8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb'

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:45, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Y rheswm dros y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd yw nodi'n union pam fod y ddogfen hon mor brin o hyder. Pan ydych yn sôn—ac mae'n deg dweud, ers ei chyflwyno, rwyf wedi cael cyfle da i siarad â llawer o fusnesau a llawer o sefydliadau ar hyd a lled Cymru. Maent hwy hefyd yn brin o'r hyder y dylai'r ddogfen hon fod wedi'i wreiddio ynddynt y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cau rhai o'r dangosyddion economaidd caled hyn sydd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer.

Gallai'n hawdd fod yn wir nad yw'r ddogfen gyfan yn seiliedig ar unrhyw wybodaeth economaidd arwyddocaol oherwydd, yn amlwg, mae'r rhain yn gwestiynau a ofynnais i'r Prif Weinidog ynglŷn â pham nad yw Llywodraeth Cymru, wrth ddatblygu polisi economaidd, wedi datblygu uned wybodaeth economaidd i edrych ar dablau mewnbwn/allbwn, fel eich bod yn gwybod beth a rowch i mewn a beth rydych yn mynd i'w gael o'r rhaglenni a'r mentrau a rowch ar waith. Mae llawer o wledydd eraill ledled y byd yn dibynnu ar y math hwnnw o ddata, ac yn dibynnu ar y math hwnnw o ddealltwriaeth o weithgarwch economaidd, i lunio polisïau a ffurfio'r mentrau sydd wedi symud y dangosyddion yn gadarnhaol i'r cymunedau y mae'r Llywodraethau hynny'n eu cynrychioli. A bod yn deg, o ran yr Alban, er enghraifft, maent wedi comisiynu uned bwrpasol ym Mhrifysgol Strathclyde i wneud yn siŵr fod y gweithgaredd hwn yn llywio polisi Llywodraeth yr Alban ym maes datblygu economaidd a chyfle economaidd.

Ond rwy'n dychwelyd at y pwynt, wrth wrando ar y ddadl flaenorol, y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdano o ran sut y mae'n gweld bod ei weledigaeth ynghylch y cyfarwyddwyr rhanbarthol y mae wedi'u rhoi ar waith, ac y sonnir amdanynt yn ganmoliaethus yn y ddogfen hon, yn newid y modd y cyflawnir polisi economaidd yma yng Nghymru yn sylfaenol. Sut y mae'n gwneud hynny? Oherwydd pan fyddwch yn darllen y ddogfen hon, nid oes unrhyw ddangosyddion ynghylch pa gynnydd a fydd mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros; nid oes unrhyw ddangosyddion i ddynodi ble fydd cyflogau'n mynd dros oes y ddogfen hon. Sut y gall gredu y bydd y strwythurau newydd yn gallu rhoi'r cryfder unigryw hwnnw y sonia amdano i ranbarthau Cymru? Sut y bydd y cyfarwyddwyr rhanbarthol, sy'n amlwg yn mynd i gael pwerau—buaswn yn gobeithio—gan Lywodraeth Cymru ar gyfer bwrw ymlaen â mentrau'r Llywodraeth, yn cael effaith pan fo'u rhagflaenwyr wedi methu yn y gorffennol?

Cofiaf yn dda yn awr, gyda 10 mlynedd o brofiad o'r Cynulliad hwn, lawer o'r siarad am yr ardaloedd menter a ddarparwyd yma yng Nghymru—ardaloedd menter a oedd, ar yr wyneb, i'w gweld yn addo cyflawni llawer ac sydd wedi sugno llawer o gyfoeth gan Lywodraeth Cymru: £221 miliwn o arian cyhoeddus; ond pan edrychwch ar eu heffaith ledled Cymru mewn gwirionedd, canlyniadau hynod o amrywiol a gafwyd ganddynt. Ac yn yr ardaloedd lle y dylent gyflawni gwell canlyniadau, lle mae'r heriau'n fwy, mae eu heffaith wedi bod yn fach iawn. Sylwaf fod y ddogfen yn sôn ychydig am yr ardaloedd menter a chreu neu ddatblygu—neu ddatblygu parhaus—y fenter honno a oedd yn sail i lawer o'r datblygu economaidd a gafodd Llywodraeth Cymru yn y tymor diwethaf. Felly, unwaith eto, o ymarfer gwersi a ddysgwyd, sut y mae'r ddogfen hon yn rhoi hyder i ni y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cael y cyrhaeddiad o amgylch ac ar hyd a lled Cymru y mae mentrau blaenorol megis yr ardaloedd menter wedi methu ei gyflawni?

Hefyd, yr un peth, unwaith eto, y credaf nad yw'r ddogfen hon yn ei gydnabod yw datganoli cyfrifoldeb o ran datblygu economaidd yn Lloegr. Nid oes un cyfeiriad yn y ddogfen hon at feiri metro neu feiri dinasoedd yn Lloegr a sut y gallai gweithio trawsffiniol wella mwy o gyfleoedd ar hyd a lled Cymru. Os edrychwch ar Fryste, er enghraifft, os edrychwch ar y maer ar gyfer gorllewin canolbarth Lloegr, Andy Street, os edrychwch, yn amlwg, ar Lerpwl, ac os edrychwch ar Fanceinion—pedwar sbardun economaidd enfawr ar hyd a lled Clawdd Offa—ceir cystadleuaeth—mewn un anadl—i unrhyw fuddsoddiad a allai fod yno, ond mae yna hefyd—mewn anadl arall—gyfle gwych i gydweithio, ac eto ar ôl darllen y ddogfen hon, nid yw'n crybwyll y cyfleoedd hynny unwaith ynddo. Nid unwaith. Mae hynny, yn sicr, yn gyfaddefiad, Ysgrifennydd y Cabinet, o'r hyn y gallech ei gyflawni pan fyddwch yn gweithio ar draws Glawdd Offa.

Rwyf hefyd yn gwneud y pwynt yn fy sylwadau agoriadol ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud y gwahaniaeth o fod, yn anffodus, yn economi gyflogau isel i fod yn economi sy'n darparu cyflogau sy'n cymharu'n well â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi defnyddio'r enghraifft o'r £49 yr wythnos yn mynd i becynnau cyflog yn yr Alban, ond gallwn fod wedi dewis unrhyw ranbarth yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, oherwydd, yn anffodus, gennym ni y mae'r cyflog mynd adref isaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Nid yw'r ddogfen hon, unwaith eto, ond yn defnyddio'r gair 'cyflogau' ddwywaith. Mae'n crybwyll y gair 'cyflogau' ddwywaith, ac o ran trethi, sy'n arf newydd gan Lywodraeth Cymru, mae mewn gwirionedd yn sôn am 'drethi' unwaith. Yn sicr, mae'r rheini'n feysydd mawr y dylai unrhyw ddogfen economaidd edrych arnynt, os yw'n edrych ar wella bywydau pobl Cymru.

Ac yna yr her fawr i ni o ran creu swyddi a chadw swyddi, sydd wedi'i drafod yn y Siambr hon, ynghylch awtomatiaeth, os edrychwch ymhen wyth mlynedd, yr amcanestyniadau yw y bydd 25 y cant o'r swyddi yn cael eu colli yma yng Nghymru oherwydd awtomatiaeth—neu eu haddasu i rolau newydd os ydym yn ddigon gwybodus i wneud yn siŵr ein bod yn cadw gyda'r cynnydd hwnnw. Erbyn 2035, bydd 35 y cant o swyddi yma yng Nghymru yn cael eu colli neu eu haddasu. Gobeithio mai addasu fydd yn digwydd, nid colli. Ond unwaith eto, nid yw'r ddogfen yn cynnig unrhyw gyfeiriad ynglŷn â sut y byddwn yn gweithio gyda diwydiant a sut y bydd polisi Llywodraeth yn ceisio gweithredu'r newid a helpu busnesau i weithredu'r newid. Yn sicr, unwaith eto, dylai unrhyw ddogfen sydd â gweledigaeth ar gyfer lle rydym yn mynd i fod yn y dyfodol fynd i'r afael a hynny'n uniongyrchol.

Os caf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb—efallai'n wir mai camgymeriad argraffu ydyw, ond rwy'n sylwi, lle mae'n sôn am brosiectau seilwaith trafnidiaeth a gaiff eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru ar dudalen 37, mae'n sôn yn benodol iawn am borth y gogledd-ddwyrain ar yr A494, mae'n sôn am drydydd croesiad y Fenai; nid yw'n crybwyll y llwybr du, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n dweud 'M4', atalnod llawn. O ystyried yr hyn a wyddom am y costau cynyddol sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwnnw, a all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau mai amryfusedd yw hynny a'i fod mewn gwirionedd yn rhan allweddol o bolisi Llywodraeth i ddarparu llwybr du yr M4—nid gwelliannau ar yr M4 yn unig, ond llwybr du yr M4? Rwy'n cymryd mai amryfusedd ydyw, ond mae'n rhywbeth y sylwais arno wrth ddarllen y ddogfen. Er gwaethaf y disgrifiad manwl o brosiectau trafnidiaeth eraill, ceir nodyn braidd yn amwys o ran yr M4, a chredaf y byddai llawer o bobl yn dymuno deall yn union sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin â phwysau'r costau hynny o fewn ei gyllideb.

Felly, byddai wedi bod yn dda sefyll yma heddiw a chymeradwyo'r ddogfen hon, ond gydag ychydig neu ddim—[Torri ar draws.] Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn amlwg yn ochneidio. Fel y dywedodd Hefin David yn gynharach, roedd y Russell George go iawn yn y ddadl ddiwethaf. Mae'r Andrew Davies go iawn yn angerddol ynghylch gwneud yn siŵr fod datblygu economaidd yn cyrraedd pob cymuned yng Nghymru, ac rwy'n derbyn yn llwyr—rwy'n derbyn yn llwyr—fod gan y Llywodraeth fandad tan 2021, ac y bydd y penderfyniadau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd yn effeithio ar gymunedau ar hyd a lled Cymru. Byddai'n dda sefyll yma a chael hyder bod y ddogfen hon yn gwneud gwahaniaeth o gymharu â'r tair a'i rhagflaenodd.

Ond fel y dywedais, gydag ond ychydig neu ddim gwybodaeth economaidd yn mynd i mewn i'r ddogfen hon y gallwn ei weld neu y gallwn ddod o hyd i nodiadau ymchwil yn ei gylch, gydag ond ychydig neu ddim dangosyddion i fesur cynnydd a chyfeiriad y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei gyflawni, a chydag ond ychydig neu ddim cyfeiriadau at y tair her fawr y credaf y dylai unrhyw ddogfen economaidd fynd i'r afael â hwy—sef codi cyflogau yma yng Nghymru; gweithio gyda diwydiant i wneud yn siŵr fod agenda awtomatiaeth yn canolbwyntio ar ddiogelwch swyddi, a bod swyddi'n cael eu diogelu a'n bod yn parhau i greu swyddi o safon; ac uwchlaw popeth ein bod yn gweithio ar draws ein ffiniau gyda'r cyfleoedd economaidd sydd yno gyda'r cyfleoedd datblygu economaidd datganoledig sydd gan y meiri a meiri metro yn Lloegr; nid yw'r ddogfen hon yn cyffwrdd ag unrhyw un o'r materion hynny—sut y gallwch gael hyder fod y ddogfen yn wahanol i'r tair a'i rhagflaenodd mewn gwirionedd? A dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies heddiw, yn dweud nad oes gennym hyder y bydd y ddogfen hon yn gwneud y newidiadau yr hoffai pawb ohonom eu gweld yma yng Nghymru.