gofal, nid yn unig yn Sir Benfro, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond ym mhob cwr o'r wlad, fydd sut rydym yn newid ac yn diwygio er mwyn diogelu dyfodol gwasanaethau iechyd a gofal, yn hytrach nag aros tan y bydd rhywbeth wedi torri go iawn cyn ei gyweirio, gan nad yw peidio â newid o gwbl yn opsiwn, ac nid oes modd peidio â bod yn onest ynglŷn â hynny. Dyna un o negeseuon craidd yr adolygiad seneddol. Yr her yw sut rydym yn cydnabod y ffordd rydym yn anfon ac yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal ar hyn o bryd, sut rydym yn cydnabod ein gwendidau a'n cryfderau er mwyn ceisio mynd i'r afael â'n gwendidau, yn ogystal ag adeiladu ar ein cryfderau, ac mewn gwirionedd, mae heriau gwirioneddol yn wynebu pob bwrdd iechyd o ran gwariant ar asiantaethau a gwasanaethau locwm. Mae rhai o'n gwasanaethau yn wynebu gwir heriau ariannol o ran y ffordd y caiff arian ei wario. Dyna pam fy mod wedi cymryd camau ar y bil cyflog, mewn gwirionedd, o ran gwariant ar wasanaethau locwm yn arbennig dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae cap cyflog wedi'i gyflwyno ar wariant ar wasanaethau locwm ar y telerau a oedd ar gael ym mis Tachwedd y llynedd, gan fod angen inni fynd i'r afael â rhai o'r costau hynny, neu byddwn yn tanseilio cynaliadwyedd y gwasanaeth hwnnw. Mae hynny'n effeithio ar recriwtio i'r gwasanaethau ym mhob rhan o'r wlad.
Yng ngorllewin Cymru, yn benodol, rwy'n dal i ddisgwyl i'n hymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' werthu nid yn unig y cyfle i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ond i fyw yma hefyd. Ac mewn gwirionedd, credaf fod gan orllewin Cymru gryn dipyn i'w gynnig i bobl fel lle i weithio, ond yn sicr fel lle i fyw hefyd, a'r cyfleoedd hyfforddi ochr yn ochr â hynny.
Nid oes modd cael sgwrs hawdd ynglŷn â thrawsnewid unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd barn resymol i'w chael bob amser—yn enwedig ar lefel leol ac unigol—ynghylch pam na ddylai newid ddigwydd; byddwch yn gweld hynny ym mhob rhan o'r wlad. Ond os nad oes lle i staff y gwasanaeth iechyd a'r cyhoedd gael sgwrs onest ynglŷn â rhesymau dros geisio newid y gwasanaeth er mwyn gwella ansawdd y gofal ac ansawdd y canlyniadau, ni fyddwn yn cyrraedd pwynt lle y gallwn fod yn sicr ac yn hyderus ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd gwladol, ac yn sicr, dyna yw safbwynt yr adolygiad seneddol. Dyna sut rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ymddwyn gyda'u poblogaethau eu hunain, ond hefyd wrth weithio gyda'i gilydd ar nifer o heriau sy'n ein hwynebu o ran y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.
Fel y dywedaf, fe fyddaf mor agored ac mor onest ag y gallaf, gan warchod, wrth gwrs, y realiti y gallai fod yn rhaid i mi wneud penderfyniadau. Ni allaf drafod rhai o'r manylion yn y cwestiynau a ofynnwyd gennych, oherwydd, fel arall, buaswn yn rhoi fy hun mewn sefyllfa lle y gallwn danseilio'r ymgynghoriad nad yw wedi agor i'r cyhoedd eto—bydd hynny'n digwydd yn y gwanwyn. Ac nid yw hyn yn fater o un rhan o Gymru yn cael y sgwrs hon; mae sgwrs genedlaethol i'w chael a rhai dewisiadau cenedlaethol gwirioneddol anodd sy'n rhaid inni eu gwneud.
Rydych wedi rhoi pwys mawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, ar yr adolygiad seneddol, ond wrth gwrs, cyhoeddwyd yr adolygiad seneddol yn rhy hwyr i ddylanwadu ar yr argymhellion hyn gan Hywel Dda. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i annog Hywel Dda i dynnu'r cynigion hyn yn ôl hyd nes y byddwn wedi cael amser i ystyried yr adolygiad seneddol—sut y gellid ei roi ar waith ledled Cymru, a sut y gellir cael y sgwrs aeddfed hon rydych yn awyddus inni ei chael ar y sail honno heb i ni fynd i'r afael ag argymhellion unigol i gau ysbytai, na fydd, i fod yn onest, yn caniatáu i unrhyw un ohonom gymryd rhan mewn dadl aeddfed fel rydych yn ein hannog i wneud? Oni fyddai'n well o lawer pe baem yn ystyried yr adolygiad seneddol hwnnw, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yn gwneud hynny ac yn annog pob bwrdd iechyd i edrych ar sut rydym yn ystyried yr adolygiad cyn rhoi cyfres o ymgynghoriadau ar waith gyda'u poblogaethau lleol, yn seiliedig ar egwyddorion yr adolygiad hwnnw? Byddech yn rhoi'r drol o flaen y ceffyl pe baech yn caniatáu i Hywel Dda fwrw ymlaen gyda chyfres o ymgynghoriadau, rhai ohonynt yn hynod ddadleuol, nad oes modd i'r adolygiad seneddol ddylanwadu arnynt o gwbl. Ac rydych mewn perygl, felly, o golli peth o'r cyd-awydd a'r gefnogaeth eang a gafodd ei meithrin gennych yng nghyswllt yr adolygiad seneddol.
Hoffwn eich gwahodd hefyd i ymuno â'ch cyd-aelodau Llafur ym Mhreseli, Sir Benfro. Roedd Paul Miller, yr ymgeisydd yn 2015, yn sefyll dros adfer y gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg; yn wir, rwy'n ei gofio'n dweud ei fod wedi cael tri chyfarfod gyda Steve Moore—rhyfeddol; tri chyfarfod, dychmygwch, gyda Steve Moore—i drafod sut y gellid eu hadfer. Roedd pob un ohonom yn aros i'r gwasanaethau pediatrig hynny gael eu hadfer. Roeddent wedi cael eu diddymu dros dro, os caf eich atgoffa—nid o ganlyniad i benderfyniad ymgynghoriad, ond eu diddymu dros dro oherwydd anawsterau recriwtio. Er mwyn adfer rhyw fath o ymddiriedaeth ymysg pobl leol i ganiatáu inni gael y ddadl ddifrifol rydych yn gofyn i'r adolygiad seneddol esgor arni, does bosibl na fyddech yn adfer gwasanaethau pediatrig yn ysbyty Llwynhelyg yn gyntaf fel y gellir adfer ymddiriedaeth pobl, a gofyn i Hywel Dda beidio â bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad hwn hyd nes y byddwn wedi ystyried yr adolygiad seneddol yn llawn.
Ar ddechrau'r adolygiad seneddol, roedd yna drafodaeth ynglŷn â faint fyddai'n aros tan ddiwedd proses yr adolygiad seneddol a faint fyddai angen iddo ddigwydd o ran trafodaeth. Fe fyddwch wedi gweld y datganiad hirfaith gan y cyfarwyddwr meddygol, Dr Phil Kloer o fwrdd iechyd Hywel Dda, am y sgwrs a'r ymgynghoriad parhaus y mae'r gymuned glinigol wedi bod yn eu cael yn Hywel Dda ynglŷn ag amryw o ddewisiadau anodd y maent yn teimlo bod angen iddynt eu trafod gyda'r cyhoedd.
Nid wyf yn rhannu barn yr Aelod fod yr adolygiad seneddol yn golygu bod rhaid i bopeth stopio a bod rhaid ailgychwyn yr ymgynghoriad ar ryw adeg yn y dyfodol. Credaf fod yr adolygiad seneddol yn tynnu sylw at nifer o bwyntiau ynglŷn â'r angen i gael sgwrs, ynglŷn â pheidio â gadael pethau am y tro, ac mewn gwirionedd mae'n rhaid i hyn gael ei wneud yn agored gan y bwrdd iechyd a'i weithwyr. Rhaid i'r gymuned glinigol gymryd rhan yn y sgwrs honno gyda'i gilydd a chyda'r cyhoedd y maent yn byw yn eu mysg ac a wasanaethir ganddynt.
Nid wyf yn meddwl mai'r peth cywir i mi ei wneud yw cyfarwyddo, neu geisio cyfarwyddo'r bwrdd iechyd i roi'r gorau i'w ymgynghoriad yn awr. Credaf mai'r prawf yw a fydd ganddynt ymgynghoriad sy'n agored gyda'r cyhoedd, lle y gallant egluro'n onest beth sy'n digwydd a lle mae'r staff yn teimlo wedi eu grymuso i gymryd rhan yn iawn yn hynny gyda'u cymunedau. Oherwydd pa un a ydynt i gynnal ymgynghoriad gyda'r cyhoedd yn y gwanwyn, neu yn yr haf neu yn yr hydref, ni ellir osgoi'r realiti y bydd yna bob amser ddewisiadau dadleuol i'w gwneud yng ngorllewin Cymru, yng ngogledd Cymru, yn ne Cymru a chanolbarth Cymru. Mae gennym ddewis rhwng dweud bod y gwasanaeth iechyd gwladol a gofal cymdeithasol yn gorfod cymryd rhan yn y ddadl honno yn awr ac wynebu rhai o'r heriau hyn a chael sgwrs anodd a gwneud dewisiadau wedyn, neu a ydym yn oedi rhag hynny a'i gwneud hyd yn oed yn llai tebygol y bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol, tan y bydd rhywbeth yn mynd o'i le ar ryw bwynt. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r peth cywir i'w wneud.
Rwy'n deall pam y mae Aelodau'r wrthblaid yn arbennig yn fy annog i ymyrryd ac atal pethau rhag digwydd. Rwy'n deall hynny. I fod yn onest, pe bai fy mhlaid yn wrthblaid, gallem yn hawdd fod yn gofyn cwestiynau lletchwith o natur debyg i unrhyw un yn y Llywodraeth hefyd. Mewn gwirionedd, credaf mai'r rheswm pam y mae Gweinidogion yma i wneud eu gwaith yw er mwyn gwneud gwahaniaeth i'r wlad, ac mae peth o hynny'n ymwneud â chaniatáu i ddewisiadau anodd ddigwydd. Nid wyf am geisio cyfarwyddo Hywel Dda nac unrhyw fwrdd iechyd arall i roi'r gorau i ymgynghori â'i staff neu gyda'r cyhoedd. Rwy'n meddwl bod yn rhaid i'r ymgynghoriad ddigwydd, rhaid ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd, bydd rhaid gwneud dewis ac yn y pen draw, gallai'r dewis hwnnw lanio ar fy nesg.
Rydym wedi cael y ddogfen hon sydd wedi'i datgelu'n answyddogol, gwyddom y bydd yn sail i ymgynghoriad ac rydym yn gwybod bod yna sôn ynddi am gau ysbyty Llwynhelyg. Mae eisoes wedi creu cryn dipyn o fraw yn fy etholaeth i, yr un rwy'n byw ynddi. Credaf mai ein gwaith ni yma fel gwleidyddion yw cael sgwrs sy'n dechrau tawelu'r ofnau hynny. Oherwydd wrth i mi ddarllen hyn yn awr ar ei ffurf bresennol, mae yna amryw o opsiynau—naw i gyd, rwy'n meddwl—yn cael eu cynnig, ac maent yn ceisio sgwrs a chytundeb gyda'r cyhoedd ehangach, ac mae hynny'n ein cynnwys ni, ar sut i fwrw ymlaen â hyn, o ran rhoi'r dewisiadau gorau posibl i bobl i ddarparu'r math mwyaf diogel o ofal a gwasanaethau, yn feddygol ac yn gymdeithasol, yn yr ardal honno.
Felly, mae dau beth yn rhedeg ochr yn ochr â hynny. Credaf mai'r peth cyntaf yw ein bod yn rhoi sicrwydd ar unwaith i'r bobl yn Sir Benfro nad yw ysbyty Llwynhelyg yn cau yn awr. Rwy'n meddwl mai dyna rwy'n ei weld ar Twitter, ar Facebook ac yn y negeseuon e-bost rwy'n eu cael. Credaf mai dyna'r peth cyntaf sy'n rhaid inni ei wneud. Yn amlwg, yr ail beth yw y bydd hwn yn ymgynghoriad ystyrlon lle y gwrandewir ar safbwyntiau pobl yn gyntaf oll ac yna eu hystyried. Oherwydd credaf mai dyna lle rydym ar hyn o bryd, a dyna y byddaf yn galw amdano—i'r ddau beth hynny gael eu datgan yn gadarn.
Diolch i chi am y sylwadau a'r pwyntiau. Credaf ei bod yn bwysig dweud—a rhaid i mi ddweud ar goedd yn awr—nad oes unrhyw gynllun i gau ysbyty Llwynhelyg ar unrhyw adeg yn y dyfodol agos. Mae her yn ein hwynebu o ran beth fydd y dyfodol i unrhyw ysbyty. Nid yw'n ymwneud â glasganmol unrhyw safle, oherwydd gallech ddweud yr un peth am Langwili a Llanelli yn ogystal. Ac mewn gwirionedd, o weld y ffordd yr adroddwyd ar y mater, er bod mater Llwynhelyg wedi cael sylw wrth gwrs, yn ddigon dealladwy, gan gynrychiolwyr Sir Benfro, mae'r rhestr hir a ddatgelwyd yn answyddogol hefyd yn cynnwys opsiynau ynghylch safleoedd ysbytai eraill yn ogystal, felly mae'n edrych ar amrywiaeth eang o gynlluniau gwahanol. Dyna pam rwy'n dweud bod y bwrdd iechyd yn dilyn proses. Byddant yn cyflwyno rhestr fer yn y gwanwyn a bydd modd cael ymgynghoriad ystyrlon ar honno.
Rwy'n hapus iawn i gadarnhau mewn gwirionedd fy mod yn disgwyl cael ymgynghoriad ystyrlon. Wrth gwrs rydym wedi buddsoddi yn safle Llwynhelyg. Ceir amrywiaeth o wasanaethau sy'n darparu gofal da iawn i bobl. Felly, mae yna heriau bob amser ynglŷn â sut y gallwch gael sgwrs synhwyrol ac ystyrlon a sut rydych yn parchu ac yn deall y bydd rhai pobl yn poeni am y dyfodol, ac yn chwilio am dawelwch meddwl, ac am bethau pendant na all unrhyw Weinidog cyfrifol eu rhoi mewn gwirionedd os ydym yn mynd i wneud penderfyniadau o ddifrif ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth iechyd.
Yn dilyn 80 o ddigwyddiadau lleol gwahanol dros yr haf, gwn fod y bwrdd iechyd wedi cynnal 14 o ddigwyddiadau pellach yn yr hydref, ac mae mwy i ddod a mwy i'w wneud, ond rwy'n disgwyl y bydd ymgysylltu clinigol yn digwydd yn y drafodaeth honno rhyngom a'n gilydd ac yn y drafodaeth gyda'r cyhoedd ac ymgynghoriad diffuant ac ystyrlon i'r cyhoedd a phobl gorllewin Cymru, ac rwy'n disgwyl i'r un math o sgyrsiau ddigwydd yng ngweddill y wlad wrth inni geisio ail-greu dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Mae'r Ysgrifennydd iechyd yn fath o flanced dân broffesiynol ar gyfer methiannau byrddau iechyd ledled Cymru ac nid yw Hywel Dda yn eithriad. Wrth gwrs, nid yw Llwynhelyg yn mynd i gau yn y dyfodol agos, ond y cwestiwn go iawn yw: a yw'n mynd i gau maes o law yn dilyn toriadau dinistriol diddiwedd? Yr hyn a welsom yn ddiweddar yw lleihad cynyddol y ddarpariaeth iechyd, yn enwedig yn Sir Benfro, ac nid oes unrhyw hyder, yn fy marn i, gan unrhyw un y siaradais â hwy fod Hywel Dda yn mynd i fod yn ymatebol go iawn i anghenion pobl leol.
Llwyddais i gael cyfarfod gyda phrif weithredwr a chadeirydd Hywel Dda yr wythnos diwethaf, a chawsom drafodaeth gyffredinol, ac mae'n eithaf clir beth yw'r cyfeiriad teithio yma. Maent am gau ysbytai cyffredinol a chael canolfannau cymunedol llai nad ydynt yn mynd i allu darparu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Wrth gwrs mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd newid gyda'r oes ac mae Hywel Dda yn gorfod ymdrin â phroblemau hanesyddol penodol—mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'u cyfyng-gyngor—ond sut y gall fod yn iawn i gau ysbytai llai neu gau ysbytai cyffredinol a cheisio sianelu popeth i un uned fwy canolog? Heb fod yn hir iawn yn ôl roedd yna ofnau fod Bronglais yn mynd i gau yn Aberystwyth. Bellach, rydym yn ofni bod Llwynhelyg yn mynd i gau. O ystyried daearyddiaeth bwrdd iechyd Hywel Dda, lle mae'r boblogaeth yn denau, ni allwch ganoli pethau mewn un lle; mae hynny'n amhosibl.
Y pwynt arall a ddeilliodd o fy nhrafodaethau gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr oedd nad ydynt yn gweld yr angen am gymaint o welyau mewn ysbytai. Fe'ch clywais funud yn ôl yn dweud bod y gwasanaeth iechyd wedi newid fel bod mwy o bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty yn gynt erbyn hyn nag o'r blaen, ac mae hynny'n sicr yn wir, ond mae cyfraddau defnyddio gwelyau yn uwch nag erioed—wyddoch chi, 88 y cant, ond 85 y cant yw'r lefel ddiogel. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, ni all fod yn iawn i ystyried lleihau'r ddarpariaeth o welyau mewn ysbytai ymhellach.
Rwy'n deall na allwch ddweud heddiw beth fydd canlyniad yr adolygiad a'r ymgynghoriad, a bod cyfyngiadau cyfreithiol ar eich gallu i ateb cwestiynau, ond gallaf ddilyn ymlaen o'r hyn a ddywedodd Joyce Watson funud yn ôl: rhaid ystyried bod y cynnig i gau Llwynhelyg yn un hurt—hyd yn oed yn y tymor canolig, heb sôn am y tymor byr. Pan fo'n cynhyrchu'r rhestr o opsiynau i bobl eu trafod, dylai'r bwrdd iechyd osgoi achosi ofn a dryswch diangen drwy gynhyrchu cynigion eithafol nad ydynt yn mynd i gael eu gwireddu.
Ond yn y bôn, yr hyn a welwn yma yw diffyg camau democrataidd wrth wneud penderfyniadau yn y gwasanaeth iechyd. Ni chaiff aelodau byrddau iechyd eu hethol, ni chaiff aelodau cynghorau iechyd cymunedol eu hethol. Yn y pen draw, caiff popeth ei sianelu at yr Ysgrifennydd iechyd yn y Cynulliad, a gallwn, fe allwn geisio dwyn yr Ysgrifennydd iechyd i gyfrif yn y Siambr hon, ond cyfyngir ar ein gallu i wneud hynny, wrth gwrs, gan strwythur y Cynulliad a'r system pleidiau o'i fewn. Mae pobl ar lawr gwlad yn teimlo nad oes ganddynt lais go iawn o gwbl. Oes, mae gennym ni lais, ond a yw ein llais yn cael ei glywed, a hyd yn oed os caiff ei glywed, a oes rhywun yn mynd i wrando arno?
Rwyf am ymdrin â'ch pwynt ynglŷn â gwelyau a buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd. Nid yw'n ymwneud yn unig â'r ffigurau o arian a fuddsoddwn yn y gwasanaeth iechyd—[Anghlywadwy.]—y niferoedd o staff sydd gennym; rydym yn trin mwy o bobl nag erioed o'r blaen, yn fwy llwyddiannus nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n cynnwys yng ngorllewin Cymru, fel yng ngweddill y wlad.
Ein her yw sut y trefnwn ein gwasanaethau i sicrhau'r gwerth gorau, o ran gwerth am arian, ond hefyd o ran y gwerth y byddwn yn ei gyflawni o ran ansawdd a chanlyniadau gofal. Ac mae hynny o ddifrif yn mynd yn ôl i pam y cawsom adolygiad i weld a ydym ar y trywydd iawn a beth arall sydd angen inni ei wneud. Rwy'n dweud na allwch ddianc rhag y ffaith bod yn rhaid gwneud dewisiadau anodd, neu fel arall, byddwch yn dychwelyd at bwynt arall yn y dyfodol pan ofynnir i'r Llywodraeth, 'Pam na wnaethoch rywbeth am ran o'r gwasanaeth sydd wedi mynd o chwith go iawn?' Buasai'n llawer gwell gennyf fod mewn sefyllfa lle rydym yn cael dadl ynglŷn â sut y caiff dewisiadau anodd eu gwneud na pheidio.
Rwy'n ailadrodd nad oes unrhyw fwriad i gau ysbyty Llwynhelyg. Ni fydd unrhyw gynigion i ymgynghori yn eu cylch tan y gwanwyn hwn, a'r bwrdd iechyd fydd yn gwneud hynny. Mae angen i'r bwrdd iechyd gael y sgwrs honno gyda'i glinigwyr a'r cyhoedd a dyna'n bendant yw'r peth cywir i'w wneud. Wrth gwrs, bydd llais y cyhoedd yn ffactor pwysig; gwrandewir ar bobl, ond gadewch inni fod yn glir, mae yna amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r hyn a allai ac a ddylai ddigwydd ar draws ardal y bwrdd iechyd.
Gwelsom fod gan gynrychiolwyr yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llwynhelyg ac mewn rhannau eraill o'r bwrdd iechyd safbwyntiau gwahanol iawn ar yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae angen inni gael proses sy'n deg, yn briodol ac yn ystyrlon ac yna fe wneir penderfyniad, ac wrth gwrs, os yw'n benderfyniad y mae'r bwrdd iechyd yn dymuno ei wneud, gallai'n hawdd gael ei gyfeirio ataf fi yn y pen draw a glanio ar fy nesg a byddaf yn derbyn y cyfrifoldeb sy'n mynd gyda hynny.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydym yn mynd i symud ymlaen at yr ail gwestiwn amserol, ond cyn imi alw am y cwestiwn, hoffwn atgoffa'r Aelodau fod achos ar waith ar y mater hwn, a bod Rheol Sefydlog 13.15 ar sub judice yn weithredol felly. O ganlyniad i hynny, dylai'r Aelodau osgoi gwneud unrhyw sylwadau am ymddygiad y partïon neu'r unigolion sy'n gysylltiedig, neu roi unrhyw awgrym ynglŷn â beth ddylai canlyniad yr achos fod.
Galwaf ar Neil McEvoy i ofyn ei gwestiwn amserol i gael ei hateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Neil McEvoy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cwestiwn i'r Prif Weinidog oedd hwn, ond nid yw yma, felly—
Na, na. Na, mae'n ddrwg gennyf. Yr Aelodau sydd i awgrymu neu ddynodi pwy fyddent yn dymuno iddynt ymateb, ond mater i'r Llywodraeth yw penderfynu pa Weinidog sydd yn y sefyllfa orau i'w ateb. Fe sylwch fod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, ddydd Llun, ac felly, ystyrir mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog a fydd yn ateb eich cwestiwn amserol.
Ie, ond fe gafodd ei gyflwyno a'i dderbyn fel y Prif Weinidog.
Na, na, nid oes gwahaniaeth i bwy y cafodd ei gyflwyno. Rwyf newydd egluro.
Iawn, diolch.
Felly, naill ai gofynnwch eich cwestiwn i'r Gweinidog, neu fe symudwn ymlaen.