Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon nodir deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Rwy'n cynnal digwyddiad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen yn y Pierhead o dan faner 'Fe Godwn Ni', i gydnabod y cynnydd a wnaed a'r gwaith sydd angen ei wneud o hyd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yng Nghymru.
Llond llaw o lochesi yn unig a oedd pan ddechreuais weithio fel cydlynydd cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru, ond roeddem yn benderfynol o ymgyrchu dros newid yn ogystal â darparu lloches a chymorth. Mae cynnydd wedi'i wneud, ond y ffaith syfrdanol yw bod un o bob tair menyw yng Nghymru yn profi trais a cham-drin.
Monica Walsh, un o'r siaradwyr yn y digwyddiad yfory, oedd un o'r menywod cyntaf yn lloches Caerdydd, a agorodd ym 1975. Mae hi wedi dangos dewrder mawr yn ei bywyd, daeth yn gynrychiolydd undeb llafur rheng flaen, yn gynghorydd Llafur ac yn Arglwydd Faer Caerdydd, gan barhau i ymgyrchu dros hawliau menywod hyd heddiw. Mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i'w chefnogi hi a gwaith pawb sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn ddyddiol.
Cysegrodd Santes Dwynwen, santes o'r bumed ganrif, ei bywyd i hyrwyddo perthynas gariadus ar ôl goroesi trais rhywiol gan ei phartner a dianc rhag ymdrech ei thad i'w gorfodi i briodi dyn nad oedd hi'n ei garu. I gydnabod dewrder Santes Dwynwen a phen-blwydd Cymorth i Fenywod, fe godwn ni.