Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i chi, Hefin, rwy'n ddiolchgar am hynny. Oni allwch weld y diffyg sylfaenol yn y ddogfen hon, os darllenwch hi, nad oes unrhyw gynllun i ddweud ble fyddwn ni arni ar ddiwedd y broses hon? Yn fy sylwadau agoriadol, soniais ble rydym yn mynd i fod ar gyflogau, ble rydym yn mynd i fod ar werth ychwanegol gros—nid oes paramedrau i'r hyn rydym yn gweithio tuag ato, felly sut y gallwch ddweud y gall y ddogfen hon ennyn hyder pan nad oes llwybr clir o ran lle y byddwn ymhen pum mlynedd neu ymhen 10 mlynedd?