Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:01, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r llythyr at yr Athro Healy gen i. Mae'r ymateb gen i. Prif Weinidog, hoffwn rannu'r rhain gyda chi, ond rwy'n gofyn, ar ran fy etholwyr, ar ran y staff sy'n gweithio yn yr unedau hyn: a wnewch chi edrych ar y gwasanaeth yn fwy gofalus os gwelwch yn dda, a chael sgwrs gydag Ysgrifennydd Cabinet efallai, a'i gael i ddangos ychydig bach mwy o frwdfrydedd a phryder efallai, pan fydd materion o'r math yma yn cael eu codi am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd?