Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 24 Ionawr 2018.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon, a rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn siomedig gyda rhai o'r cyfraniadau hyd yma. Roeddwn yn synnu na wnaeth Rhun ap Iorwerth, yn ei feirniadaeth o Lywodraeth Cymru, ystyried y ffaith ein bod, am bedair blynedd yn ystod y degawd diwethaf, wedi cael Gweinidog yr economi a oedd yn Ddirprwy Brif Weinidog o Blaid Cymru, ac yn ystod ei gyfnod yn y swydd, dioddefasom y dirywiad economaidd gwaethaf yn hanes y Cynulliad.