Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 24 Ionawr 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y dywedais wrth Hefin David yn fy ymyriad, nid yw'r ddogfen yn cynnig unrhyw le i ddeall lle y bydd cyflogau yn y dyfodol yma yng Nghymru, ac nid yw'n cynnig unrhyw le i ddeall sut y bydd y polisïau hyn yn ysgogi gwerth ychwanegol gros, sydd ond wedi codi—gwneuthum y pwynt—0.5 y cant dros yr 20 mlynedd diwethaf. Sut y gall unrhyw un gael hyder pan nad ydych hyd yn oed yn darparu'r paramedrau y mae'r Llywodraeth yn gweithio iddynt? Rhowch rifau i ni weithio iddynt fel y gallwn ddweud wedyn a yw'n 'llwyddiant' neu'n 'fethiant'.