Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 30 Ionawr 2018.
Wel, fel y dywedais, mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi cadarnhau y bydd hi'n sefydlu grŵp cyfeirio gyda chynrychiolwyr yn cael eu gwahodd o'r holl bleidiau gwleidyddol, ac aelodau etholedig ar lefel sirol, i'w diweddaru'n rheolaidd ar waith gweddnewid. Bydd y cyfarfod hwnnw'n cael ei gynnal yn fisol, a bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon at yr holl ACau, Aelodau Seneddol ac aelodau cyngor etholedig.