Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wel, mae'n ddogfen fain. Mae Andrew R. T. Davies eisoes wedi rhoi esboniad go dda o beth allai fod wedi mynd i mewn iddi, ond mae wedi cymryd tan dudalen 4 er hynny i Lywodraeth Cymru dderbyn bod y strategaeth hon yn cynrychioli newid sylweddol. Rhaid i mi ofyn, mewn gwirionedd a yw hi wir wedi cymryd 19 mlynedd i ddod i'r casgliad fod angen newid sylweddol?
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn gofyn i chi newid tac ers degawdau yn llythrennol bellach, ac am reswm da: y cyflogau isaf yn y DU, y gwerth ychwanegol gros isaf yn y DU, y twf isaf yn y DU, yr incwm gwario isaf yn y DU, y lefelau buddsoddi isaf yn y DU, a'r canlyniadau PISA salaf yn y DU, yn ogystal ag ystadegau anghyffyrddus ynghylch anghydraddoldeb rhanbarthol o fewn Cymru, busnesau newydd ac ati, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed rhagor am hynny yn ystod y ddadl hon.
Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau Llafur a hyd yn oed chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dod yn ôl ac yn pwyntio at yr holl wario a wnaethoch ac yn ymosod ar Lywodraeth y DU am yr holl doriadau a diwygio Barnett. Ond a gaf fi achub y blaen arnoch yn y fan honno? Rydych wedi cael symiau uwch o lawer gan yr Undeb Ewropeaidd nag unrhyw ran arall o'r DU yn ystod y cyfnod hwn. Gwnaed y toriadau hynny ar draws y DU, nid yng Nghymru'n unig, ac er ein bod yn cytuno nad yw Barnett yn iawn, rydych wedi elwa o gyllid gwaelodol drwy garedigrwydd y Ceidwadwyr ac mae'n dal i fod gennych incwm y pen uwch drwy Barnett nag sydd gan Lloegr. Ni allwch ddefnyddio'r dadleuon hynny'n ddarbwyllol i egluro pam y mae perfformiad Cymru yn cymharu mor wael â rhannau eraill y DU pan ydych wedi cael mantais uniongyrchol, neu fan lleiaf, heb fod dan fwy o anfantais na gwledydd a rhanbarthau eraill.
Felly, gadewch i ni edrych ar y newid sylweddol rydych yn ei addo. Wrth wraidd y strategaeth hon, rydych yn dweud bod yna gydnabyddiaeth fod gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid gwirfoddol eisiau gweithio gyda'i gilydd tuag at amcanion cyffredin. Wel, yn bendant nid wyf am ddadlau yn erbyn yr egwyddor hon, gan y dylai unrhyw strategaeth, economaidd neu fel arall, gasglu talent a syniadau o bob ffynhonnell. Dyna pam fy mod eisiau eich sicrwydd nad cod gan Lywodraeth Cymru yw 'gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid gwirfoddol' i olygu'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn unig. Mae'r Llywodraeth hon yn ymatal fwyfwy rhag darparu gwasanaethau cyhoeddus traws-sector ac rwy'n credu bod hynny'n gamgymeriad. Nid yw mentrau cyllid preifat gwael yn hanesyddol a'r gwallgofrwydd proffil uchel a welsom gyda Carillion yn arwydd o sector preifat cwbl ddi-hid a rheibus yn y genedl hon o fusnesau bach a chanolig. Ac yn y wlad hon o fusnesau bach a chanolig, nid oes unrhyw strategaeth economaidd yn mynd i lwyddo os ydym yn ofni neu'n pardduo ein sector preifat.
Rydym wedi cael digon o wallgofrwydd lefel uchel yn y sector cyhoeddus dros y blynyddoedd, boed ar ffurf bysiau plygu yn Abertawe neu daflu arian i lawr y draen oherwydd oedi i welliannau'r M4, ond nid oes neb yn awgrymu ein bod yn troi ein cefnau ar y sector cyhoeddus. Os rhywbeth, Ysgrifennydd y Cabinet, yr hyn sydd ei angen yw perthynas fwy hyderus gyda'r sector preifat ac arbenigedd negodi difrifol. Ni ddylem byth boeni mai Eira Wen sy'n eistedd wrth y bwrdd gyda Darth Vader. Ac rydych yn gwybod ein bod o blaid mentro'n ofalus wrth fuddsoddi arian y trethdalwyr ac rydym yn derbyn y bydd rhywfaint o fuddsoddiad yn methu, ond bydd ein hetholwyr—cyfranddalwyr yng Nghymru ccc, os hoffwch—yn awyddus i chi ddiogelu eu cyfran, ond ni fyddant yn diolch i chi am gyfyngu ar eich opsiynau ar gyfer gwella eu bywydau.
Ni fyddant yn diolch i chi am hyrwyddo syniadau sy'n peryglu twf ychwaith. Mae'r ddogfen hon yn crybwyll pwerau codi ac amrywio trethi. Rydym wedi sôn am ardrethi busnes a'r dreth wely ymwelwyr. Rydych yn gwybod beth yw safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig a'r diwydiant ar yr olaf.