Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 24 Ionawr 2018.
Yn absenoldeb fy nghydweithiwr a llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, fy mhleser i ydy cael cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ac i wneud ychydig o sylwadau.
Mae yna, heb os, rai elfennau o'r strategaeth sydd i'w croesawu: y pwyslais newydd ar yr economi sylfaenol, datgarboneiddio, er enghraifft, a'r penderfyniad hefyd i hybu busnesau i fod yn fwy cyfrifol os ydyn nhw am dderbyn cefnogaeth gan y Llywodraeth. Mae'r strategaeth hefyd yn cyfeirio droeon at awtomatiaeth, yr heriau y gall awtomatiaeth eu creu i'n heconomi ni. Mae gan awtomatiaeth y potensial i ddadleoli swyddi mewn sectorau pwysig iawn i ni yng Nghymru, fel gweithgynhyrchu a phrosesu, ond hefyd manwerthu, sef y sector fwyaf yng Nghymru o ran nifer y gweithwyr.
Er mwyn i'n heconomi ni dyfu a datblygu, mae'n rhaid i ni ddeall beth ydy ein manteision cystadleuol unigryw ni fel cenedl. Gan wisgo fy het llefarydd iechyd am eiliad, efo poblogaeth sy'n heneiddio ar raddfa gyflymach na gweddill y Deyrnas Unedig, mae Cymru mewn sefyllfa dda i arloesi yn y maes hwnnw, o bosibl, wrth hybu mwy o ddefnydd o dechnoleg, er enghraifft, i wella'r gofal sydd ar gael. Ond nid yma fel llefarydd iechyd ydw i heddiw. O ddarllen y strategaeth, mi welwch chi fod yna fethiant yma, rydw i'n meddwl, i nodi lle mae a sut mae gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd unigryw economaidd sydd gan ein cenedl ni. Yn hytrach, mae'n teimlo rhywsut fel dogfen sy'n sylwebu yn hytrach na chynnig strategaeth gynhwysfawr sy'n egluro sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwrthdroi ein dirywiad economaidd ni.
Er mwyn i strategaeth economaidd lwyddo, mae'n rhaid cael sefydliadau cryf i weithredu'r strategaeth honno. Pan oeddwn i'n llefarydd Plaid Cymru ar yr economi cyn etholiad diwethaf y Cynulliad, mi gefais i gyfle i amlinellu yn glir ein gweledigaeth ni ar gamau y byddem ni'n dymuno eu gweld ar gyfer adeiladu economi Cymru. Mi oedd cael asiantaeth ddatblygu economaidd newydd yn rhan ganolog o'r weledigaeth y bûm i'n sôn amdani bryd hynny, ac o hyd braich, rydw i'n meddwl, y mae'r lle gorau i greu y capasiti a chrynhoi hefyd, rhoi ffocws i'r arbenigedd sydd ei angen i lunio a gweithredu strategaeth o'r fath.
Ar ôl yr etholiad, yn benodol yn dilyn y bleidlais ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd, mi wnaethom ni alw wedyn am roi ffocws rhanbarthol ar yr her o ddatblygu'r economi er mwyn canolbwyntio ar ffyrdd o wella economïau ardaloedd yng Nghymru sy'n syml iawn wedi cael—ac yn gwybod eu bod nhw wedi cael—eu gadael ar ôl. Mae'r strategaeth gan y Llywodraeth yn ymrwymo i fodel datblygu economaidd ar sail rhanbarthol, ac er mwyn gwireddu hynny mae'r Llywodraeth am sefydlu tri phrif swyddog rhanbarthol i arwain y strategaethau yn y rhanbarthau newydd. Ond heblaw am hynny, nid oes yna ddim sôn am yr haenau eraill sydd eu hangen; y sefydliadau economaidd cenedlaethol a fydd, mewn partneriaeth, yn gweithredu amcanion y strategaeth. Rwy'n meddwl bod y diffeithwch sefydliadol sy'n bodoli yng Nghymru—mae banc datblygu Cymru yn eithriad efallai—yn golygu ein bod ni, fel cenedl, yn methu â tharo'r traw cywir. Tan i'r Llywodraeth greu y mathau o sefydliadau economaidd sydd gan wledydd eraill—asiantaethau datblygu a hyrwyddo, masnach a buddsoddiad, corff arloesi cenedlaethol—sef rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano fo, nid oes gan unrhyw strategaeth o unrhyw safon ddim gobaith, rydw i'n meddwl, o gyflawni ei nod.
Gwnaf i gloi os caf i drwy wneud ychydig o sylwadau a allai fod wedi bod yr un mor berthnasol yn y ddadl ddiwethaf gawsom ni yma y prynhawn yma, sef y ffocws diddiwedd a digyfaddawd gan Lafur a’r Ceidwadwyr ar uno rhanbarthau Cymru efo rhanbarthau yn Lloegr. Dros y byd i gyd, mae perthynas economaidd trawsffiniol yn bwysig iawn, iawn, ac mae hynny'n wir yng Nghymru rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, ardal dde-ddwyrain Cymru a gorllewin Lloegr, ond peidiwch â chael eich twyllo mai—