Part of the debate – Senedd Cymru am 6:21 pm ar 24 Ionawr 2018.
Byddai gennyf fwy o barch at y ddadl honno pe bai wedi'i adlewyrchu yn y cynnig a roddwyd gerbron y Siambr hon, yn hytrach na'i ddiystyru'n unig er mwyn rhoi llinell dda ar Twitter. Ond mae'n rhyfedd fod eich beirniadaeth o'r cynllun economaidd hwn mor gryf pan oedd y ddadl flaenorol ar y fargen ddinesig mor adeiladol. Nid wyf yn deall, oherwydd mae'r pethau hyn yn mynd law yn llaw, a'r unig ffordd y mae'r fargen ddinesig yn mynd i fod yn effeithiol yw os yw'r cynllun economaidd hwn yn gweithio law yn llaw â hynny, ac rwy'n credu yn sicr y gwnaiff.
Ochr yn ochr â hynny, mae gennym fetro de Cymru, a fydd yn rhan ohono. Mae gennym fargen ddinesig, ac mae gennym gynllun gweithredu'r Cymoedd. Un o'r pethau y buaswn yn ei ddweud am elfen yr economi sylfaenol, a beirniadaeth fach yw hi, un a grybwyllais wrth Ysgrifennydd y Cabinet yn y pwyllgor, yw bod yna bedwar sector sylfaenol yn y cynllun gweithredu economaidd, ond ceir saith sector sylfaenol yn adroddiad cyflawni'r Cymoedd. A chredaf fod angen—. Efallai yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y bydd y pethau hynny'n gweithio gyda'i gilydd, ac efallai hefyd y bydd hynny'n mynd rywfaint o ffordd, rwy'n credu, tuag at fynd i'r afael â phryderon y Ceidwadwyr, a hyd yn oed eu perswadio, yn y pen draw efallai, i bleidleisio yn erbyn eu cynnig gwirion eu hunain.