Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser codi i wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw Paul Davies, gan edrych, yn amlwg, ar gynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb', a osodwyd gerbron y Cynulliad a'i gyflwyno i bobl Cymru ychydig cyn toriad y Nadolig. Bu cryn dipyn o waith craffu ar y ddogfen hon, a chafwyd tair dogfen flaenorol cyn hon a aeth ati'n llwyddiannus, yn amlwg, i osod polisi economaidd Llywodraethau Llafur Cymru blaenorol a geisiai amlinellu gweithgarwch economaidd, cyfle economaidd a ffyniant i Gymru. Mae'n deg dweud bod pob un o'r tair wedi methu bodloni'r disgwyliadau y ceisient eu cyflawni. Pan edrychwch ar ffeithiau caled gwerth ychwanegol gros, er enghraifft, yn yr 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae gwerth ychwanegol gros wedi codi 0.5 y cant yn y cyfnod o 20 mlynedd. Os edrychwch ar gyflogau, er enghraifft, sy'n ddangosydd allweddol arall, byddai gweithiwr yn yr Alban wedi dechrau ar yr un lefel cyflog â gweithiwr yng Nghymru yn 1999; heddiw, mae'r un gweithiwr yn yr Alban yn mynd â £49 yr wythnos yn fwy adref yn ei becyn cyflog na gweithiwr yng Nghymru.
Nid oes neb eisiau anweithgarwch economaidd, nid oes neb eisiau methiant economaidd. Rôl bwysig i Lywodraeth yw gweithio gyda chymunedau a gweithio gyda busnesau i ddarparu'r cyfleoedd hynny, ond mae'n deg dweud ei bod yn anodd dychmygu sut y bydd y ddogfen hon yn wahanol i'r tair a'i rhagflaenodd, a geisiodd ryddhau llawer o'r cymunedau ar draws Cymru a lledaenu cyfoeth Cymru'n fwy cyfartal ledled Cymru fel nad yw cymunedau'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Wrth i mi edrych ar draws y Siambr, gallaf weld yr Aelod dros Ynys Môn o fy mlaen, ac yn anffodus, Ynys Môn, er enghraifft, sydd â'r gwerth ychwanegol gros isaf yn y wlad. Os dowch i lawr i'r de, ardal rwy'n ei chynrychioli, y brifddinas, Caerdydd, sydd wedi elwa o adlinio cyfleoedd, drwy'r gwaith ar adfywio Bae Caerdydd, â'r sectorau gwasanaethau ariannol—. Ond os edrychwch ar Gaerdydd fel prifddinas yn erbyn prifddinasoedd eraill y DU—Belfast, Caeredin a Llundain—mae gan Belfast, ein cystadleuwr agosaf, os mynnwch, o ran mesur gwerth ychwanegol gros, mae ganddi £5,000 y pen o fantais dros Gaerdydd. Os ydych yn cymharu â Chaeredin, rydych yn sôn am £7,000 y pen o fantais. Ac yna os cymharwch â Llundain, yr ystyriaf ei bod yn economi gyfan gwbl ar wahân, £10,000 i £12,000 y pen o fantais. Ni ddylai'r mathau hynny o symiau fodoli ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, ac mewn gwirionedd dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy dychmygus ac yn fwy beiddgar yn y ffordd y mae'n cyflwyno ei pholisïau economaidd i geisio adennill peth o'r tir hwnnw.