Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad wrth yr Aelodau am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a chofnodi fy niolch hefyd i aelodau'r pwyllgor yn enwedig am eu hadroddiad craff, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George, y cytunaf ei fod wedi dangos graddau clodwiw o gydbwysedd a gwrthrychedd yn arwain yr ymchwiliad hwn?
Rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor a'u cydnabyddiaeth fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn cynnig cyfle pwysig i Gymru a'n rhanbarthau ryddhau arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi ymyriadau a all sicrhau twf economaidd cynhwysol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor. Croesawaf hefyd y gydnabyddiaeth yn yr adroddiad fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn ymwneud â mwy nag arian yn unig. Nid ffrwd ariannu arall ydynt i fynd ar drywydd prosiectau unigol, annibynnol nad ydynt yn gallu sicrhau cefnogaeth mewn unrhyw ffordd arall. Gyda'n cynllun gweithredu economaidd, maent yn ffordd y gallwn ddatblygu agenda economaidd gryfach a mwy strategol a all gefnogi'r cymunedau, y busnesau a'r unigolion yn yr ardal honno.
Nawr, fel Llywodraeth, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd dull rhanbarthol ac rydym yn falch o'n record ar swyddi, gyda dros 185,000 wedi eu cefnogi yn y chwe blynedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd, neu wedi bod yn agos at gyrraedd, y lefelau uchaf erioed gyda mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen. Fel y dywedais ar sawl achlysur bellach, nid yw manteision twf economaidd wedi bod yn gyfartal. Mae gwahaniaethau mawr o hyd rhwng gwahanol rannau o Gymru. Rydym yn cydnabod nad yw pob rhan o Gymru wedi cael ei chyfran deg o dwf ac rydym yn cydnabod bod Cymru yn cynnwys rhanbarthau sydd â'u cyfleoedd penodol eu hunain, eu hunaniaeth unigryw, yn ogystal â'u heriau neilltuol wrth gwrs.
Felly, drwy gyflwyno dimensiwn rhanbarthol i ddatblygu economaidd drwy gynllun gweithredu economaidd, credaf y gallwn ddatblygu cryfderau unigryw pob rhanbarth yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth ag ardaloedd bargeinion dinesig a bargeinion twf. Felly, bydd gan bob rhanbarth o Gymru ffocws penodol yn y model datblygu economaidd rhanbarthol newydd hwn. Mae prif swyddogion rhanbarthol wedi'u penodi ac eisoes yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y rhanbarthau ac wrth gwrs, gyda'i gilydd, i sicrhau bod gweithgareddau ar draws y rhanbarthau yn ategu ei gilydd ac yn gydgysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i lunio darpariaeth Llywodraeth Cymru, fel y gallwn ymateb yn well i'r cyfleoedd penodol ym mhob rhanbarth.
Lywydd, mae gan y ddwy fargen ddinesig yng Nghymru sylfeini cadarn eisoes a sail gref i gyflawni eu huchelgais economaidd, ac ym mhob rhanbarth, mae'n amlwg fod cynnydd yn cael ei wneud. Mae metro de Cymru yn ganolog i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n werth £1.2 biliwn, a dyna yw ein cyfraniad mawr i'r fargen arbennig honno. Dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae'r broses gaffael yn mynd rhagddi'n dda, gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i gytuno rhwng Llywodraeth Cymru a chyd-gabinet y fargen ddinesig. Ond fel y dywedodd Vikki Howells, ni ddylai bargen ddinesig arwain at dwf mewn rhai ardaloedd ac at ddiffyg twf, neu at ddirywiad yn wir, mewn ardaloedd eraill. Dylai bargeinion dinesig arwain at dwf cynhwysol, gan ddarparu cyfleoedd i greu cyfoeth ar draws rhanbarthau, a chredaf fod y metro wedi'i gynllunio i wneud hyn—i ddod â bywyd newydd i gymunedau marwaidd. Rwy'n credu y gall ein dull o ddatblygu Merthyr Tudful yn y blynyddoedd diwethaf weithredu fel glasbrint ar gyfer adfywio llawer iawn mwy o gymunedau ar draws de-ddwyrain Cymru.
Rydym wedi croesawu'r cynlluniau i fuddsoddi £37 miliwn i greu clwstwr technoleg sy'n arwain y byd yng Nghasnewydd fel y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan y fargen hon sy'n werth £1.2 biliwn. Disgwylir i hyn greu mwy na 2,000 o swyddi a chaiff ei gefnogi gan £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl llofnodi bargen dinas-ranbarth bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn, mae achosion busnes manwl yn cael eu datblygu ar gyfer 11 o brosiectau. Mae trefniadau llywodraethu yn cael eu cytuno hefyd i ddarparu arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd dros gyflawni'r fargen yn llwyddiannus, ac wrth gwrs, rydym yn parhau i weithio gyda rhanbarth gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ystyried sut y gall bargen dwf ar gyfer gogledd Cymru gefnogi eu dyheadau yn y ffordd orau ar gyfer creu twf economaidd pellach—rhagor o dwf economaidd i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi ei ysgogi yng ngogledd Cymru.
Nid oes ond angen inni edrych ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng ngogledd Cymru i sylweddoli potensial y rhanbarth hwnnw os yw Llywodraeth y DU yn agor ei phocedi ac yn buddsoddi yng ngogledd Cymru hefyd. Mae £600 miliwn yn barod gan Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi mewn seilwaith, megis yr A494, trydydd croesiad y Fenai, ffordd osgoi Bontnewydd i Gaernarfon, yr A55, sefydliad gweithgynhyrchu uwch Cymru, pencadlys Banc Datblygu Cymru, canolfan Busnes Cymru, M-SParc. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n llawn a chefnogi cynigion sydd wedi'u cynnwys yng nghais gogledd Cymru.
Ond wrth gwrs, y peth mawr yng ngogledd Cymru y bydd pobl yn siarad yn gyson â mi yn ei gylch yw trafnidiaeth. Rwy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn sawl ffordd, ond mae galw mawr ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd, sydd wedi llusgo ar ôl cyfartaledd y DU. Mae wedi llusgo ar ôl ers llawer gormod o amser. Nid ydym ond wedi cael oddeutu 1 i 1.5 y cant o'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, gan fod gennym 5 y cant o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, yng nghanolbarth Cymru, mae Powys a Cheredigion yn datblygu Tyfu Canolbarth Cymru—