Ysbyty Llwyn Helyg

Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:57, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Na, na. Na, mae'n ddrwg gennyf. Yr Aelodau sydd i awgrymu neu ddynodi pwy fyddent yn dymuno iddynt ymateb, ond mater i'r Llywodraeth yw penderfynu pa Weinidog sydd yn y sefyllfa orau i'w ateb. Fe sylwch fod yna ddatganiad ysgrifenedig wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, ddydd Llun, ac felly, ystyrir mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog a fydd yn ateb eich cwestiwn amserol.