6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:29, 24 Ionawr 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am yr adroddiad ac yn falch o'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen asesiad o oblygiadau ariannol sy'n dryloyw ac yn gywir er mwyn i'r Cynulliad a rhanddeiliaid allu craffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth newydd.