Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod hi'n annheg iawn i awgrymu nad oes ots gan Ysgrifennydd y Cabinet—mae e'n rhywun sy'n teimlo'n angerddol am y gwasanaeth iechyd—ac nid dyna'r argraff y mae'n ei rhoi i'r cyhoedd yn sicr, rwy'n siŵr o hynny.

Rwy'n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu at brif weithredwr y bwrdd iechyd gyda nifer o bryderon am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Rydym ni wedi gofyn i brif weithredwr PBC gyfarfod â chi yn bersonol cyn gynted â phosibl i drafod eich pryderon. O ran y sylwadau am weithrediad tîm iechyd meddwl cymunedol Conwy, gwn fod y Prif Weithredwr a'r cyfarwyddwr iechyd meddwl wedi cyfarfod â phwyllgor craffu'r awdurdod lleol yr wythnos diwethaf i drafod pryderon a chamau gweithredu yn uniongyrchol â nhw.