Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 24 Ionawr 2018.
Ers dod i rym yn 1999, mae'r Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi cyflwyno trioleg o dair strategaeth economaidd bwysig, a gwelwn un arall yma. Ugain mlynedd yn ôl, roedd cyflogau wythnosol yng Nghymru a'r Alban ar yr un lefel. Heddiw, mae trigolion yn yr Alban yn ennill £49 yr wythnos yn fwy. Ugain mlynedd yn ôl, roedd Cymru ar waelod y tabl cynghrair ar gyfer gwerth ychwanegol gros yng ngwledydd y Deyrnas Unedig. Heddiw, mae'n dal i fod yno. Mae gennym y canolrif isaf o enillion wythnosol gros yn y DU drwyddi draw, y gyfradd dwf gydradd isaf o incwm aelwydydd gros y pen, ac mae anghydraddoldeb rhanbarthol yn dal yn amlwg iawn ar draws Cymru. Anhygoel.
Ceir gwahaniaethau anhygoel o ran gwerth ychwanegol gros y pen—gwahaniaeth o £9,372 rhwng Ynys Môn yng ngogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro yn ne Cymru. Felly, yn eithaf aml, bydd fy etholwyr yn gofyn i mi, 'Janet, pam y ceir yr anghydraddoldebau hyn?', 'Janet, pam y mae'r holl arian yn aros yn ne Cymru?', ac mae'n ffaith bod yn rhaid i ni fel Aelodau yng ngogledd Cymru, weiddi'n uwch ac ymladd yn galetach.
Ond rydym yn barod i herio'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru i gael yr un manteision economaidd i'n busnesau a'n trigolion yng ngogledd Cymru sy'n haeddu yr un peth. Nid yw'n fawr o syndod fod llawer o bobl yno yn edrych yn amheus ar y cynllun gweithredu economaidd, 'Ffyniant i Bawb'. Efallai y dylem gwestiynu brwdfrydedd y Llywodraeth hon dros ysgrifennu cynlluniau yn hytrach na chefnogi prosiectau ystyrlon a gweladwy, megis y gwaith aruthrol gan gynifer o bobl ar fargen dwf gogledd Cymru. Ond unwaith eto, geilw hyn ar Lywodraeth Cymru i roi eu dwylo yn eu pocedi a sicrhau eu cefnogaeth er mwyn sicrhau nad yw hon yn y pen draw yn mynd i fod yn fargen arall mewn dogfen yn unig, yn gaeth i silffoedd llychlyd Bae Caerdydd.
Mae'r gyllideb ddiweddar wedi tanseilio'r cynllun gweithredu drwy dorri £1.2 miliwn o gyllid ar gyfer arloesedd busnes, £1.7 miliwn oddi ar ganolfannau arloesi, ymchwil a datblygu, a dros £1 filiwn oddi ar y ddarpariaeth seilwaith TGCh. I mi, mae hynny'n gwrth-ddweud yn llwyr yr hyn a ddywedir am uchelgais. Prin y ceir cyfeiriad at Fanc Datblygu i Gymru. Yn hytrach na hynny, tynnwyd dros £1.7 miliwn yn awr o'i grant gweithredu y flwyddyn nesaf. Ardaloedd menter yn cael dros £221 miliwn o arian cyhoeddus, mewn rhai ardaloedd yn cyfateb i greu un swydd yn unig ar gost i'r trethdalwr o tua £250,000 am y swydd honno. Mae'n warthus. Mae gwariant blynyddol ar ardaloedd menter wedi cynyddu dros bedair gwaith mewn tair blynedd, ac eto mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod diweithdra yng Nghymru wedi codi 0.8 y cant—yr uchaf o holl wledydd y DU.
Yn y cyfamser, mae ein perchnogion busnes gweithgar yn wynebu ardrethi busnes sy'n codi'n barhaus; mae un o fy etholwyr yn awr yn wynebu cynnydd o bron 2,000 y cant, gan gyfrannu'n gyflym at wneud Cymru y lle drutaf ym Mhrydain i redeg busnes—lluosydd 51.4c sy'n golygu y bydd busnesau'n gorfod talu dros hanner eu rhent blynyddol amcangyfrifedig mewn ardrethi, tra bo busnesau yn yr Alban a Lloegr ond yn talu 48c yn y bunt.
Pa mor anghywir yw hi, felly, i Lywodraeth Lafur Cymru hyd yn oed led-awgrymu, heb sôn am argymell cynigion i gyflwyno treth dwristiaeth sydd eisoes wedi llwyddo i dolcio llawer o hyder yn ein sector twristiaeth yng Nghymru. Cynghrair Twristiaeth Cymru, Cymdeithas Lletygarwch Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru—dim ond rhai o'r bobl sydd wedi gwrthwynebu'r dreth dwristiaeth hon, ynghyd â busnesau eraill di-rif. Lywydd, mae economi Cymru yn hynod ddibynnol ar dwristiaeth, gan gyfrannu £8.7 miliwn bob blwyddyn a chefnogi 242,000 o swyddi. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi diwedd ar y cynnig disynnwyr hwn a chadarnhau nad oes gennych unrhyw fwriad o gwbl i fynd ar drywydd treth mor ddinistriol i iechyd economaidd Cymru? Mae ein busnesau a'n trigolion yn dibynnu arnoch i roi diwedd ar hyn unwaith ac am byth. Gadewch inni gael ffyniant ledled Cymru ac i'n sector twristiaeth.