Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Ionawr 2018.
Fel y mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl wedi dweud, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes eithaf technegol ac arbenigol, ond mae'n wirioneddol bwysig o ran gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhai sy'n ymddiddori mewn deddfau penodol allu deall goblygiadau'r ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Siambr hon.
Y bwriad wrth ddatblygu'r asesiad effaith rheoleiddiol bob amser yw cyflwyno asesiad mor llawn a manwl ag sy'n bosibl, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â newid diwylliannol a nodau'r ddeddfwriaeth, er nad yw hi bob amser yn broses syml, fel y cydnabuwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth, i fesur y costau a'r manteision hynny. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr angen i gyflwyno asesiad ariannol o gostau a risgiau cyflwyno ffigurau anghywir neu gamarweiniol.
Er y bydd yr asesiad ariannol yn ystyried yr effaith ar bob grŵp, rwyf am sicrhau Aelodau'r Cynulliad a'r pwynt a godwyd gan Mike Hedges y telir sylw arbennig i effaith bosibl deddfwriaeth ar fusnesau preifat yng Nghymru, ac a yw'r cynigion yn cael effaith andwyol, o bosibl, ar gystadleurwydd busnesau Cymru.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a gofynion y Rheolau Sefydlog yn darparu fframwaith addas ar gyfer paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym hefyd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth ddatblygu'r polisïau y byddwn yn mynd ar eu trywydd a'r opsiynau polisi y byddwn yn eu hystyried. O ganlyniad, ac fel y nododd Simon Thomas, mae prosiect yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o gyflawni asesiadau effaith, gan ddefnyddio'r fframwaith a ddarperir gan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Nid diben hynny yw cyfyngu ar asesiadau pwysig, ond yn hytrach, ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn eu cyfanrwydd yn fwy na'u rhannau cyfansoddol. Er nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol o fewn cwmpas y prosiect hwnnw, byddant yn cael eu llywio gan ganlyniadau'r asesiad effaith integredig.
Ddirprwy Lywydd, ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad ac mewn ymateb i gyhoeddi'r adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru', ac ymchwiliad etifeddiaeth y Pwyllgor Cyllid blaenorol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu datblygiad a chyflwyniad yr effaith ariannol, a cheir gorgyffwrdd sylweddol rhwng argymhellion y pwyllgor a'r gwaith a wneir ac sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol o ganlyniad i'r gwaith blaenorol hwnnw. Mae fersiwn ddiweddaraf y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau'r Cynulliad, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, yn cynnwys pennod sy'n nodi canllawiau diwygiedig ar ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'n cynnwys nifer o newidiadau gyda'r nod o wella eglurder a hygyrchedd asesiadau effaith rheoleiddiol.
Mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi datblygu tabl cryno safonol i'w cynnwys ar ddechrau pob asesiad effaith rheoleiddiol, fel yr awgrymodd Nick Ramsay. Mae'r tabl cryno hwnnw, a ddefnyddiwyd yn y memorandwm esboniadol ar gyfer pob Bil a gyflwynwyd yn ystod y pumed Cynulliad, wedi'i lunio ar gyfer cyflwyno'r holl wybodaeth sy'n ofynnol yn y Rheolau Sefydlog yn eglur. Ac mewn pwynt a nododd Mike Hedges, adolygwyd y canllawiau mewn ymateb i bryderon y gallai cyflwyno manteision â gwerth ariannol ochr yn ochr â chostau arian parod fod yn gamarweiniol.
Yn olaf, cryfhawyd y canllawiau i'w gwneud yn glir y dylai asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer Bil, cyn belled ag y bo'n ymarferol, gynnwys amcangyfrif gorau o gostau unrhyw is-ddeddfwriaeth gysylltiedig. Roeddwn yn falch o glywed aelodau'r Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys ei Gadeirydd, yn nodi tystiolaeth gan randdeiliaid, a adlewyrchwyd yn adroddiad y pwyllgor ei hun, yn cydnabod bod y dull o gyflwyno asesiadau effaith rheoleiddiol wedi gwella yn ystod y pumed Cynulliad o ganlyniad i'r gwaith cynharach hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn mynd i allu ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid chwaith. Rwyf am dynnu sylw at nifer fach, os caf, gan ymdrin yn gyntaf oll â mater ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac mae nifer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hyn. Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan randdeiliaid i'r ymchwiliad yn glir na fu digon o ymgysylltu â rhanddeiliaid bob amser yn y gorffennol wrth ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, a lle bu ymgysylltiad, yn aml byddai'n digwydd yn hwyr yn y broses.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol ac mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi dull fesul cam wedi'i ddiffinio'n fwy clir o ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, ac un cam o'r dull yw cynnwys asesiad effaith rheoleiddiol drafft fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. A bwriedir i hynny ymateb i bwyntiau a wnaeth Simon Thomas a Nick Ramsay y prynhawn yma er mwyn darparu cyfle i randdeiliaid gymryd rhan yn y broses ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu amgen cyn inni gyrraedd y pwynt dadansoddol terfynol hwnnw. Y nod wrth gysylltu cyhoeddi drafft o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y broses ymgynghori yw sicrhau bod ymgysylltu'n digwydd yn gynnar yn y broses o lunio polisi. Disgwylir i gyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol drafft ddod yn norm yn y dyfodol.
Trof at y goblygiadau ariannol, a dyma fater arall y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno wrth gynnwys y goblygiadau ariannol yn yr adolygiad ôl-weithredu o ddeddfwriaeth. Nodais yn ymateb y Llywodraeth fod y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau Cynulliad wedi'i ddiwygio a bellach yn cynnwys ystyriaethau ariannol fel un o'r materion i'w hystyried mewn unrhyw gyfnod ôl-weithredu. Adlewyrchir y farn gyffredin ar sut y gellir cryfhau a gwella amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth yn ein hymateb i argymhellion y pwyllgor. Nid wyf ond yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y ddogfen honno mai'r unig argymhelliad y teimlem na allem ei dderbyn yw'r argymhelliad y dylid ymestyn asesiadau effaith rheoleiddiol i ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn y dadansoddiad a chan bwy, a'r rheswm am hynny yw oherwydd bod asesiadau effaith rheoleiddiol yn asesiad gwerth am arian ac mae ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau'n mynd y tu hwnt i ddiben a chynllun yr asesiad hwnnw. Nid yw'n dweud bod materion cyllid a fforddiadwyedd yn ddibwys—dim o gwbl—yn syml, ystyrir arian a fforddiadwyedd yn ystod rhannau gwahanol o'r broses o ddatblygu deddfwriaeth a chânt eu cynnwys yn rhan o unrhyw benderfyniad ariannol.
Ddirprwy Lywydd, roeddwn am ddod i ben drwy ddarparu—