Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 24 Ionawr 2018.
Yn gyntaf oll, rwyf wedi cyfleu'n glir iawn fod y dangosyddion llesiant cenedlaethol yn ddull cyson i ni ei fabwysiadu ar draws y Llywodraeth. Ond rwyf wedi dweud ar sawl achlysur hefyd y gall gosod targedau arwain at gymhellion gwrthnysig, ac o ganlyniad, gall arwain at dwf economaidd anwastad. Gall gosod targedau ar gyfer cyflogaeth, er enghraifft, lle nad ydych yn cydnabod yr anghydraddoldebau ar draws rhanbarthau, arwain at greu swyddi lle y ceir lefel uchel iawn o gyflogaeth eisoes. Yn lle hynny, yr hyn rydym yn ei wneud yw mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol drwy gymhwyso dull gweithredu rhanbarthol newydd, a thrwy gymhwyso contract economaidd sy'n ceisio hybu eu gwaith—sy'n ceisio hybu sicrwydd gwaith. Mae'r rhain yn faterion y credaf eu bod wedi deillio o ymgysylltiad eang gyda'r gymuned fusnes, ond hefyd gyda phobl yn y mudiad undebau llafur sy'n cynrychioli degau o filoedd o bobl sy'n dymuno gweld safonau cyflogaeth yn gwella.
Rwy'n mynd i roi sylw i rai o'r pwyntiau penodol a fynegwyd gan Aelodau, gan ddechrau yn gyntaf oll gyda'r cwestiwn ynghylch gweithio trawsffiniol. Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr nad ydym yn sôn am hyn unwaith. Mewn gwirionedd, sonnir amdano ddwywaith ar dudalen 23 yn unig. Pam y cyfeiriaf at dudalen 23? Mae hynny oherwydd ein bod hefyd yn sôn am forlyn llanw ar gyfer bae Abertawe ar y dudalen honno, sef rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn aros yn dawel yn ei gylch. Ar y dudalen honno, rydym yn dweud:
'Yn y Gogledd ac yn y Canolbarth a'r De-orllewin, byddwn yn gallu defnyddio'r ffordd newydd o weithio i gryfhau ac i ddatblygu trefniadau pwysig ar gyfer datblygu'r economi a chynllunio trafnidiaeth ar draws ffiniau.'
Nawr, nododd Darren Millar yn hollol gywir yn ei gyfraniad fod cydweithredu trawsffiniol yn hanfodol o ran trafnidiaeth a chynllunio a datblygu economaidd, ac o'm rhan ni, yng ngogledd Cymru ac ar hyd y ffin, rydym eisoes wedi cyhoeddi ein bod yn ymrwymo i liniaru tagfeydd ar yr A494. Rydym yn buddsoddi'n drwm yn yr A55. Rydym yn mynd i liniaru man cyfyng sef cylchfan Halton ar yr A5. Rydym hefyd yn mynd i fod yn buddsoddi'n drwm yng ngorsafoedd rheilffordd Shotton a Wrecsam. Hoffem weld Llywodraeth y DU yn ategu ein buddsoddiad drwy fuddsoddi mewn seilwaith ar ochr Lloegr i'r ffin yng Nghaer, ar yr M56 yn Helsby, ac yn hollbwysig, ar yr A5 yn ardal yr Amwythig. Mae'r rhain yn broblemau enfawr y mae'n rhaid ymdrin â hwy.
Lywydd, wrth i mi gyrraedd diwedd fy nghyfraniad, bydd yr Aelodau, yn ddiau, yn ymwybodol o strategaeth ddiwydiannol y DU, a hoffwn ddweud bod angen i Lywodraeth y DU gefnogi'r geiriau mwyn am ailddosbarthu yn y strategaeth honno gyda buddsoddiad ar draws y DU gyfan, gan gynnwys yma yng Nghymru.