8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 'Ffyniant i Bawb'

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:10, 24 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Dyma'r pwynt a wnaf: mae cydweithredu agos yn bwysig tu hwnt. Gallwch edrych ledled y byd ar bwysigrwydd cydweithredu trawsffiniol, ond gadewch inni gofio beth yw'r ffocws yma, a bod yn realistig am y ffaith nad buddiannau Cymru sydd wrth wraidd rhai o'r datblygiadau hyn, fel y rhai y bu mawr sôn amdanynt gan Alun Cairns yr wythnos hon. Rwy'n credu bod y ffaith ei fod yn cael ei alw'n 'bwerdy gorllewinol' yn dweud wrthyf mai rhywbeth sy'n cael ei ystyried o safbwynt Prydeinig ydyw, oherwydd i mi, mae Bryste i'r dwyrain, ac rwy'n mynd ymhellach na dweud 'safbwynt Prydeinig', ond safbwynt Seisnig. A gellir dweud yr un peth am Bwerdy'r Gogledd—pwerdy Gogledd Lloegr ydyw, yn union fel y dywedodd Mark Isherwood. Gofynnwch i rywun o'r Alban beth y maent yn ei wneud o'r term 'Pwerdy'r Gogledd' ac a ydynt yn credu bod hwnnw'n gyd-destun Prydeinig.

Felly, gadewch inni gael strategaeth sy'n edrych ar economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ie, chwilio am bartneriaethau newydd, ond edrych ar sicrhau nad oes unrhyw ran o economi Cymru yn cael ei gadael heb ei chyffwrdd.