– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 24 Ionawr 2018.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: 'Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw—Russell George. [Aelodau'r Cynulliad: 'Clywch, clywch.'] Mawredd mawr.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Ac i fy nghlwb cefnogwyr bach ar yr ochr hon i'r Siambr. [Chwerthin.]
Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i.
Dros y 10 i 15 mlynedd nesaf, bydd £2.5 biliwn ar ei ffordd i ddinas-ranbarth Caerdydd a dinas-ranbarth Abertawe fel rhan o'r bargeinion dinesig, a lofnodwyd wrth gwrs gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn ogystal. Yng ngogledd Cymru, mae'r Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi cyflwyno ei gais ar gyfer cytundeb tebyg i wasanaethu ei ardal.
Yn adroddiad ein pwyllgor, roeddem yn argymell y dylai canolbarth Cymru hefyd gael bargen,
'i gwblhau'r jig-so yng Nghymru', fel y'i nodwyd yn ein hadroddiad. Roeddwn yn falch o glywed y Canghellor yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn dweud y byddai'n ystyried cynigion ar gyfer bargen dwf canolbarth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol, nid yn lleiaf yn ei hymateb i'n hadroddiad, ond wrth gwrs, ni fydd geiriau mwyn yn gwella economi canolbarth Cymru, a heb fwy o fewnbwn gan y ddwy Lywodraeth, rwy'n ymwybodol o'r perygl y caiff calon canolbarth Cymru ei hanghofio. Felly, rwy'n falch fod yna gonsensws y dylid cael cytundeb ar gyfer canolbarth Cymru, ac yn awr, wrth gwrs, mae angen inni roi cnawd ar yr esgyrn ac adeiladu consensws ymhlith busnesau, y sector cyhoeddus a phobl canolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod eu bargen yn diwallu eu hanghenion ac yn gwneud hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am ganiatáu i'w swyddog ddod i gyfarfod a drefnwyd gennyf yr wythnos diwethaf gyda rhanddeiliaid. Roedd y cyfarfod yn fwy technegol mae'n debyg o ran pa ardaloedd y dylid eu cynnwys a phwy ddylai reoli bargen, oherwydd credaf ei bod ychydig bach yn rhy gynnar efallai i fynd i fanylu.
Wrth gwrs, mae bargeinion dinesig eisoes yn ail-lunio blaenoriaethau datblygu economaidd de Cymru, ac mae dull rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru a amlinellir yn 'Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi' yn cefnogi hyn. Fel pwyllgor, cyflawnwyd yr ymchwiliad hwn oherwydd bod arnom eisiau gweld pa effaith yr oedd y bargeinion hyn yn eu cael, sut roeddent yn datblygu a chymharu'r bargeinion yng Nghymru â'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU. Mae bargeinion yn destun trafod mynych fel sbardun allweddol i weithgarwch economaidd yng Nghymru yn y dyfodol, felly mae angen inni sicrhau eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd, pwy sy'n gyfrifol am y cynlluniau a beth sy'n digwydd os na chyrhaeddir y targedau.
Rhoddaf un enghraifft. Roeddem yn teimlo bod angen mwy o sicrwydd y gellir cyflawni ymgyrch Llywodraeth y DU i gynyddu cynnyrch domestig gros ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gynaliadwy ar yr un pryd.
Tra oeddem ni yng Nghymru yn edrych ar ein bargeinion dinesig, yn Senedd yr Alban mae'r Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi bod yn gwneud rhywbeth tebyg iawn. Mae eu hadroddiad, a gyhoeddwyd bythefnos yn ôl, yn dod i lawer o'r un casgliadau â ninnau, a chredaf fod hynny'n galonogol. Yn ddiddorol, teimlent hefyd fod tensiwn rhwng amcanion y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU.
Mae eu hadroddiad yn dweud, mae angen eglurhad pellach ynglŷn ag a ddylai'r ffocws fod ar dwf economaidd pur neu dwf cynhwysol.
Felly, mae'n amlwg fod hwn yn fater nad yw wedi'i datrys yn llawn mewn unrhyw un o'r bargeinion datganoledig hyd yn hyn, ac yn yr un modd, mae'n amlwg fod angen iddo fod.
Datgelodd ein hymchwiliad bryderon ynglŷn ag a fyddai effeithiau cadarnhaol unrhyw fargeinion yn cyrraedd y mwyaf difreintiedig yn yr ardal, ac a allai cystadleuaeth rhwng rhanbarthau olygu bod rhai mannau yn ffynnu ar draul eraill. Mae'n galonogol gweld bod arweinwyr y bargeinion yn ymwybodol o'r materion hyn, a bod rhywfaint o dystiolaeth o gydweithredu rhwng rhanbarthau Cymru, ond nid yw'n glir a fydd hynny'n ddigon i sicrhau y gall bargeinion osgoi creu enillwyr a chollwyr.
Sylwaf fod y pwyllgor llywodraeth leol yn yr Alban hefyd yn sôn yn fanwl am y risg y bydd gweithgarwch economaidd yn cael ei adleoli o un ardal i ardal arall. Fel ninnau, maent yn poeni y gallai ardaloedd nad ydynt wedi eu cynnwys mewn bargen dwf fod ar eu colled mewn dwy ffordd. Yr hyn rwy'n ei olygu yw eu bod ar eu colled unwaith drwy beidio â chael bargen eu hunain, ac eilwaith drwy weld eu busnesau cynhenid yn symud i ardal arall sydd â bargen dwf. Nid yw hyn, wrth gwrs, ond yn atgyfnerthu ein dadl y dylai pob rhan o Gymru gael bargen.
Mae'r un maes lle mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhellion y pwyllgor yn ymwneud â'r hyn a alwn yn 'ffiniau aneglur'. Ein nod yn yr argymhelliad hwn oedd sicrhau bod gan awdurdodau lleol neu bartneriaid eraill hyblygrwydd i gyfrannu at fwy nag un ardal sydd â bargen dwf. Enghraifft o hynny, efallai, yw bod Gwynedd a Sir Benfro yn rhannu rhai o elfennau gwledig Powys a Cheredigion, a buaswn yn annog y Gweinidog i ailedrych ar hyn.
Yn yr Alban, mae nifer o ardaloedd awdurdodau lleol yn rhan o fwy nag un fargen. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na allai trefniadau tebyg weithio'n effeithiol yma yng Nghymru. Pe bai awdurdodau lleol yn dewis dilyn y trywydd hwnnw, rwy'n derbyn yn llwyr y byddai cwestiynau'n codi o ran atebolrwydd ac eglurder, a byddai angen eu datrys.
Mae'r bargeinion ar gam cynnar iawn wrth gwrs ac mae'r teilwra ar gyfer anghenion lleol sy'n ganolog i'r bargeinion yn ei gwneud yn anodd dysgu gwersi pendant o fannau eraill. Ond un broblem gyson yw'r angen am bartneriaeth a gweledigaeth gytûn ar gyfer y rhanbarth. Mae'r elfen hon o fargen ddinesig de Cymru wedi digwydd, ond bydd angen ei chynnal. Efallai fod y symiau ariannol sydd dan sylw yn y bargeinion hyn yn llai sylweddol nag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf, oherwydd eu bod, wrth gwrs, ar gyfer cyfnod hir o amser. Ond credaf fod modd i'r hyn y gellid ei ennill drwy gydweithio rhwng sectorau, a datblygu nodau datblygu strategol, fod yn garreg sylfaen ac yn etifeddiaeth barhaus i ddull y fargen ddinesig o weithredu.
Felly, edrychaf ymlaen at y ddadl hon y prynhawn yma ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddadl ddiddorol. Gobeithio y byddwn yn clywed gan Aelodau nad ydynt yn rhan o'r pwyllgor hefyd, a gobeithio, yn gyffredinol, y bydd consensws ynglŷn â rhai o'r argymhellion a wnaeth adroddiad y Pwyllgor.
Mae'r adroddiadau pwyllgor hyn yn ddefnyddiol iawn, ac maent yn datgelu'r Russell George go iawn, rwy'n credu, yr un a welsom yn cadeirio'r pwyllgor, nid y Russell George a welwn, efallai, yn y ddadl nesaf. Credaf yn wir mai dyna yw personoliaeth go iawn yr Aelod Cynulliad rhesymol, Russell George.
Mae'n werth cofio bod Adam Price wedi cyfeirio at y fargen ddinesig, yn ystod y ddadl economaidd flaenorol, fel olew neidr dinas-ranbarthau, ac mewn rhai ffyrdd, gallwch fod yn feirniadol o fargeinion dinesig oherwydd y ffaith nad ydynt yn debygol o lwyddo os nad ydynt wedi'u cysylltu â rhywbeth arall. Fodd bynnag, mae gennym gynllun cyflenwi tasglu'r Cymoedd hefyd ac mae gennym gynllun economaidd Ysgrifennydd y Cabinet. Os yw'r pethau hynny wedi'u clymu wrth ei gilydd, rydych yn cael llawer gwell arbedion maint a all gyflawni rhai o'r pethau a adlewyrchir yn yr adroddiad. Felly, gallaf weld pam, efallai, fod y Llywodraeth wedi gwrthod rhai o argymhellion yr adroddiad. Felly, y rheswm pam y gwrthodir argymhelliad 10 ar faterion atebolrwydd, ond hefyd y ffocws rhanbarthol, yw oherwydd bod yn rhaid iddynt gysylltu â'r cynllun economaidd a thasglu'r Cymoedd. Gallaf ddeall hynny, er ei bod ychydig yn siomedig na allwch gymylu'r ffiniau hynny wedyn ar draws ardaloedd.
Yn fy marn i, mae'r bargeinion dinesig ynddynt eu hunain, ar eu pen eu hunain, yn annigonol, ond mae gweithio gyda'r rheini'n gwneud synnwyr perffaith, a'r hyn sy'n bwysig i mi yw bod y fargen ddinesig yn darparu ar gyfer yr ardal hon a ddisgrifiais fel y Cymoedd gogleddol, yng ngogledd fy etholaeth—y cymunedau sydd wedi'u gwthio o'r neilltu i ffwrdd oddi wrth yr M4 a'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, mannau nad ydynt, efallai, wedi mwynhau'r un lefel o fuddsoddiad â rhai o'r lleoedd sy'n agosach at y canolfannau trafnidiaeth. Dyna pam rwyf wedi ceisio datblygu'r cysyniad hwn. Unwaith eto, mae'n galonogol fod y Llywodraeth yn cydnabod yn rhai o'i hymatebion i'r argymhellion y gallwn wasanaethu'r ardaloedd hynny'n well drwy gael y ffiniau hynny.
Gall y fargen ddinesig hwyluso cynlluniau datblygu strategol, er enghraifft, a chredaf fod cynlluniau datblygu strategol yn bedwerydd arf y gellir ei ychwanegu i ddenu pethau fel tai, buddsoddi a busnesau tua'r gogledd, i mewn i gymunedau'r Cymoedd gogleddol. Ni ddylai Swyddi Gwell yn Nes at Adref olygu bod y cymunedau hyn wedi'u datgysylltu, ac felly, yn ogystal â chynlluniau datblygu strategol, mae cynllunio trafnidiaeth yn allweddol hefyd. Bydd metro de Cymru hefyd yn ffactor allweddol ar gyfer cyflawni hyn.
Rwy'n falch fod y ddau Ysgrifennydd Cabinet wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr adroddiad. Rhaid inni ddarparu mecanwaith a strwythur ar gyfer gweithio cydgysylltiedig, a chredaf ei fod yn seiliedig ar y cynllun hwn gan fod materion yn ymwneud ag atebolrwydd a ffocws rhanbarthol yn ganolog iddo. Os gallwn gadw hyn mewn cof a chael pethau'n iawn, yna gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud iddo weithio, a byddaf yn eu cynorthwyo i wneud hynny, ond ar yr un pryd, yn bod yn ffrind beirniadol ac yn dod â materion lle rwy'n teimlo nad yw'r fargen ddinesig yn gweithio gerbron y Siambr hon.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma, er nad ydwyf yn aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ond yn derbyn gwahoddiad y Cadeirydd, rydw i'n ddigon bodlon cyfrannu i'r ddadl.
Mae Llywodraeth Prydain drwy eu bargeinion dinesig, a hefyd Llywodraeth Cymru drwy eu strategaeth economaidd sydd yn ymrwymo i fodel datblygu economaidd ar sail ranbarthol, wedi gosod cyfeiriad newydd i bolisïau economaidd i Gymru. Gyda chenedl ble mae cyfoeth a gwariant cyhoeddus yn tueddu i gael eu canolbwyntio mewn un cornel o'r wlad ar draul mannau eraill, mae rhoi ystyriaeth i ddatblygu economaidd ar sail ddaearyddiaeth mewn ymdrech i ddenu buddsoddiad a chyfleoedd i ardaloedd difreintiedig i’w groesawu, felly. Ond drwy wneud hynny, mae yna beryglon sydd yn rhaid i ni eu hystyried. Mi ddatgelodd yr ymchwiliad bryderon ynghylch a fyddai unrhyw effeithiau cadarnhaol y bargeinion dinesig yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf difreintiedig mewn ardal, ac a allai cystadleuaeth rhwng rhanbarthau weld rhai lleoedd yn ffynnu ar draul eraill.
Ond un elfen sydd yn rhaid ei chroesawu am ymdrechion y ddwy Lywodraeth i ranbartholi datblygu economaidd ydy’r cydweithio y mae'n rhaid iddo fodoli rhwng busnesau, awdurdodau lleol, y pwyllgorau dinesig newydd, Llywodraeth Cymru a hefyd y Deyrnas Unedig. Mae’r bargeinion dinesig yn ei gwneud hi’n haws i gydweithio gydag ardaloedd dros y ffin yn Lloegr. Mae cydweithio drawsffiniol yn bwysig, nid ond i Gymru, ond i unrhyw wlad mewn byd byd-eang.
Nid oes neb, wrth gwrs, yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu creu cysylltiadau masnach, er enghraifft rhwng Caerdydd a Bangor, o fewn Cymru, sydd dros 190 o filltiroedd i ffwrdd, o’i chymharu â Bryste sydd ddim ond 40 milltir i ffwrdd. Ond rydym ni mewn peryg o edrych i’r dwyrain yn rhy aml am atebion i’n problemau. Drwy wneud hynny, mae penderfyniadau megis buddsoddiad mewn isadeiledd yn cael eu gwneud ar sail y flaenoriaeth hon.
Fe gynhaliodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns, uwch-gynhadledd twf Hafren yr wythnos yma, a welodd fusnesau, awdurdodau lleol ac academyddion yn ymuno ynghyd i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil diddymu tollau Hafren. Gallai'r penderfyniad i ddiddymu’r tollau ar bont Hafren arwain at bwerdy gorllewinol sy'n ymestyn o Gaerfaddon a Bryste i Gasnewydd, Caerdydd ac Abertawe, ac yn arwain at hwb mewn ffyniant a swyddi, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol. Fel y dywedais yn gynharach, mae cydweithio trawsffiniol yn hanfodol, ond bod yn rhaid i hynny gael ei wneud ar sail partneriaeth deg, sydd yn fuddiol i gymunedau ar ddwy ochr Clawdd Offa. Mae’n rhaid i hynny olygu ymdrechion i sicrhau bod buddsoddiad yn dod i Gymru, i Gaerdydd, i Gasnewydd ac i Abertawe er mwyn creu swyddi o ansawdd da, ac nid hwyluso’r daith i'r bobl sydd yn byw yma i gyrraedd swyddi ym Mryste neu Gaerfaddon yn unig.
Ond nid yn unig hynny, beth am i’r gorllewin o Abertawe? Gyda phenderfyniad Llywodraeth Prydain i beidio â buddsoddi mewn trydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe, y cysyniad y mae hynny yn ei greu i fuddsoddwyr ydyw nad oes pwrpas ystyried buddsoddi mewn ardaloedd y tu hwnt i Gaerdydd, heb sôn am y tu hwnt i Abertawe. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn pryderu y gall rhanbartholi arwain at greu enillwyr a chollwyr, gyda rhai ardaloedd yn manteisio ar draul eraill. Ond mae’n amhosib crybwyll digon pa mor beryglus yw’r syniad o fargeinion dinesig a rhanbarthau economaidd i gymunedau yng ngorllewin eithaf Cymru, o ystyried mai datblygu economi drawsffiniol yw blaenoriaeth y Llywodraeth ar ddwy ochr yr M4. Diolch yn fawr.
Yn ei ymateb i'n hadroddiad, dywed Ysgrifennydd y Cabinet fod gan fargeinion dinesig a bargeinion twf rôl gref i'w chwarae yn ein dull sy'n canolbwyntio ar ranbarthau o ddatblygu'r economi. Mae'n derbyn ein hargymhellion 5 a 9 ynghylch bargen dwf gogledd Cymru, cais a gyflwynwyd yn ffurfiol iddo ef ei hun ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru y DU gan chwe chyngor sir gogledd Cymru a'u partneriaid y mis diwethaf. Roedd y rhain yn datgan,
'Dylai trafodwyr Bargen Dwf Gogledd Cymru barhau i weithio'n adeiladol gyda phartneriaid ac awdurdodau cyfagos yng Nghymru ac ar draws y ffin', ac y dylai,
'Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi cynlluniau ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru a defnyddio'r dylanwad sydd ganddi i gyflymu'r broses hon.'
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn agor y drws i fargen dwf ar gyfer gogledd Cymru yn ei chyllideb ym mis Mawrth 2016, a chyhoeddodd, fel y clywsom, ei hymrwymiad parhaus i hyn yng nghyllideb yr hydref 2017. Er bod cyfradd ddiweithdra y DU yn is nag y bu ers pedwar degawd, a bod ffigurau newydd ar gyfer y DU heddiw yn dangos gostyngiad pellach yn lefel diweithdra a swyddi'n cael eu creu'n gyflymach nag a ragwelwyd, yn anffodus mae diweithdra yng Nghymru ar gynnydd a'r gyfradd ddiweithdra yw'r uchaf o blith gwledydd y DU. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur a gwario biliynau ar adfywio, Cymru yw rhan dlotaf y DU o hyd, a hi sy'n cynhyrchu'r gwerth isaf y pen mewn nwyddau a gwasanaethau o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU.
Yng nghyd-destun gogledd Cymru, mae'r ffigur y pen o'r boblogaeth yn is-ranbarth gorllewin Cymru a'r Cymoedd, gan gynnwys pedair o'r siroedd yng ngogledd Cymru, yn dal ar y gwaelod drwy'r DU, ar 64 y cant yn unig o gyfartaledd y DU, ac mae Ynys Môn yn dal i fod yn isaf yn y DU, ar 52 y cant yn unig o gyfartaledd y DU. Mae Sir y Fflint a Wrecsam hyd yn oed wedi gweld eu gwerth ychwanegol gros cyfunol yn disgyn bron 100 y cant o lefel y DU ar adeg datganoli, i 89 y cant yn 2016.
Felly, nod y fargen dwf yw manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd trawsffiniol a ddaw yn sgil Pwerdy Gogledd Lloegr, a lledaenu ffyniant tua'r gorllewin wrth gwrs. Mae ein hadroddiad yn nodi mai'r cynllun dros dro yng ngogledd Cymru yw sefydlu bwrdd o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, ond gyda chynrychiolwyr cyfetholedig hefyd o addysg uwch ac addysg bellach a'r gymuned fusnes. Wel, bellach sefydlwyd bwrdd twf gogledd Cymru i gwblhau'r fargen dwf a rheoli'r modd y caiff ei chyflawni ar ôl sicrhau cytundeb y ddwy Lywodraeth.
Mae trafodaethau gyda'r ddwy Lywodraeth i fod i gychwyn yn gynnar eleni, ac felly mae arnom angen eglurder gan Mr Skates ynghylch safbwynt Llywodraeth Cymru. A yw'n cefnogi'r cynigion a sut y bydd yn ymateb wrth i'r trafodaethau ar y fargen dwf fynd rhagddynt yn awr?
A wnewch hi dderbyn ymyriad? Yn gyflym iawn—diolch i chi am dderbyn ymyriad. A yw'r Aelod yn ymwybodol—a sylwaf eich bod wedi galw Pwerdy'r Gogledd yn Bwerdy Gogledd Lloegr— a ydych yn ymwybodol fod gogledd Cymru wedi'i gynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd ar gyfer Pwerdy'r Gogledd, nid fel partner i Bwerdy Gogledd Lloegr weithio gyda hwy?
Wel, y peth allweddol yw ein bod yn elwa'n economaidd ac yn gymdeithasol ar y cysylltiad gan ledaenu'r ffyniant hwnnw'n amlwg yr holl ffordd i Gaergybi.
Dywedodd cydlynydd gogledd Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthyf yn y pwyllgor,
Mae'n ymwneud â mwy na phobl sy'n ddi-waith, mae hefyd yn ymwneud â mater cyflogau isel, a'r gallu hefyd i symud at fwy o waith sy'n talu'n well.
Dywedodd cadeirydd cyngor busnes gogledd Cymru wrthyf:
Rhaid inni wneud popeth a allwn i becynnu ein heconomi yn y rhanbarth yn gadarn, gan gynnwys gyda phartneriaid trawsffiniol, a rhaid inni ei wneud yn awr.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gweithio ar sail gyfartal gydag ardaloedd ar draws y ffin o ogledd Cymru, roeddent hefyd yn galw am ddatganoli adnoddau a phwerau ar lefel ranbarthol. Dywedodd prif weithredwr arweiniol bargen dwf gogledd Cymru, Prif Weithredwr Sir y Fflint:
Ceir rhai meysydd cyllid... pe bai'r mesurau rheoli'n cael eu llacio a'u bod yn cael eu datganoli i ogledd Cymru gyda chytundeb ynghylch rhai o'r amcanion gyda Llywodraeth Cymru, gallem greu mwy o atyniad gyda'r arian hwnnw.
A nododd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru:
Mae datganoli swyddogaethau i ogledd Cymru sy'n cyfateb i'r hyn a geir yn y rhanbarthau cyfagos yn Lloegr yn anghenraid amddiffynnol ac yn elfen a ddymunir ar gyfer hwyluso twf.
Eu gweledigaeth yw creu 120,000 o swyddi a chynyddu'r economi leol i £20 biliwn erbyn 2035.
Ddoe, gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i wahoddiad cais bargen dwf gogledd Cymru i Lywodraeth Cymru gefnogi ffurfio corff trafnidiaeth rhanbarthol gyda phwerau wedi'u dirprwyo i'r corff gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddo weithredu mewn cymhwyster gweithredol a gyda chronfa o £150 miliwn dros 10 mlynedd, gan gynnwys £50 miliwn presennol Llywodraeth Cymru i ymrwymiad metro gogledd Cymru. Yn lle hynny, roedd ei ymateb yn un a allai beri pryder, sef:
Rydym eisoes wedi sefydlu grŵp llywio metro gogledd Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru.
A fydd yn ddigon dewr felly i ddatganoli'r pwerau y mae gogledd Cymru yn galw amdanynt, neu a allai mecanwaith gorchymyn a rheoli Caerdydd beryglu'r prosiect cyfan?
Fel y nodwyd eisoes, mae bargeinion dinesig yn cynnig cyfle newydd i ddwyn ynghyd amrywiaeth o randdeiliaid i hybu economïau Cymru go iawn. Mae'n cynnig ffordd newydd, gydgysylltiedig o weithio. Yn bwysicach, cânt eu hategu gan chwistrelliad o gyfalaf a allai helpu i gyflawni manteision seilwaith mawr. Ond mae'n bwysig inni gael bargeinion dinesig yn iawn, fod y dull o'u llywodraethu yn ddealladwy ac yn hawdd ei adnabod. Rhaid iddynt hefyd fodloni amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a chynnig y cyfleoedd y mae cymunedau eu hangen.
Dyma'r pwyntiau rwyf am eu gwneud heddiw. Yn gyntaf, argymhelliad 2: mae atebolrwydd democrataidd yn allweddol i sicrhau bod bargeinion dinesig yn cyflawni eu potensial i roi hwb i'n heconomi. Rhaid i'r llywodraethu fod yn dryloyw, y disgwyliadau'n glir, a'r canlyniadau'n hawdd eu monitro. Mae'n bwysig fod cymunedau yn gwybod sut y gwerir eu harian. Mae hefyd yn hanfodol eu bod hwy, a'u cynrychiolwyr, boed wedi eu hethol i'r Cynulliad hwn, i siambrau cynghorau, neu i'r Senedd, yn gallu ymgysylltu'n bwrpasol a chraffu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Bydd hyn oll yn helpu i bennu perchnogaeth. Rwy'n deall bod pwyntiau tebyg wedi'u gwneud gan bwyllgor llywodraeth leol Senedd yr Alban wrth iddo ystyried bargeinion dinesig yn yr Alban.
Credaf fod yna debygrwydd pwysig o bosibl i'r sefyllfa gyda'r Undeb Ewropeaidd. Gwyddom fod cyllid yr UE wedi helpu i gyflawni prosiectau buddiol iawn ar draws ardaloedd fel fy un i, ond nid oedd llawer o bobl yn y cymunedau hynny erioed wedi teimlo'r ymdeimlad hwnnw o berchnogaeth. Nid oeddent yn gwybod i ble roedd yr arian yn mynd, beth oedd yn ei gyflawni neu'n ei ddarparu. Taniodd hyn y teimlad gwrth-wleidyddiaeth a amlygwyd ym mhleidlais Brexit 2016. Ni allwn i'r bargeinion dinesig syrthio i'r un fagl. Croesawaf ymateb cryf Ysgrifennydd y Cabinet i'r argymhelliad hwn. Yn yr un modd, o ran argymhelliad 3, dylai fod cydnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth glir o beth yn union y mae llwyddiant a methiant yn ei olygu. Fodd bynnag, fel rwy'n dweud, mae angen inni fod yn feiddgar a deinamig a sicrhau nad partneriaid y bargeinion yn unig sydd â'r wybodaeth hon, ond ei bod yn cael ei rhannu a'i deall ar lawr gwlad hefyd.
Mae'r chweched argymhelliad yn bwysig iawn hefyd. Mae nodau llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail briodol i waith ac amcanion menter y fargen ddinesig. Er enghraifft, o ran y nodau ffyniant a chydraddoldeb, mae'n dda nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Mae'r sylw fod lledaenu manteision economaidd ar draws y rhanbarthau yn allweddol i'r bargeinion dinesig a'r bargeinion twf yn bwysig. Fel sosialydd, rwy'n argyhoeddedig fod ailddosbarthu economaidd yn allweddol i fesur llwyddiant y bargeinion dinesig. Yn ystod y dystiolaeth, clywsom bryderon gan Colegau Cymru am y posibilrwydd y bydd y Cymoedd yn cael eu diberfeddu. Rhaid inni wneud yn siŵr na fydd y diberfeddu hwn yn digwydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth, fel y crybwyllwyd eisoes, yn hanfodol i hyn, a rhaid iddynt fod yn wirioneddol ddwy ffordd. Rhaid iddynt ddod â buddsoddiad a ffyniant i'r Cymoedd, fel y maent yn mynd â gweithwyr o'r Cymoedd i swyddi yng Nghaerdydd neu rywle arall. Bydd prosiect metro de Cymru yn gwbl allweddol i hyn.
Hefyd yn fyr, rwyf am grybwyll argymhelliad 10. Pan glywsom gan dystion, daeth manteision sicrhau ymgysylltiad awdurdodau lleol a phartneriaid sector preifat â nifer o fargeinion dinesig yn eithaf amlwg. Felly, mae ein hargymhelliad y dylai ffiniau fod yn aneglur ac yn hyblyg yn gwneud synnwyr. Mae hon hefyd yn ardal lle y gwn yn uniongyrchol o fy etholaeth y byddai dull o'r fath yn gweithio orau. Er enghraifft, mae cymunedau fel Hirwaun yn edrych tuag at, ac yn meddu ar gysylltiadau cyfathrebu cryf ag Abertawe, er eu bod yn rhan o brifddinas-ranbarth Caerdydd a bargen ddinesig prifddinas Caerdydd. Gallai'r ardaloedd hyn ar y ffiniau elwa o allu ymgysylltu mewn ffordd bwrpasol â dinas-ranbarthau Caerdydd ac Abertawe. Rwy'n teimlo felly fod ymateb Llywodraeth Cymru ar yr argymhelliad hwn yn siomedig. Crybwyllais hyn yn flaenorol yn ystod sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog a chroesewais safbwyntiau clir y Prif Weinidog na fyddai unrhyw ffiniau cryf. Gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd pellach i ni ynglŷn â'r pwynt hwn wrth ymateb i'r ddadl heddiw.
Rwyf wedi croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r ymchwiliad ehangach a gynhaliwyd gan bwyllgor yr economi. Diolch i'r Cadeirydd, i'r Aelodau eraill, a'r tîm clercio, a hoffwn adleisio diolchiadau a roddwyd yn gynt i bob un o'n tystion hefyd. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd y bargeinion dinesig yn gweithio er mwyn inni allu gweld datblygiad yr economïau rhanbarthol y mae Cymru eu hangen yn ddi-os er mwyn cystadlu a ffynnu yn y dyfodol.
Rwyf wedi ystyried yr adroddiad hwn yn ofalus iawn, a chyda'r ddealltwriaeth fod pawb yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, am i Lywodraeth Cymru lwyddo yn ei nod datganedig o ddarparu ffyniant i bawb. Fodd bynnag, cyn i mi wneud sylwadau ar yr adroddiad hwn, rhaid i mi ei roi mewn persbectif o ran bod y Blaid Lafur wedi bod mewn grym yng Nghymru dros holl fodolaeth y Cynulliad hwn, ac yn yr amser hwnnw, rydym wedi gweld llawer o strategaethau a Gweinidogion yn mynd a dod. Fy ofn yw nad oes gennym gynllun economaidd cydgysylltiedig ar gyfer Cymru o hyd. Mae'n ymddangos bod unrhyw gynllun cydlynol—. Yr hyn a welir o'r adroddiad hwn yw ei bod yn ymddangos bod unrhyw gynllun economaidd cydgysylltiedig wedi ei ddileu gan amryw haenau gwahanol a gofodol cyrff cyflawni sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun economaidd hwn, sefyllfa a waethygir gan nifer o rai eraill a ragwelir. Prin mai dyma yw'r goelcerth o gwangos a addawyd gan Rhodri Morgan 13 mlynedd yn ôl.
Un o'r argymhellion yn yr adroddiad hwn oedd y dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd ar gyrff rhanbarthol i hyrwyddo datblygiad economaidd a thwf cynhwysol, gyda disgresiwn i wario swm sylweddol o arian, boed gan Lywodraeth Cymru neu arian a godwyd o fewn y rhanbarth. Ond mae'n anodd dychmygu hyn yn digwydd gyda'r 22 o awdurdodau lleol cyfredol hen ffasiwn. Nid bai'r awdurdodau eu hunain yw hyn, mae'n ymwneud yn unig â maint y cyllidebau y maent yn eu rheoli a natur gyfyngedig eu cymwyseddau. Nid oedd y newidiadau diweddar i lywodraeth leol ond yn sôn am gydweithredu trawsranbarthol, heb unrhyw uno awdurdodau yn uniongyrchol, sy'n cymell y cwestiwn: a oedd y strategaeth hon yn un o hwylustod gwleidyddol yn hytrach na hyfywedd economaidd? Onid yw'n bryd archwilio llywodraeth ranbarthol yn seiliedig ar bum rhanbarth y Cynulliad, gyda'r eithriad posibl o rannu canolbarth a gorllewin Cymru yn ddau ranbarth, o ystyried yr ehangder daearyddol mawr? Yn sicr byddai hyn yn fwy tebygol o blethu i gysyniad rhanbarthol cynllun gweithredu economaidd y Llywodraeth.
Os yw'r cynllun gweithredu economaidd i roi ffyniant i bawb mae'n rhaid sylweddoli bod angen lleihau'r baich trethi ar deuluoedd gweithgar yng Nghymru. Ni ellir cyflawni hyn heb dorri drwy haenau o fiwrocratiaeth a llywodraethu diangen sydd bellach yn bodoli. Mae'r model economaidd aml-gorff ac amlhaenog hwn hefyd yn golygu bod craffu ar nodau datganedig yn cael ei wneud yn llawer anos. O ran ymyriadau pwy sydd wedi arwain at unrhyw lwyddiant neu fethiant, bydd gwerthuso hynny bron yn amhosibl. Gadewch inni greu economi yng Nghymru sy'n seiliedig ar sylfaen fusnes ddeinamig a sylfaen weithgynhyrchu, nid sector cyhoeddus wedi ei orlethu. Gyda'r cyfoeth economaidd ychwanegol a ddaw yn sgil hyn, bydd gennym allu gwell i ariannu gwasanaethau hanfodol sy'n creu'r sector cyhoeddus hwnnw.
Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru i sicrhau'r newid sylfaenol hwn ym mholisi economaidd Cymru. Byddant yn hanfodol i ddarparu'r cyllid a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i adeiladu'r economi entrepreneuraidd hon a arweinir gan fusnes. Mae'r byd y tu allan i Gymru yn newid yn ddramatig ac mae angen inni groesawu yr hyn a elwir bellach yn bedwerydd chwyldro diwydiannol, amrywiaeth o dechnolegau newydd sy'n effeithio ar bob disgyblaeth, economi a diwydiant, a hyd yn oed yn herio syniadau ynglŷn â'r hyn y mae bod yn fodau dynol yn ei olygu. Mae Syr Terry Matthews yn credu y dylem symud tuag at sbarduno arloesedd a dylid canolbwyntio ar gysylltu busnes gyda'r gwaith ymchwil gorau fel ffordd o fanteisio ar y pethau newydd anhysbys hyn. Rydym yn cydnabod bod gan ein prifysgolion rôl bwysig i'w chwarae yn y datblygiadau hyn, felly croesawn y ganolfan arloesi £135 miliwn ar gyfer Prifysgol Caerdydd, ond gan ofyn: a ddylem fod yn ailadrodd hyn yng ngogledd Cymru?
Lywydd, os ydym am weld economi Cymru sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, mae'n rhaid inni gael cynllun cyflawni sy'n ddarbodus, yn ddeinamig a heb ei gyfyngu gan fiwrocratiaeth.
Mae hwn yn adroddiad byr defnyddiol i dynnu sylw at rai o'r manteision, ond rhai o'r peryglon hefyd, o bosibl, sydd o'n blaenau. Rwy'n credu ei bod hi'n wych fod gennym 10 awdurdod lleol ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd yn cydweithio, oherwydd yn amlwg, pan fyddwn yn ceisio datrys ein cysylltedd a threfniadau trafnidiaeth eraill y mae angen i ni eu gwneud ar gyfer ein cymunedau, rhaid inni weithio gyda'n gilydd. Mae'n hurt cael ffiniau artiffisial. Felly, mae hynny'n iawn, a nodaf sylwadau cadarnhaol Andrew Morgan, sy'n dweud, oherwydd bod awdurdodau lleol wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd, fod hynny hefyd wedi annog Llywodraeth Cymru i weithio'n effeithiol gyda'r 10 awdurdod lleol. Felly, mae hynny'n dda iawn.
Credaf fod rhai o fy mhryderon yn ymwneud â rhai o'r pethau y mae'r adroddiad yn sôn amdanynt mewn perthynas â llywodraethu a thryloywder, oherwydd buaswn yn hoffi meddwl fy mod yn rhoi llawer o sylw i brifddinas-ranbarth Caerdydd, nid yn lleiaf oherwydd, ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd i fynd tuag at y trefniadau trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarth, ac mae hynny'n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo. Ond nodaf bryderon Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree ynghylch y diffyg tryloywder, ac rwy'n profi peth o hynny fy hun i raddau. Nid wyf yn gwybod sut y gwneir penderfyniadau ynglŷn â sut y penderfynir ar y £734 miliwn ar gyfer cam 2 y metro. Os yw ond yn mynd i fynd tuag at uwchraddio rheilffyrdd sy'n bodoli eisoes, mae'n newyddion da i gymunedau sydd eisoes yn elwa ar y rheilffyrdd hynny, ond ni fydd yn newyddion da o gwbl i'r cymunedau nad ydynt yn cael unrhyw fudd o'r rheilffyrdd a gaewyd amser maith yn ôl o dan Beeching. Mae diffyg eglurder yn fy meddwl ynglŷn â sut rydym yn mynd i gael dull gwirioneddol gynhwysfawr o sicrhau bod ein holl gymunedau wedi'u cysylltu fel nad oes gennym gymunedau yn cael eu gadael ar ôl. Dyna un o'r pethau eraill y tynnodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree sylw atynt—bydd gennych effaith twnnel drwy fod adnoddau'n cael eu tynnu i mewn i ardaloedd penodol gan sugno adnoddau o ardaloedd eraill. Mae'r rheini'n bethau sy'n rhaid inni ochel rhagddynt.
Ceir pryderon mawr ynglŷn â'r ffactorau anhysbys. Yn amlwg bydd o fudd i Gymru gael rheolaeth ar ei thynged ei hun o ran trafnidiaeth, oherwydd mae'n ddiddorol cofio, yn y fanyleb allbwn lefel uchel a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros drafnidiaeth yn San Steffan, un o'r ddau amcan oedd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abertawe, ac mae pawb ohonom yn gwybod beth a ddigwyddodd gyda hynny. Felly, ar ba bwynt y maent yn symud y pyst gôl mewn perthynas â Trafnidiaeth Cymru a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd? Credaf fod risgiau yn hyn oll, a hefyd ceir risgiau eraill a welsom mewn mannau eraill yn y DU, mewn perthynas â masnachfraint gogledd-ddwyrain Lloegr y gwnaed cais amdani gan Virgin a Stagecoach ac yna, ychydig amser i mewn i'r contract maent wedi penderfynu ei ddychwelyd. Yn amlwg, ceir risgiau ariannol enfawr os yw'r cynigydd a ffafrir gennym ar gyfer masnachfraint Cymru yn ei gael yn anghywir.
Rwy'n croesawu'r adroddiad oherwydd mae'n amlygu rhai o'r pethau sydd angen inni ganolbwyntio arnynt o ddifrif. Mae'n arbennig o bwysig fod yr archwilydd cyffredinol yn amlygu pwysigrwydd olrhain perfformiad prosiect cam 2 y metro fel ein bod yn gallu gweld lle mae'r llithriant a lle mae pethau'n mynd o'i le a lle nad yw pethau'n cael eu cyflawni. Eisoes, rydym wedi gweld amcangyfrifon ynghylch ffordd liniaru'r M4 yn cynyddu i'r entrychion ac mae hynny'n peri pryder, ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau ein bod yn glir ynghylch yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud gyda'r £734 miliwn a beth yw'r cerrig milltir rydym i fod i'w cyflawni gyda'r arian hwnnw. Ond fy hun, nid wyf yn teimlo bod unrhyw un wedi ymgynghori â mi na fy etholwyr o gwbl ynglŷn â siâp y metro ar hyn o bryd.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn? Rwy'n credu ei fod yn archwiliad gwerthfawr iawn o'r cynnydd a'r rhwystrau a nodwyd hyd yma. Fel y bydd Aelodau yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn gwybod, rydym wedi cael amser ofnadwy yn ceisio cael y bwrdd cysgodol i gyfarfod â ni mewn sesiwn friffio ar y cynnydd a wnaed. Tueddaf i gytuno gyda Jenny a Vikki Howells, gan gadw mewn cof y sylwadau a wnaed am dryloywder yn yr adroddiad hwn; mae'n werth i'r holl arweinwyr bargeinion dinesig gofio mai elwa'n unig a wnânt o ymgysylltu â'r holl bartïon ar y cyd. Bydd bod yn agored ac yn onest gyda ni yn awr, yn enwedig gyda'r rhai ohonom a fydd â diddordeb mewn craffu ar hyn wrth iddo fynd rhagddo, yn help i adeiladu ymddiriedaeth.
Cefais fy nharo gan ganfyddiadau'r adroddiad ar anhryloywder y strwythurau llywodraethu yn gyffredinol. Fel rhywun sy'n gymharol newydd i fyd y bargeinion hyn, buaswn wedi gobeithio gweld rhywfaint o dystiolaeth o gyrff Cymru'n dysgu gwersi gan y rhai a aeth o'u blaenau. Nid yw'r ffaith fod pob bargen â strwythurau gwahanol yn broblem i mi o gwbl. Mae ymdrechion i sicrhau dulliau unedig yn enw cysondeb neu hunaniaeth Cymru gyfan wedi arwain at fethiant sawl polisi addawol wrth iddo gael ei gyflawni ac wrth i ganlyniadau gorau yn lleol gael eu haberthu ar allor prosesau unffurf. Er hynny, mae rhai, neu efallai bob un o'r bargeinion hyn fel y maent yn awr wedi profi'r casgliad y deuthum iddo dros fy mlynyddoedd fel Aelod Cynulliad.
O ran atebolrwydd ac yn groes i'r ddoethineb gyffredin, rwy'n aml wedi'i chael hi'n haws cael atebion gan gyrff hyd braich—cyrff annibynnol ar wahân, beth bynnag—na chan y Llywodraeth ei hun, a hyd yma, nid yw'r bargeinion hyn yn cyd-fynd â'r casgliad hwnnw. Felly, rwy'n falch o weld bod argymhellion 2, 3, 6 ac 8 yn trafod craffu, deall, asesu a monitro, nid mewn ffordd sy'n ymwneud â sicrhau bod byrddau'n cadw at broses a bennir gan Lywodraeth, ond mewn ffordd sy'n ein galluogi i weld yn glir beth y mae bwrdd yn gobeithio ei gyflawni, a bod y ffordd a ddewisant o gyrraedd yno yn effeithiol a theg. Ac rwy'n credu bod hynny'n mynd i fod yn arbennig o bwysig pan fydd y bargeinion hyn yn nesu at eu pumed pen-blwydd.
Mae gwybod sut beth yw cynnydd digon da yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol y cytunwyd arnynt ar y garreg filltir hon yn gorfod bod yn flaenoriaeth, rwy'n credu. Gallai'r risg na fydd arian yn dod gan y Llywodraeth ganolog, o'r ddwy ochr, ar y pwynt pum mlynedd hwn fod yn uchel, ac mae'n peri pryder i mi fod bron un rhan o bump o'r amser, yn achos bae Abertawe o leiaf, wedi llithro heibio ac nid ydym wedi sefydlu strwythur llywodraethu hyd yn oed. Mae 'pêl-droed wleidyddol' wedi ei ysgrifennu ar hyd cyfnod yr asesiad porth os yw'r cynnydd yn araf, a byddai'n well gennyf fi, yn sicr, fod yn canmol y ffordd y mae bywydau fy etholwyr yn dechrau gwella o ganlyniad i dwf economaidd, na chicio'r bêl honno o gwmpas mewn gêm ystrydebol a thraddodiadol o fwrw bai.
Ceir dau ganfyddiad yr hoffwn edrych arnynt yn benodol, gan eu bod yn arbennig o berthnasol i fy rhanbarth i, ac maent yn cael eu crybwyll mewn nifer o argymhellion, a'r cyntaf yw aliniad—rwy'n poeni braidd am y gair 'alinio', ond gadewch i ni ddefnyddio hwnnw—gyda strategaethau Cymru a'r DU. Rwy'n dechrau o'r pwynt fod ymreolaeth gynhenid y bargeinion hyn yn cynnig cyfle i ragori ar y strategaethau amrywiol hyn o ran canlyniadau mewn gwirionedd, ond nid oes fawr o synnwyr mewn gweithio ar ddibenion cwbl groes i'w gilydd a glanio mewn powlen sbageti o fentrau sy'n cystadlu. Mae angen i dasglu'r Cymoedd, er enghraifft, fod mewn cytgord ond nid o reidrwydd wedi'i glymu'n sownd wrth y bargeinion dinesig o ran gweledigaeth a throsoledd cydfuddiannol.
Credaf y gallai'r strwythurau a ymgorfforir yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol hwyluso rhai amcanion cyffredin, neu gallent fod yn fwy o sbageti mewn powlen; nid wyf yn gwybod. Ond credaf fod yn rhaid i'r Ddeddf ddylanwadu ar greu rhywfaint o hyblygrwydd o ran llesiant fel canlyniad i'r fargen, yn ogystal â chynnyrch domestig gros, oherwydd nid yw'r olaf o bwys enfawr mewn gwirionedd os nad yw'n gwella'r cyntaf. Hefyd, hoffwn weld, fel uchelgais craidd, symudiad amlwg tuag at gydgynhyrchu, lle mae buddiolwyr twf economaidd, sef ein hetholwyr, yn cymryd rhan weithredol yn y broses. Mae'n gyfle gwirioneddol i sicrhau ymagwedd fwy cytbwys tuag at gyflawni nodau cyffredin.
Yn ail ac yn olaf, argymhelliad 10. Rwyf innau yn eich annog hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, i ailystyried eich safbwynt ar hyn. Nid yw cytgord gweledigaeth yn ymwneud â marcwyr ar fapiau, ac rwy'n wirioneddol bryderus fod y ffin rhwng y ddwy fargen ddinesig yn rhedeg drwy ganol Gorllewin De Cymru mewn modd artiffisial sy'n gwrthdaro yn erbyn hunaniaeth leol a llif gwaith posibl yn lleol. Ac nid y gofid yw y bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn cael y gorau o ddau fyd, ond na fydd yn elwa o'r naill na'r llall, ar yr un pryd ag y bydd y cyngor yn ysgwyddo risg ariannol o fethiant i gyrraedd heibio i'r asesiad porth. Ar bob cyfrif awgrymwch systemau i ddiogelu rhag diffyg atebolrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gadewch i'r bargeinion fabwysiadu cyfrifoldeb dros reoli ffiniau aneglur yn hytrach na mynnu eu bod yn taro eu pennau ar waliau solet. Diolch i chi.
A gaf fi hefyd ymuno ag eraill i ddiolch i Russell George ac i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn? Yn sicr, mae'r adroddiad yn amlygu nifer o faterion pwysig iawn ynghylch yr angen i ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer ein cymunedau o'r bargeinion, ac i osgoi baich biwrocratiaeth sy'n rhedeg drwy'r adroddiad hwnnw. Ac nid yw hynny byth yn hawdd oherwydd, er enghraifft, ers i'r gwaith craffu penodol hwn ddechrau, gwelsom gyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', sy'n haen arall o ddisgwyliadau sydd i'w cyflwyno gan lawer o'r un cyrff. Eto i gyd, nid yw'n ymddangos bod y berthynas hollbwysig rhwng y fargen ddinesig a strategaeth y Cymoedd wedi ffurfio unrhyw ran glir o ystyriaethau'r pwyllgor, o leiaf nid yr hyn a adlewyrchir ar wyneb yr adroddiad, a oedd yn bwynt a wnaeth Hefin rwy'n credu. Ac rwy'n derbyn y gallai hynny fod yn fater o amseru'n unig, oherwydd ceir tystiolaeth yn yr adroddiad—o gyflwyniadau Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree a TUC Cymru, ac yn wir, cyfeiriodd Russell George ato ei hun yn ei sylwadau agoriadol—fod anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig wedi cynyddu. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed sut roedd y materion hynny'n cyfrannu at drafodaethau'r pwyllgor.
Lywydd, nid yw'r sylwadau rwyf am eu gwneud wedi eu hanelu yn benodol at unrhyw argymhellion penodol, ond maent yn ymwneud yn fwy cyffredinol â chasgliadau'r adroddiad. Ond eto, i adleisio rhai o'r pwyntiau a wnaeth Hefin, a Vikki Howells hefyd, i gyrraedd y nod hwnnw, mae'n rhaid i'r fargen sicrhau manteision pendant i'r holl ddinasyddion yn y rhanbarth. Felly, os yw Caerdydd a Chasnewydd yn cael buddsoddiadau newydd sgleiniog o'r fargen, ni fyddaf yn cwyno am hynny—byddant yn asedau rhanbarthol a bydd pawb ohonom yn eu defnyddio. Ond yn amlwg, ni fydd hynny ynddo'i hun yn ddigon i ddweud ei fod wedi bod yn llwyddiant. Llwyddiant fydd uwchraddio sgiliau a chyfleoedd economaidd mewn lleoedd fel Merthyr Tudful, gan ddarparu cysylltiadau gwell byth o'r rhanbarth ehangach i Ferthyr Tudful, y gellid dadlau ei bod yn un o ganolfannau economaidd mwyaf sylweddol y Cymoedd. Bydd hynny'n hollbwysig, oherwydd gyda gwell cysylltiadau i mewn i leoedd fel Merthyr, bydd penderfyniadau buddsoddi cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer buddsoddiad sector cyhoeddus, nid yn unig yn gwneud synnwyr ond gellir eu cyfiawnhau gyda chanlyniadau pendant fel swyddi a thwf economaidd.
Llwyddiant fydd ardaloedd fel cwm Rhymni uchaf yn teimlo hwb am y bydd llawer o'r partneriaid ar draws y rhanbarth ehangach, gan gynnwys y naw awdurdod lleol arall sydd mewn partneriaeth â Chaerffili yn awr, wedi gweld ac wedi adnabod anghenion y cymunedau hyn. Llwyddiant fydd gweld ardaloedd fel ardal gyfagos Blaenau Gwent yn elwa, am mai echel ogleddol Blaenau'r Cymoedd, sef Merthyr, Rhymni a Blaenau Gwent yw'r union ardaloedd sydd fwyaf o angen yr hyn y buaswn yn ei alw'n fargen well, nid bargen ddinesig yn unig. Os caf ddyfynnu o ragair y Cadeirydd i'r adroddiad,
'Os bydd bargeinion yn rhan allweddol o weithgarwch economaidd yn y dyfodol yng Nghymru, yna mae angen inni sicrhau bod eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd'.
Wel, mae gan y rhai ohonom sy'n cynrychioli cymunedau yn y Cymoedd farn glir iawn ynglŷn â'r hyn sydd angen digwydd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhaid i fargen ddinesig helpu i wella'r lleoedd sydd angen y fargen well honno. Ni fydd yn llwyddiant hyd nes y bydd hynny'n digwydd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad wrth yr Aelodau am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a chofnodi fy niolch hefyd i aelodau'r pwyllgor yn enwedig am eu hadroddiad craff, gan gynnwys Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George, y cytunaf ei fod wedi dangos graddau clodwiw o gydbwysedd a gwrthrychedd yn arwain yr ymchwiliad hwn?
Rwy'n croesawu ymchwiliad y pwyllgor a'u cydnabyddiaeth fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn cynnig cyfle pwysig i Gymru a'n rhanbarthau ryddhau arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU i gefnogi ymyriadau a all sicrhau twf economaidd cynhwysol. Rwy'n falch ein bod wedi gallu derbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion y pwyllgor. Croesawaf hefyd y gydnabyddiaeth yn yr adroddiad fod bargeinion dinesig a bargeinion twf yn ymwneud â mwy nag arian yn unig. Nid ffrwd ariannu arall ydynt i fynd ar drywydd prosiectau unigol, annibynnol nad ydynt yn gallu sicrhau cefnogaeth mewn unrhyw ffordd arall. Gyda'n cynllun gweithredu economaidd, maent yn ffordd y gallwn ddatblygu agenda economaidd gryfach a mwy strategol a all gefnogi'r cymunedau, y busnesau a'r unigolion yn yr ardal honno.
Nawr, fel Llywodraeth, rydym wedi cydnabod pwysigrwydd dull rhanbarthol ac rydym yn falch o'n record ar swyddi, gyda dros 185,000 wedi eu cefnogi yn y chwe blynedd diwethaf. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd, neu wedi bod yn agos at gyrraedd, y lefelau uchaf erioed gyda mwy o bobl mewn gwaith nag erioed o'r blaen. Fel y dywedais ar sawl achlysur bellach, nid yw manteision twf economaidd wedi bod yn gyfartal. Mae gwahaniaethau mawr o hyd rhwng gwahanol rannau o Gymru. Rydym yn cydnabod nad yw pob rhan o Gymru wedi cael ei chyfran deg o dwf ac rydym yn cydnabod bod Cymru yn cynnwys rhanbarthau sydd â'u cyfleoedd penodol eu hunain, eu hunaniaeth unigryw, yn ogystal â'u heriau neilltuol wrth gwrs.
Felly, drwy gyflwyno dimensiwn rhanbarthol i ddatblygu economaidd drwy gynllun gweithredu economaidd, credaf y gallwn ddatblygu cryfderau unigryw pob rhanbarth yng Nghymru, gan weithio mewn partneriaeth ag ardaloedd bargeinion dinesig a bargeinion twf. Felly, bydd gan bob rhanbarth o Gymru ffocws penodol yn y model datblygu economaidd rhanbarthol newydd hwn. Mae prif swyddogion rhanbarthol wedi'u penodi ac eisoes yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y rhanbarthau ac wrth gwrs, gyda'i gilydd, i sicrhau bod gweithgareddau ar draws y rhanbarthau yn ategu ei gilydd ac yn gydgysylltiedig. Bydd hyn yn ein helpu i lunio darpariaeth Llywodraeth Cymru, fel y gallwn ymateb yn well i'r cyfleoedd penodol ym mhob rhanbarth.
Lywydd, mae gan y ddwy fargen ddinesig yng Nghymru sylfeini cadarn eisoes a sail gref i gyflawni eu huchelgais economaidd, ac ym mhob rhanbarth, mae'n amlwg fod cynnydd yn cael ei wneud. Mae metro de Cymru yn ganolog i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd sy'n werth £1.2 biliwn, a dyna yw ein cyfraniad mawr i'r fargen arbennig honno. Dan arweiniad Llywodraeth Cymru, mae'r broses gaffael yn mynd rhagddi'n dda, gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth wedi'i gytuno rhwng Llywodraeth Cymru a chyd-gabinet y fargen ddinesig. Ond fel y dywedodd Vikki Howells, ni ddylai bargen ddinesig arwain at dwf mewn rhai ardaloedd ac at ddiffyg twf, neu at ddirywiad yn wir, mewn ardaloedd eraill. Dylai bargeinion dinesig arwain at dwf cynhwysol, gan ddarparu cyfleoedd i greu cyfoeth ar draws rhanbarthau, a chredaf fod y metro wedi'i gynllunio i wneud hyn—i ddod â bywyd newydd i gymunedau marwaidd. Rwy'n credu y gall ein dull o ddatblygu Merthyr Tudful yn y blynyddoedd diwethaf weithredu fel glasbrint ar gyfer adfywio llawer iawn mwy o gymunedau ar draws de-ddwyrain Cymru.
Rydym wedi croesawu'r cynlluniau i fuddsoddi £37 miliwn i greu clwstwr technoleg sy'n arwain y byd yng Nghasnewydd fel y prosiect cyntaf i gael ei gefnogi gan y fargen hon sy'n werth £1.2 biliwn. Disgwylir i hyn greu mwy na 2,000 o swyddi a chaiff ei gefnogi gan £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Ar ôl llofnodi bargen dinas-ranbarth bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn, mae achosion busnes manwl yn cael eu datblygu ar gyfer 11 o brosiectau. Mae trefniadau llywodraethu yn cael eu cytuno hefyd i ddarparu arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd dros gyflawni'r fargen yn llwyddiannus, ac wrth gwrs, rydym yn parhau i weithio gyda rhanbarth gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ystyried sut y gall bargen dwf ar gyfer gogledd Cymru gefnogi eu dyheadau yn y ffordd orau ar gyfer creu twf economaidd pellach—rhagor o dwf economaidd i adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi ei ysgogi yng ngogledd Cymru.
Nid oes ond angen inni edrych ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yng ngogledd Cymru i sylweddoli potensial y rhanbarth hwnnw os yw Llywodraeth y DU yn agor ei phocedi ac yn buddsoddi yng ngogledd Cymru hefyd. Mae £600 miliwn yn barod gan Lywodraeth Cymru i'w fuddsoddi mewn seilwaith, megis yr A494, trydydd croesiad y Fenai, ffordd osgoi Bontnewydd i Gaernarfon, yr A55, sefydliad gweithgynhyrchu uwch Cymru, pencadlys Banc Datblygu Cymru, canolfan Busnes Cymru, M-SParc. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n llawn a chefnogi cynigion sydd wedi'u cynnwys yng nghais gogledd Cymru.
Ond wrth gwrs, y peth mawr yng ngogledd Cymru y bydd pobl yn siarad yn gyson â mi yn ei gylch yw trafnidiaeth. Rwy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn sawl ffordd, ond mae galw mawr ar Lywodraeth y DU i gynyddu'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd, sydd wedi llusgo ar ôl cyfartaledd y DU. Mae wedi llusgo ar ôl ers llawer gormod o amser. Nid ydym ond wedi cael oddeutu 1 i 1.5 y cant o'r gwariant ar y seilwaith rheilffyrdd yn y pum mlynedd diwethaf. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, gan fod gennym 5 y cant o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.
Nawr, yng nghanolbarth Cymru, mae Powys a Cheredigion yn datblygu Tyfu Canolbarth Cymru—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Ar y pwynt hwnnw, beth oedd y ffigur pan oedd Llafur yn Llywodraeth?
Pan oedd Llafur yn Llywodraeth, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y buddsoddiad yn y rheilffyrdd yn sylweddol, ond mae yna bob amser le i fuddsoddi ymhellach, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y metro yn ne Cymru—mwy na £700 miliwn—a dyna pam rydym yn buddsoddi ym metro gogledd Cymru gyda chyllid sbarduno cychwynnol o £50 miliwn. Buaswn yn annog yr Aelod i gefnogi, nid i ddifrïo, y gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod metro gogledd Cymru yn llwyddiant mawr.
Fel y dywedaf, yng nghanolbarth Cymru—[Torri ar draws.]—mae Powys a Cheredigion yn datblygu Tyfu Canolbarth Cymru, sy'n dod â llywodraeth leol a'r Llywodraeth genedlaethol at ei gilydd i greu gweledigaeth ar gyfer twf canolbarth Cymru yn y dyfodol. Rydym wedi croesawu'r manylion gan bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ar sut y gallai bargen gefnogi'r weledigaeth hon. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sbarduno twf economaidd yng nghanolbarth Cymru, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi twf cyflym busnesau yn y Trallwng, gan gynnwys Zip-Clip a Charlies, a seilwaith y Drenewydd, gyda'r gwariant ar y ffordd osgoi fawr ei hangen. Rwy'n credu y gallai bargen adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol hwn.
Ond i ateb heriau heddiw a chyfleoedd yfory, mae ein cynllun gweithredu economaidd yn nodi sut y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i dyfu'r economi a lledaenu cyfle, ac wrth wneud hynny, yn rhoi llais cryfach i'n rhanbarthau. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu bargeinion llwyddiannus ledled Cymru fel rhan o'r weledigaeth honno yn y cynllun—cynllun ar gyfer gyrru twf cynhwysol.
Mae gan fargeinion dinesig a bargeinion twf botensial i gael effaith barhaol ar ein rhanbarthau, cyhyd â'u bod yn parchu'r setliad datganoli. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol gref a ddangoswyd eto yn y ddadl hon heddiw.
Galwaf ar Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, yn enwedig Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor? Mae hi bob amser yn braf cael cyfraniadau gan Aelodau sydd heb gymryd rhan yn ein pwyllgor yn ogystal.
Fe wnaf sylwadau ar rai o'r eitemau a grybwyllwyd heddiw. Siaradodd Hefin David a Dai Lloyd, yn arbennig, am sicrhau bod y cydweithredu'n iawn a chael y bargeinion priodol, ac wrth gwrs, gwnaethant bwyntiau am y nodau a osodir gan yr ardaloedd lleol a bod hwnnw'n fater arbennig o bwysig i'r holl fargeinion dinesig. I mi, rwy'n credu y buaswn yn cytuno'n bendant â hynny, ac ymddengys y byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno gyda'r safbwynt hwnnw yn ogystal. Wrth gwrs, siaradodd Dai Lloyd, Hefin David, a Jenny Rathbone hefyd yn wir, am yr angen i weithio gyda'i gilydd, ac fe wnaeth i mi feddwl, wrth i'r tri siarad, ei bod hi'n eithaf rhyfeddol y gall 10 awdurdod lleol wneud hynny—. Mae'n anodd cael dau awdurdod lleol i weithio gyda'i gilydd, ond mae 10 o awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd—o liwiau gwleidyddol gwahanol—ac yn dod ynghyd i lunio cynllun ar y cyd, ond gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd, a phawb yn cytuno ar gynllun gyda'i gilydd ac yn llofnodi'r cynllun hwnnw—dyna ddylai gwleidyddiaeth fod yn fy marn i, wrth gwrs, a dyna y credaf fod y cyhoedd am ei weld.
Siaradodd Mark Isherwood hefyd, fel y byddech yn disgwyl, am gynnig twf gogledd Cymru a'r angen i gysylltu a gweithio gyda Phwerdy'r Gogledd. Ac wrth gwrs, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cyflwyno ei gynnig a gobeithiwn y byddwn yn gallu siarad cyn hir am drydedd bargen i Gymru, wedi'i dilyn gan bedwaredd bargen ar ôl hynny.
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad ac am ehangu'r ddadl i feddwl am feysydd eraill diddorol hefyd? Ac wrth gwrs, siaradodd Dawn Bowden yn ei chyfraniad am feysydd eraill y gallai'r pwyllgor edrych arnynt yn y dyfodol o bosibl—dyna a gymerais o gyfraniad Dawn i'r ddadl. Rhaid i mi ddweud, roedd ein cylch gorchwyl yn dynn iawn. Mae'n fater mawr i edrych ar yr holl fargeinion twf a'r potensial i greu bargen dwf ar gyfer canolbarth Cymru, felly roedd ein cylch gwaith yn dynn, i raddau. Ond rwy'n credu bod lle i wneud gwaith pellach ar rai o'r materion a grybwyllwyd gennych, Dawn—gwaith y gallwn ei wneud fel pwyllgor.
Rwyf am siarad yn awr am y ffiniau aneglur. Soniodd Suzy Davies am hyn ac am farcwyr ar y map, a rhoddodd enghraifft o'r anawsterau posibl i leoedd fel Pen-y-bont ar Ogwr yn hyn o beth. Ac wrth gwrs, gwnaeth Suzy bwynt am awdurdodau lleol yn gallu gwneud y penderfyniad hwn a nodi'r materion hyn drostynt eu hunain. Rwy'n gobeithio y gallwn berswadio Ysgrifennydd y Cabinet i newid ei safbwynt ar yr argymhelliad ynghylch ffiniau aneglur. Gwnaeth Vikki Howells y pwynt ei bod wedi dwyn hyn i sylw'r Prif Weinidog, wrth gwrs, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'i fod ef yn gefnogol iawn i'r model ffiniau aneglur. Felly, mae gennym gynghreiriad o amgylch bwrdd y Cabinet, ond mae gennym gynghreiriaid eraill yn ogystal, oherwydd dylwn ddweud bod gennym Hannah Blythyn a Jeremy Miles, a oedd hefyd yn rhan o'r pwyllgor hwn, a dylwn ddiolch iddynt am eu rhan a'u gwaith gyda'r pwyllgor. Ond wrth gwrs, maent hwy hefyd yn frwd iawn ac yn gefnogol iawn i'r argymhelliad penodol hwn hefyd. Felly, mae gennym o leiaf dri o gynghreiriaid o amgylch bwrdd y Cabinet. Ar nodyn difrifol, rwy'n gobeithio y bydd y rhesymeg a roesom mewn perthynas â'n ffiniau aneglur yn newid meddwl Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ar ryw bwynt.
Rwy'n falch hefyd —
A wnewch chi hefyd dderbyn ymyriad ar ffiniau aneglur? [Chwerthin.]
Gwnaf.
Fel Aelod o etholaeth lle mae pobl yn edrych tua'r de at eich etholaeth chi, yn edrych tua'r de-orllewin at etholaeth Owen Paterson, i'r gogledd tuag at Wrecsam a Delyn, i'r dwyrain i Gaer, ac i'r gorllewin i ardal fy nghyd-Aelod o Gymru, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parchu'r ffaith nad oes unrhyw ffiniau i ddatblygu economaidd. Ond hefyd mae angen trefniadau llywodraethu sy'n glir iawn.
Fy nghred yw na fydd unrhyw angen am ffiniau aneglur, cyhyd â bod y bargeinion yn ategu ei gilydd, ac o gofio ein bod yn sefydlu rolau prif swyddogion rhanbarthol i sicrhau bod y bargeinion hynny'n ategu ei gilydd ac i wneud yn siŵr fod cymunedau a busnesau ar draws pob un o'r rhanbarthau'n gallu elwa, nid yn unig o ymyriadau a phrosiectau yn eu hardaloedd bargeinion twf neu fargenion dinesig eu hunain, ond hefyd yn y rhai cyfagos—. Buaswn yn dweud hynny nid yn unig ar gyfer y datblygiadau sydd wedi digwydd o fewn Cymru, ond hefyd ar sail drawsffiniol yn Lloegr yn ogystal. Felly, dyna pam rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y prosiectau sydd wedi eu cynnwys o fewn y bargeinion twf ar ochr Lloegr i'r ffin yn ategu'r rhai sydd wedi'u cynnwys o fewn y bargeinion twf yma yng Nghymru yn llawn.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y fargen dwf newydd bosibl ar gyfer canolbarth Cymru, ceir gwaith trawsgydweithredu yno gyda pheiriant canolbarth Lloegr, ond rwy'n sylweddoli, fel Aelod Cynulliad etholaeth fel finnau, eich bod chi hefyd yn cynrychioli etholaeth sy'n gorfod gweithio ar draws ffiniau. Mewn sawl ffordd, rwy'n credu bod ein llinellau wedi croesi i'r fath raddau o bosibl nes ein bod yn cytuno â'n gilydd. Yn sicr, yn yr Alban, rydym wedi gweld enghraifft yno o fargeinion dinesig yn gorgyffwrdd ar draws eu ffiniau hefyd. Ond rwy'n derbyn y ddadl dros lywodraethu clir yn llwyr. Efallai nad ydym yn bell iawn o gytuno o bosibl; efallai mai mater o derminoleg yn unig ydyw.
A gaf fi ddod i ben, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl heddiw? Rwyf am gofnodi fy niolch hefyd i'r rhai a roddodd amser i'r ymchwiliad ac a roddodd eu harbenigedd i'r ymchwiliad, yn enwedig staff bargen ddinesig Glasgow, Ffederasiwn Busnesau Bach yr Alban ac RSPB yr Alban, a'n croesawodd ni'n garedig i ddinas fwyaf yr Alban. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod y pwyllgor a'r tîm integredig am bob cefnogaeth a roddwyd inni fel Aelodau wrth roi'r adroddiad hwn at ei gilydd. Wrth gwrs, rwy'n diolch i'r Llywodraeth am dderbyn y mwyafrif llethol o'n hargymhellion.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.