Digartrefedd yn Arfon

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:33, 30 Ionawr 2018

Mae'r cynnydd mewn cysgu allan yn cael ei weld fel problem i Gaerdydd a'r ardaloedd trefol mawr, ond mi rydw i'n bryderus o weld cynnydd ym Mangor, sy'n datblygu'n gyrchfan i'r rhai sydd yn ddigartref ar draws y gogledd-orllewin a thu draw. Mae yna beth cefnogaeth ar gael—mae yna ddwy hostel—ond mae angen canolfan ddydd yn y ddinas lle y gall pobl gael gafael ar gymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol. Rydw i'n cyfarfod efo'r asiantaethau yr wythnos yma i drafod sut i gael cynllun fel hyn ar y gweill. A fedrwch chi gadarnhau y bydd peth o'r arian ychwanegol ar gyfer taclo digartrefedd ymhlith yr ifanc—yr arian yma y gwnaethoch chi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr—yn cael ei wario ym Mangor?