Llywodraethu Byrddau Iechyd GIG Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:17, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn dweud na ddylai unrhyw un ddefnyddio data mewn ffyrdd sydd ag effeithiau andwyol na ellir eu cyfiawnhau ar yr unigolion dan sylw, ac y dylech chi drin data personol pobl dim ond mewn ffyrdd y bydden nhw'n ei ddisgwyl yn rhesymol. Rydym ni i gyd yn reolwyr data yn ein swyddfeydd ein hunain yma yn y Cynulliad, wrth gwrs. Mae'r Rheolau Sefydlog yn dweud bod gan y Llywydd swyddogaeth eglur o ran goruchwylio a yw Aelodau yn ymddwyn mewn modd sy'n gyfystyr â throsedd. Ar sail hynny, a wnewch chi, Llywydd, addo adolygu'r ymateb a roddwyd gan y Prif Weinidog i gwestiwn a ofynnwyd gan Adam Price, yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin? Rwy'n credu ein bod ni'n sôn yma am ddefnydd amhriodol o ddata. Rydym ni'n sôn am fynediad sydd gan Weinidogion y Llywodraeth at wybodaeth sy'n cael ei chadw gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru am Aelodau Cynulliad, ac rydym ni'n sôn am fater o wybodaeth freintiedig yn cael ei defnyddio gan y Llywodraeth i ymosod ar Aelod o'r Cynulliad hwn.