– Senedd Cymru am 4:01 pm ar 24 Ionawr 2018.
Symudwn ymlaen at y datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Jane Hutt.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon nodir deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Rwy'n cynnal digwyddiad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen yn y Pierhead o dan faner 'Fe Godwn Ni', i gydnabod y cynnydd a wnaed a'r gwaith sydd angen ei wneud o hyd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yng Nghymru.
Llond llaw o lochesi yn unig a oedd pan ddechreuais weithio fel cydlynydd cyntaf Cymorth i Fenywod Cymru, ond roeddem yn benderfynol o ymgyrchu dros newid yn ogystal â darparu lloches a chymorth. Mae cynnydd wedi'i wneud, ond y ffaith syfrdanol yw bod un o bob tair menyw yng Nghymru yn profi trais a cham-drin.
Monica Walsh, un o'r siaradwyr yn y digwyddiad yfory, oedd un o'r menywod cyntaf yn lloches Caerdydd, a agorodd ym 1975. Mae hi wedi dangos dewrder mawr yn ei bywyd, daeth yn gynrychiolydd undeb llafur rheng flaen, yn gynghorydd Llafur ac yn Arglwydd Faer Caerdydd, gan barhau i ymgyrchu dros hawliau menywod hyd heddiw. Mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i'w chefnogi hi a gwaith pawb sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn ddyddiol.
Cysegrodd Santes Dwynwen, santes o'r bumed ganrif, ei bywyd i hyrwyddo perthynas gariadus ar ôl goroesi trais rhywiol gan ei phartner a dianc rhag ymdrech ei thad i'w gorfodi i briodi dyn nad oedd hi'n ei garu. I gydnabod dewrder Santes Dwynwen a phen-blwydd Cymorth i Fenywod, fe godwn ni.
Diolch. Julie Morgan.
Y digwyddiad Holocost Sipsiwn a Theithwyr—dechreuodd y grŵp trawsbleidiol ar Sipsiwn a Theithwyr drefnu digwyddiad blynyddol dair blynedd yn ôl i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost oherwydd diffyg gwybodaeth am ddioddefaint y Sipsiwn yn yr Holocost. Er bod y digwyddiad yfory wedi'i drefnu gan Sipsiwn a Theithwyr, byddwn hefyd yn cofio'r bobl Iddewig, y bobl anabl, y bobl hoyw a ddioddefodd; byddwn yn cofio pawb.
Targedwyd y Roma gan y Natsïaid ar draws Ewrop yn yr un modd ag y targedwyd y boblogaeth Iddewig, a'r nod oedd dinistrio'r boblogaeth gyfan. Roedd rhaglenni systematig ar gyfer symud y Roma i wersylloedd neu ardaloedd ar wahân yn bodoli ym mhob gwlad o dan y Natsïaid a llofruddiwyd cannoedd o filoedd o Roma Ewropeaidd. Amcangyfrifir, ar ddechrau'r ail ryfel byd, fod tua 1 filiwn Roma yn Ewrop. Erbyn diwedd y rhyfel, nid oedd ond tua 20 i 30 y cant o hynny. Ar ôl yr hil-laddiad, ni chafodd goroeswyr Roma o'r gwersylloedd eu cydnabod ar unwaith; ni chawsant eu digolledu ac ni ofynnwyd iddynt dystio yn nhreialon Nuremberg. Cymerodd fwy na 30 mlynedd i Lywodraeth Gorllewin yr Almaen gyfaddef fod y Natsïaid wedi targedu'r boblogaeth Roma.
Dioddefodd llawer o bobl a oroesodd yr Holocost greithiau erchyll—creithiau nad ydynt wedi gwella i lawer o bobl. Byddwn yn cofio pob un ohonynt. Y llynedd, defnyddiodd y digwyddiad gelf weledol i'n helpu i gofio, gyda choeden a'r cerflun llyfr i gynrychioli cryfder goroeswyr ac ewyllys y bobl i ddal ati. Eleni, y gwaith celf ar gyfer y digwyddiad yw'r 'Wal o Eiriau'. Pobl ifanc a ddewisodd y geiriau pŵer a ddangosir yno, a gobeithiaf y byddwch yn ei gweld yfory ar risiau'r Senedd am 1 o'r gloch.
Diolch.