Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 30 Ionawr 2018.
Wel, mae yna gwestiwn fan hyn i awdurdod Gwynedd. Gwynedd oedd yr unig awdurdod yng Nghymru i beidio gofyn am gyllid o dan y rhaglen y gwnaethom ni ei datgan yr haf diwethaf i helpu i daclo digartrefedd ymhlith pobl ifanc a hefyd pobl yn cysgu y tu fas. Mae swyddogion wedi cwrdd â swyddogion yr awdurdod lleol, yn pwyso arnyn nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn cael gafael ar bob cyfle er mwyn dod â gafael ar y broblem hon. Ynglŷn â'r arian sydd wedi cael ei ddatgan, bydd hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei ystyried ynglŷn â pha ffordd yw'r ffordd orau i sicrhau bod y canlyniadau rydym ni'n moyn eu gweld yn dod i rym.